Gwneud ffrindiau newydd. Newid ymddygiad. Magu hyder. Ni allwch fychanu’r manteision o fod yn rhan o’r teulu Eco-Sgolion.
Mae Eco-Sgolion yn rhaglen gynhwysol a cyfannol. Rydym eisiau codi dyheadau pob dysgwr, yn eu galluogi i wneud camau tuag at bedwar diben y cwricwlwm.
Mae’r naw pwnc Eco-Sgolion cydgysylltiedig yn rhoi cyfle i ddatblygu dull thematig ar draws pob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh).
Mae hyn, nid yn unig yn caniatáu i fyfyrwyr ddod yn fwy soffistigedig yn eu dealltwriaeth amgylcheddol, ond mae hefyd yn eu galluogi i wneud cysylltiadau a throsglwyddo sgiliau a ddysgwyd.
Mae gennym ystod o anodau sydd wedi’u dylunio i hybu’r cysylltiadau trawsgwricwlaidd hyn.
Cysyniad sylfaenol Eco-Sgolion yw adnabod meysydd o fewn ysgol y gellir eu gwella’n amgylcheddol a chymryd camau i wneud gwahaniaeth. Gall hyn arwain at arbedion sylweddol mewn costau ym meysydd fel gwastraff, ynni, dŵr a sbwriel. Y cyfan yn sgil newidiadau positif mewn ymddygiad, sydd wedi’u hysgogi gan eich disgyblion!
Mae rhaglen Eco-Sgolion yn cysylltu cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Yn fwy na hynny, mae’r naw pwnc Eco-Sgolion yn cyd-fynd â llawer o 17 Nod Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Mae Eco-Sgolion yn cael eu hannog i edrych y tu hwnt i diroedd yr ysgol, estyn allan i’r gymuned ehangach a mynd i’r afael â materion lleol.
Mae’r rhaglen wedi’i gwreiddio yn niwylliant Cymru ac mae wedi’i chydnabod ar lefel cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi cefnogi’r rhaglen am fwy na 20 o flynyddoedd.
Mae Eco-Sgolion yn ffenomen fyd-eang sy’n gweithredu mewn 70 o wledydd. Mae cymryd rhan yn y rhaglen yng Nghymru yn gwneud eich ysgol yn rhan o deulu byd-eang o fwy na 56,000 o ysgolion ledled y byd sy’n cymryd camau cadarnhaol i greu dyfodol cynaliadwy.
Gallwch gymryd rhan mewn ymgyrch, ymuno â gwers am ddim, a dal i fyny â hyfforddiant diweddar.
Mae ein holl Eco-Sgolion yn gweithio drwy saith cam. Ar ôl i ysgol roi hyn ar waith a chasglu tystiolaeth o’i chynnydd, mae’n gallu gwneud cais am wobr Eco-Sgolion
I ddechrau credwyd y byddai’n amhosibl sefydlu Pwyllgor Eco-Sgolion oherwydd natur anghenion addysgol arbennig ein plant. Mae’r ysgol yn bennaf ar gyfer plant ag awtistiaeth ac felly bydd y plant hyn yn cael anawsterau yn cyfathrebu’n gymdeithasol...Mae’r Pwyllgor EcoSgolion wedi darparu llwyfan i ddod â’r grwpiau hyn ynghyd ac mae wedi helpu llawer o blant i gael hyder yn siarad yn y grŵp. Ysgol Hollies
I ddechrau credwyd y byddai’n amhosibl sefydlu Pwyllgor Eco-Sgolion oherwydd natur anghenion addysgol arbennig ein plant. Mae’r ysgol yn bennaf ar gyfer plant ag awtistiaeth ac felly bydd y plant hyn yn cael anawsterau yn cyfathrebu’n gymdeithasol...Mae’r Pwyllgor EcoSgolion wedi darparu llwyfan i ddod â’r grwpiau hyn ynghyd ac mae wedi helpu llawer o blant i gael hyder yn siarad yn y grŵp.
Ysgol Hollies
Mae ysbryd yr E-dîm yn anhygoel ac mae’r disgyblion wrth eu bodd yn cymryd rhan weithredol bob wythnos. Maent yn ymfalchïo yn eu hysgol… Eleni, rydym yn disgwyl gweld 40 a mwy o aelodau yn mynychu’r E-dîm am eu bod wedi gweld drostynt eu hunain pa mor werthfawr yw’r clwb. Mae’n anrhydedd gweld y balchder hwn yn y plant a’r awydd i ddiogelu’r amgylchedd. Ysgol Gynradd Eastern
Mae ysbryd yr E-dîm yn anhygoel ac mae’r disgyblion wrth eu bodd yn cymryd rhan weithredol bob wythnos. Maent yn ymfalchïo yn eu hysgol… Eleni, rydym yn disgwyl gweld 40 a mwy o aelodau yn mynychu’r E-dîm am eu bod wedi gweld drostynt eu hunain pa mor werthfawr yw’r clwb. Mae’n anrhydedd gweld y balchder hwn yn y plant a’r awydd i ddiogelu’r amgylchedd.
Ysgol Gynradd Eastern
Mae un person yn gallu dechrau’r newid, mae un grŵp yn gallu dylanwadu ar eraill, mae un gymuned yn gallu gwneud gwahaniaeth i genedlaethau’r dyfodol. Nid yw hyn yn broblem un person; mae’n broblem bawb. Meddyliwch yn lân, meddyliwch yn daclus, meddyliwch am gymuned well. Disgyblion Ysgol Bro Gwaun
Mae un person yn gallu dechrau’r newid, mae un grŵp yn gallu dylanwadu ar eraill, mae un gymuned yn gallu gwneud gwahaniaeth i genedlaethau’r dyfodol. Nid yw hyn yn broblem un person; mae’n broblem bawb. Meddyliwch yn lân, meddyliwch yn daclus, meddyliwch am gymuned well.
Disgyblion Ysgol Bro Gwaun
Mae Eco-Sgolion wedi sicrhau bod eco-addysg nid yn unig yn‘ychwanegiad’ ar gyfer ticio bocs ESDGC. Mae wedi sicrhau ein bod wedi sefydlu eco-addysg trwy’r cwricwlwm cyfan. Mae ein disgyblion yn fwy ymwybodol o’u hamgylchedd a’r ffordd y gall y penderfyniadau y maent yn eu gwneud gael effaith waeth neu well arno. Ysgol Uwchradd Bassaleg
Mae Eco-Sgolion wedi sicrhau bod eco-addysg nid yn unig yn‘ychwanegiad’ ar gyfer ticio bocs ESDGC. Mae wedi sicrhau ein bod wedi sefydlu eco-addysg trwy’r cwricwlwm cyfan. Mae ein disgyblion yn fwy ymwybodol o’u hamgylchedd a’r ffordd y gall y penderfyniadau y maent yn eu gwneud gael effaith waeth neu well arno.
Ysgol Uwchradd Bassaleg