Eco-Schools
A A A

Mynd i’r afael â Sbwriel yn Stanwell

Prosiect ysgol gyfan i leihau’r sbwriel yn yr ysgol a’r ardal gyfagos.

Beth wnaethoch chi a sut gwnaethoch gynnwys yr ysgol gyfan?

Fe wnaeth aelodau’r Eco-Bwyllgor leihau’r sbwriel mewn ardaloedd wedi eu targedu yn sylweddol.  Fe wnaethant bosteri, rhoi negeseuon ar y bwletin dyddiol, gosod biniau ychwanegol, cyhoeddi canlyniadau eu harolwg a chodi ymwybyddiaeth gyda’r ysgol gyfan mewn gwasanaethau trwy amlygu mater plastig morol.  Yn ogystal, penderfynwyd gweithio ar blastig untro trwy brynu poteli dŵr amldro.

The Little Mermaid oedd cynhyrchiad Nadolig Stanwell.  I atgyfnerthu’r neges gwrth-sbwriel, ysgrifennodd aelodau’r pwyllgor barodi o ‘under the sea’ yn amlygu gwastraff fel rhan o gynhyrchiad yr ysgol.

Sut a pham y gwnaethoch benderfynu ar y targed hwn?

Nododd yr adolygiad amgylcheddol fannau sydd yn achosi problem o ran sbwriel, er gwaetha’r ffaith fod yr ysgol yn ddi-sbwriel i raddau helaeth. Cynhaliodd yr eco-bwyllgor arolwg manwl o dir yr ysgol a’r strydoedd cyfagos i nodi pwy oedd yn gollwng sbwriel ble ac i ganfod beth oedd yn cael ei ollwng.  Ar ôl nodi’r mater, lluniodd aelodau’r eco-bwyllgor nifer o ddulliau o fynd i’r afael â’r broblem.

Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?

O ran lleihau sbwriel ar unwaith, roedd rhoi bin ychwanegol ar gornel y llwybr wedi cael effaith amlwg, gan fod y sbwriel yn y bin yn dangos ei fod yn cael ei ddefnyddio.  Roedd effaith codi ymwybyddiaeth a lledaenu’r neges am sbwriel yn fwy anodd i’w fesur, er bod arolygon sbwriel wedi dangos gostyngiad net mewn sbwriel, felly mae’n debygol ei fod wedi gwneud gwahaniaeth.

Isod ceir y data a gasglwyd o’r tri arwolg sbwriel:

Sut gwnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?

Rydym yn bwriadu monitro sbwriel ar draws yr ysgol dros y blynyddoedd nesaf a byddwn yn gweithredu os oes newid sylweddol.  Er bod staff a disgyblion Stanwell yn wych yn sicrhau bod sbwriel yn cael ei roi mewn bin, mae’r pwyllgor yn teimlo y gellir gwneud mwy i sicrhau bod sbwriel y gellir ei ailgylchu a sbwriel na ellir ei ailgylchu yn cael ei roi yn y bin priodol.  Mae pecynnau bwyd yn faes penodol y gellir canolbwyntio arno, am fod hyn yn gallu bod yn ddryslyd yn aml (yn arbennig gyda’n Vegware di-blastig, lle nad yw neges yn nodi y gellir compostio o reidrwydd yn golygu y gellir ei roi mewn biniau gwastraff bwyd).