Eco-Schools
A A A

Achub ein cefnforoedd: ymagwedd ysgol gyfan

Codi ymwybyddiaeth o statws llygredd y Cefnfor a gweithredu i leihau plastig untro.

Beth wnaethoch chi a sut gwnaethoch chi gynnwys yr ysgol gyfan?

Crëodd arweinwyr pwnc adnoddau a chynlluniau gwersi yn ymwneud â thema Achub ein cefnforoedd.

Trefnwyd taith i Rhosili, Gŵyr ar gyfer Blwyddyn 7 ac 8 i gyd mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Cadwraeth Forol i arsylwi llygredd plastig a glanhau’r traeth.  Crëodd y myfyrwyr waith fel erthyglau, mapiau a phosteri ar lygredd plastig a chafodd y rhain eu dangos mewn arddangosfa i’r gymuned leol.  Adolygodd yr Eco-Bwyllgor y lle gorau i osod tair ffynnon ddŵr newydd i annog pobl i ail-lenwi, yn hytrach na phrynu poteli newydd.  Cynhaliwyd diwrnod gwisg eich hun gyda’r myfyrwyr yn gwisgo glas i godi ymwybyddiaeth o lygredd plastig gyda’r arian yn mynd tuag at y ffynhonnau dŵr.

Sut a pham y gwnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn?

Cafodd angen ei amlygu yn yr adolygiad amgylcheddol a daeth y syniad yn rhannol o gyfarfodydd yr Eco-Bwyllgor, lle’r oedd myfyrwyr wedi gweld y mater yn y cyfryngau ac eisiau mynd i’r afael â hyn.

Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?

Cafodd tair ffynnon arall eu gosod o amgylch adeilad yr ysgol ac mae’r myfyrwyr bellach yn dod â chynwysyddion y gellir eu hail-lenwi, yn hytrach na phrynu dŵr potel.  Codwyd yr arian ar gyfer y ffynhonnau dŵr yn ystod y diwrnod gwisg eich hun, gyda chyfanswm o £592 yn cael ei gasglu.  Wrth lanhau’r traeth, casglwyd tri bag bin du o sbwriel a malurion plastig yn Rhosili.  Cynhaliwyd arddangosfa ‘Arddangos Cefnforoedd’ ar ôl ysgol ym mis Gorffennaf, gyda’r gymuned leol yn mynychu a dysgu am y materion trwy weld y gwaith a wnaed ar y thema gan y myfyrwyr.  Cawsom gryn dipyn o adborth cadarnhaol gan bobl a busnesau lleol oedd yn dweud y byddent yn lleihau eu defnydd o blastig ac yn chwilio am ddewisiadau amgen.

Sut gwnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?

Mae thema ‘Achub ein Cefnforoedd’ a lleihau gwastraff bellach yn cael ei chynnwys yn benodol ym mhob pwnc gyda gwersi newydd a hyd yn oed cynlluniau gwaith yn cael eu dylunio o’i hamgylch, fel Daearyddiaeth cyfnod allweddol 3.

Hyd yn hyn yn ystod y flwyddyn academaidd hon, rydym eisoes wedi dechrau lobïo Powys Catering, sydd yn cynnal y ffreutur, i gael gwared ar y ffyrc plastig a ddefnyddir ac i leihau’r cwpanau plastig y maent yn eu defnyddio ar hyn o bryd, sydd yn dod i gyfanswm o gant y dydd.

Ein hysgolion

Find out how schools in your area are doing on the Eco-Schools programme

Map Eco-Sgolion

Cymryd rhan

Join an event or webinar, register your interest, or learn how to apply for an award.