Eco-Schools
A A A

Lleihau’r defnydd o geir

Lleihau nifer y teithiau car un person yn Ysgol Y Cymer.

Beth wnaethoch chi a sut gwnaethoch chi gynnwys yr ysgol gyfan?

Gofynnodd y disgyblion i’r holl staff gwblhau holiadur i sefydlu sut oeddent yn teithio i’r ysgol.  Gofynnodd yr Eco-bwyllgor a fyddai’r athrawon yn fodlon/gallu ystyried rhannu ceir. Dangosodd canlyniadau’r holiadur fod 97% o’r 80 o staff yn teithio i’r ysgol yn y car, dim ond 14% oedd yn rhannu lifft bob dydd a 76% yn rhannu unwaith y mis/byth.  Er gwaethaf hyn, dywedodd bron 50% o’r staff y byddent yn ystyried rhannu ceir/byddent yn gallu rhannu ceir.

Gofynnodd y disgyblion am ganiatâd yr uwch dîm rheoli i sefydlu ‘diwrnod ymgyrch rhannu ceir’ neilltuol i annog staff i deithio i’r ysgol yn gynaliadwy a phenderfynwyd monitro llwyddiant parhaus eu hymgyrch trwy gyfrif nifer y ceir oedd yn defnyddio’r maes parcio bob wythnos.

I annog teithio cynaliadwy, rhoddwyd taflen ffeithiau i’r staff am fuddion rhannu ceir, yn amlygu budd amgylcheddol llai o gerbydau ar y ffordd ynghyd â buddion iechyd peidio â gorfod gyrru bob dydd.  Cynhaliwyd y diwrnod gweithredu cychwynnol a pharhaodd y disgyblion â’r ymgyrch trwy ofyn i’r staff rannu ceir ar ddydd Gwener.  Gofynnwyd i ddisgyblion y 6ed dosbarth deithio i’r ysgol ar y bysiau sydd yn cael eu darparu hefyd.

Fel darn ategol o waith ac i ehangu dealltwriaeth y disgyblion a lleihau nifer y teithiau mewn ceir ymhellach, gofynnwyd i’r disgyblion, fel rhan o’u gwaith dosbarth, ystyried y milltiroedd bwyd oedd yn gysylltiedig â’r bwyd yr oeddent yn ei fwyta.

Sut a pham y gwnaethoch benderfynu ar y targed hwn?

Yn ystod yr adolygiad amgylcheddol, cafodd trafnidiaeth ei amlygu fel maes targed.  Roedd y disgyblion yn cydnabod, oherwydd dalgylch yr ysgol, bod y rhan fwyaf o’r disgyblion eisoes yn cerdded i’r ysgol neu’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.  Penderfynodd y disgyblion felly i fynd i’r afael â nifer y teithiau unigol mewn car yr oedd y staff a myfyrwyr y 6ed dosbarth yn eu gwneud.

Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?

Mae llwyddiant y prosiect wedi tyfu yn ystod y flwyddyn. Yn gyffredinol, nododd y disgyblion welliant o 20% rhwng tymor 1 a 3, gyda gwelliant mwy byth yn dilyn newid i’r ffordd y gofynnwyd i ddisgyblion 6ed dosbarth deithio i’r ysgol.  Cofnododd y disgyblion ostyngiad o 50% yn nifer y ceir sydd yn defnyddio’r maes parcio.

Sut gwnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?

Bydd y disgyblion yn parhau i fonitro’r fenter gyda diwrnod neilltuol ar gyfer rhannu ceir ar ddydd Gwener.