Eco-Schools
A A A

Arolwg a chynllun gweithredu arbed ynni yr ysgol

Prosiect arbed ynni gydag Eco-Bwyllgor yr ysgol – arolwg a gwerthusiad ynni yr ysgol.

Arolwg a Chynllun Gweithredu Arbed Ynni yr Ysgol

Beth wnaethoch chi a sut gwnaethoch chi gynnwys yr holl ysgol?

Fe wnaethom gwblhau arolwg ynni o amgylch adeiladau’r ysgol gan ddefnyddio synwyryddion gwres i weld ble roedd ynni a gwres yn dianc. Gwelsom hefyd ystafelloedd lle’r oedd golau yn cael ei adael ymlaen a drysau’n cael eu gadael ar agor. Ysgrifenwyd adroddiad ac argymell i’r SLT a’r llywodraethwyr ble dylai arian ac ynni gael ei arbed.

Sut a pham y penderfynwyd ar y targed hwn?

Gan ddefnyddio’r Adolygiad Amgylcheddol a chymorth gan Severn Wye a anfonodd weithiwr proffesiynol i’n helpu i gwblhau’r arolwg ynni a rhoi benthyg y cyfarpar i ni.

Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?

Nododd yr arolwg ynni sut, fel ysgol, y gallem o bosibl arbed £24,000 y flwyddyn ac, yn bwysicach, lleihau ein hallyriadau carbon o 154tCO2. Cafodd yr awgrymiadau eu rhannu’n ad-daliadau isel, canolig ac uchel, er mwyn i ni allu creu cynlluniau gweithredu hirdymor a thymor byr.

Sut gwnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?

Canmolodd y llywodraethwyr a’r SLT eco-bwyllgor yr ysgol am eu cyflwyniad a’r awgrymiadau a dathlodd yr ysgol trwy roi gwybod i’r gymuned trwy ein cylchlythyr.

Ein hysgolion

Find out how schools in your area are doing on the Eco-Schools programme.

Map Eco-Sgolion

Cymryd rhan