Eco-Schools
A A A

Hybu Elfennau Eco Drwy Addysgu yn yr Awyr Agored

Rhoi cyfleoedd amrywiol i’r plant i gyd fwynhau yr awyr agored a magu  ymwybyddiaeth o natur yn ogystal a dysgu sgiliau newydd.

Beth wnaethoch chi a sut gwnaethoch gynnwys yr ysgol gyfan?

Rydym wedi penderfynu  ffocysu llawer mwy ar addysgu yn yr awyr agored.Mae pob dosbarth wedi bod yn rhan amlwg ohono .Mae’r Cyfnod Sylfaen wedi ei gyflawni mewn heriau yn yr ardaloedd tu allan ac yn ein cyfnodau Mawrth/ Mercher mwdlyd wythnosol.Mae Cyfnod Allweddol 2 wedi cyflawni’r  gweithgareddau yn ystod eu hamser gwersi arferol yn ogystal ac yn ei sesiynau Amser Antur.

Sut a pham y gwnaethoch benderfynu ar y targed hwn?

Penderfynwyd ar y darged yma fwyaf oherwydd amgylchiadau a cyfuniadau coronafeirws. Roedd pawb yn gytun fod angen i’r plant fod allan yn yr awyr agored a cael cyfleoedd i fwynhau natur a defnyddio’r awyr agored i ddysgu sgiliau newydd. Wrth wneud hyn hefyd roeddem yn taro sawl agwedd o’r adolygiad amgylcheddol ac ein cynlluniau gweithredu.

Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?

Mae cwblhau y prosiect / targed wedi cael effaith bositif ar y plant yn enwedig ar eu iechyd a lles. Maent yn gytun eu bod wedi mwynhau dysgu sgiliau newydd yn yr awyr agored. Mae’r ysgol wedi ymweld gyda llawer o lefydd lleol a drwy wneud hyn maent wedi gwerthfawrogi ei cymuned a gweld beth sydd gan Llangollen i’w gynnig ee Plas Newydd, Castell Dinas Bran , coedwig Pengwern ayyb. Hyderwn fel staff y byddant yn frwdfrydig i fynd i’r llefydd amwrywiol eto  hefo’i teuleuoedd a rhannu eu profiadau/ gwybodaeth a ddysgwyd.

School children reading clipboard

Sut gwnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?

Cafodd plant CA2 eu gwobrwyo am eu hymdrechion drwy basio lefel 1 ( gwobr ddarganfod) John Muir. Nid oeddent yn gallu pasio’r lefel heb ddangos eu bod yn parchu natur ac wedi mynychu 25 awr yn yr awyr agored. Nesaf byddant yn ymgeisio i basio lefel 2 ( gwobr archwilio) sydd yn 50 awr o weithgareddau yn yr awyr agored. Bydd y Cyfnod Sylfen yn parhau i gynnal gweithgareddau wythnsol yn yr awyr agored a hybu eu brwdfrydedd i ddysgu am natur a’r byd o’i cwmpas. Mae’r holl amrywiaeth o weithgareddau awyr agored a gyflanwyd gan yr ysgol i’w weld ar ein tudalen trydar a gweplyfr.

Ein hysgolion

Darganfod sut mae ysgolion yn eich ardal yn gwneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.

Gweld ein map o ysgolion.

Cymryd rhan

Ymuno â digwyddiad neu weminar, cofrestru eich diddordeb, neu ddysgu sut i wneud cais am wobr.

Gweld yr holl ddigwyddiadau sydd ar y gweill