Cynllun gwobr Eco-Sgolion

Ariennir y rhaglen Eco-Sgolion gan Lywodraeth Cymru ac mae am ddim i ysgolion Awdurdod Lleol, ond mae’n ofynnol i Ysgolion Annibynnol gyfrannu at y cymorth y maent yn ei gael.

Os ydych chi’n ysgol annibynnol, cysylltwch â eco-schools@keepwalestidy.cymru

Efydd

Mae’r Wobr Efydd yn cael ei hunanasesu ac mae’n canolbwyntio ar sefydlu’r broses Eco-Sgolion fel bod gan ysgol bopeth sydd ei angen i fynd i’r afael â’r gwaith y maent wedi ei gynllunio!

Arian

Mae’r Wobr Arian yn cael ei hunanasesu ac mae’n datblygu’r broses Eco-Sgolion a sefydlwyd yn y Wobr Efydd. Mae’n rhaid i’r gwaith hwn ddangos tystiolaeth o gynnydd tuag at y Faner Werdd.

Y Faner Werdd

Yn wahanol i Wobrau Efydd ac Arian, nid yw’r Faner Werdd yn cael ei hunanasesu.  Bydd yr ysgol yn llenwi ffurflen gais a bydd Asesydd Eco-Sgolion yn ymweld â’ch ysgol i weld a ydych wedi bodloni’r meini prawf. Er mwyn cadw statws y Faner Werdd, bydd angen i ysgolion adnewyddu eu gwobr bob dwy flynedd.

Mae ysgolion yn cyflawni Statws Platinwm unwaith y maent wedi cael y Faner Werdd bedair gwaith – sydd yn dangos eu hymrwymiad hirdymor i addysg amgylcheddol, cyfranogiad myfyrwyr a chynaliadwyedd.  Mae ein hysgolion Platinwm gyda’r gorau yn y byd ar y rhaglen Eco-Sgolion.

Platinwm

Os oes gennych dair baner werdd ar hyn o bryd ac yn paratoi i fynd am eich dyfarniad platinwm, mae’n yr un broses â baneri gwyrdd blaenorol ond gyda rhai meini prawf ychwanegol i’w hystyried.

I gael mwy o wybodaeth neu gefnogaeth gyda’r broses ymgeisio, cysylltwch â’ch Swyddog Eco-Ysgolion lleol a fydd yn hapus i helpu.

Gwneud cais

Gallwch lenwi eich ffurflen gais ddiweddaraf ar-lein.

Mewngofnodwch yma

Newydd i Eco-Sgolion?

Dechrau eich taith Eco-Sgolion drwy gofrestru eich ysgol heddiw.

Cofrestrwch eich ysgol heddiw