Eco-Schools
A A A

Lleihau Sbwriel a Gwastraff yn Stanwell

Codi ymwybyddiaeth o daflu sbwriel a’i leihau yn yr ysgol ac y tu allan i’r ysgol hefyd.

Sut a phryd wnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn?

Ar ôl astudio’r adolygiad Amgylcheddol, penderfynodd y Pwyllgor Eco er bod Stanwell yn ysgol ddi-sbwriel yn gyffredinol, roedd rhaid ardaloedd lle roedd sbwriel yn dal i fod yn broblem. Nododd aelodau Eco-Stanwell 2 o’r ardaloedd hyn fel llwybr o faes parcio’r ysgol i’r arosfan fysiau a’r cyrtiau tenis a gafodd eu defnyddio yn ystod amser cinio ac egwyl gan ddisgyblion yr ysgol. Er bod llawer o finiau yn y cyrtiau tenis, penderfynwyd y byddai orau ceisio newid agweddau disgyblion. Ar y llaw arall, doedd dim bin ar y llwybr.

Beth wnaethoch chi?

Unwaith penderfynon ni ar ardal benodol i’w thargedi, wnaethom arolwg sbwriel cychwynnol ym mis Ionawr. Cafodd sbwriel ei gasglu a’i roi mewn bagiau amser cinio (am tua 12:30) bob dydd. Yr wythnos ganlynol ar ôl pob gweithgaredd codi sbwriel, roedd gwirfoddolwyr dewr wedi sortio drwy’r sbwriel ac yn cyfrif y sbwriel hawdd ei gategoreiddio, megis caniau, poteli a chwpanau coffi.   Yna gwnaethom bwyso’r holl sbwriel a gafodd ei gasglu. Er mwyn deall y canlyniadau ac adnabod y ffyrdd gorau i ddod i’r afael â’r broblem sbwriel, trafodon ni ble roedd y sbwriel wedi’i ganfod, y math o sbwriel, o ble daeth y sbwriel a phwy oedd mwyaf tebygol o’i daflu.

Roedd y poteli dŵr plastig a rhai o’r deunyddiau pacio bwyd (e.e. bisgedi) o gyntedd yr ysgol, bar brechdanau a chaffi’r chweched dosbarth. Fodd  bynnag, papur losin oedd y rhan fwyaf o’r sbwriel o’r tu fas i’r ysgol , sydd wedi’u prynu o’r siop leol gan ddisgyblion ar y ffordd i’r ysgol.

Cafodd bin ei roi ar y llwybr er mwyn creu ateb cadarnhaol yn ogystal â ffordd weledol o atgoffa pobl i roi sbwriel ynddo.

Sut mae’r prosiect wedi cael effaith ar eich ysgol a’ch cymuned?

Yn nhermau lleihau sbwriel yn syth, roedd ychwanegu bin ar gornel y llwybr wedi cael effaith glir, gan fod sbwriel yn y bin yn dangos ei fod yn cael ei ddefnyddio. Ailadroddon ni’r arolwg sbwriel ym mis Ebrill a mis Mehefin a dangosodd hyn lleihad yn y sbwriel a  gasglwyd o 6kg i 2.1kg.

Gan fod ein poteli un-tro yn rhan sylweddol y sbwriel hawdd ei gategoreiddio yn ein arolygon, penderfynon ni gael gwared ar blastig un-tro yn gyfan gwbl. Roedd hyn yn nod uchelgeisiol ac un rydym wedi ymrwymo i weithio arno dros y flynyddoedd nesaf. Rydym nawr wedi cyflwyno potel Stanwell y gellir ei hailddefnyddio ar gyfer staff a disgyblion.

Sut wnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw’r camau nesaf?

Gweithion ni gyda chymaint o adrannau’r ysgol â phosibl. Cynhalion ni wasanaethau a gafodd eu cyflwyno gan aelodau Eco-Stanwell a rhannon ni negeseuon ar y bwletin dyddiol. Cafodd sbwriel ac ailgylchu eu trafod mewn gwersi gan ddisgyblion blynyddoedd 10 ac 11 fel rhan o adran Byd-eang eu Bagloriaeth Gymreig. Rydym yn cynllunio i fonitro sbwriel yn yr ysgol a byddwn yn cymryd camau gweithredu os bydd newid arwyddocaol. Tra bod staff a disgyblion Stanwell yn ardderchog wrth sicrhau bod sbwriel yn cael ei roi yn y bin, mae’r pwyllgor yn teimlo y gellir gwneud mwy i sicrhau bod sbwriel ailgylchadwy a sbwriel na ellir ei ailgylchu yn cael eu rhoi yn y biniau cywir. Mae pecynnu bwyd yn faes penodol y gallwn ni ganolbwyntio arno gan y gall hyn yn aml ddrysu pobl  (yn enwedig gyda ein Vegware sy’n ddi-blastig – er y gellir compostio Vegware, dydy hyn ddim yn golygu y gellir ei roi mewn biniau gwastraff bwyd.

Ein hysgolion

Darganfod sut mae ysgolion yn eich ardal yn gwneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.

Gweld ein map o ysgolion

Cymryd rhan

Ymuno â digwyddiad neu weminar, cofrestru eich diddordeb, neu ddysgu sut i wneud cais am wobr.

Gweld yr holl ddigwyddiadau sydd ar y gweill