Bydd ein hyfforddiant sefydledig ar gyfer eco-gydlynwyr newydd uwchradd yn rhedeg bob tymor y flwyddyn academaidd hon fel sesiwn hyfforddi rithwir dwy ran, yn rhedeg dros ddwy sesiwn cyfranogol o ddwy awr.
Rydym wedi ymestyn ein hyfforddiant Newid Hinsawdd i Addysgwyr er mwyn ei wneud yn gwrs ardystiedig. Bydd y cwrs yn rhoi’r wybodaeth i chi ddeall achosion ac effeithiau newid hinsawdd yn ogystal â ffyrdd i gymryd camau gweithredu cadarnhaol.
Bydd ein hyfforddiant sefydledig a hynod boblogaidd ar gyfer cydlynwyr newydd yn cael ei gynnal yr gwanwyn hwn fel sesiwn hyfforddi rithwir dwy ran, yn rhedeg dros ddwy sesiwn cyfranogol sy’n para dwy awr yr un.
Ar Ddiwrnod Llyfr y Byd, pam lai ymuno â ni ar gyfer sesiwn addysg, ar y cyd rhwng Cadw Cymru’n Daclus a Dŵr Cymru. Bydd ein tîm yn cyflwyno darllediad byw o’r llyfr ffuglen Carthffos Llawn Cyfrinachau, a ddatblygwyd gan ddisgyblion, i ddisgyblion.
Gyda dysgu yn yr awyr agored yn amlwg o fewn Cwricwlwm Cymru, rydym wedi datblygu sesiwn hyfforddi ysbrydoledig sydd wedi’i thargedu at staff ysgolion cynradd er mwyn eu helpu i ddefnyddio tiroedd yr ysgol fel adnodd dysgu yn ogystal â bod yn hafan i fywyd gwyllt.