Eco-Schools
A A A

Saith cam i lwyddiant

Mae Eco-Sgolion yn cael cymorth neilltuol gan Swyddog Eco-Sgolion Cadwch Gymru’n Daclus a chânt eu tywys trwy raglen, proses ymgeisio a gwobrau Eco-Sgolion. Y peth gwych am y rhaglen yw bod lle bob amser i ddatblygu’r gwaith anhygoel y mae myfyrwyr yn ei wneud, yn ystod pob cam.

I gynyddu llwyddiant, mae ein holl Eco-Sgolion yn gweithio trwy saith cam (a restrir isod). Unwaith y mae ysgol wedi sefydlu’r broses hon ac wedi casglu tystiolaeth o’u cynnydd, gallant wneud cais am Wobr Eco-Sgolion – achrediad a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Am arweiniad manwl am y broses Eco-Sgolion, lawrlwythwch ein canllaw cam wrth gam.

Gallwch chi weld mwy o wybodaeth am y saith cam isod neu gwyliwch ein fideos sy’n dangos pob cam ar waith.

secondary school with green flag

Cydlynydd Eco

Mae’r Cydlynydd Eco yn hwyluso’r rhaglen Eco-Sgolion yn yr ysgol.

Disgrifiad rôl Cydlynydd Eco

Newydd i Eco-Sgolion?

Dechrau eich taith Eco-Sgolion drwy gofrestru eich ysgol heddiw.

Cofrestrwch eich ysgol

Cam 1:

Ffurfio Eco-Bwyllgor

Bydd y grŵp hwn yn cynrychioli safbwyntiau’r ysgol gyfan ac yn gweithredu fel y canolbwynt a fydd yn gyrru’r gwaith ymlaen ac yn trafod y cynnydd. Bydd yr Eco-Bwyllgor yn gweithio hefyd i gadw proffil y rhaglen Eco-Sgolion yn uchel.

Meini prawf allweddol
  • Mae angen i’r Eco-Bwyllgor gyfarfod yn rheolaidd.
  • Gall oedolion a rhai nad ydynt yn ddisgyblion gymryd rhan, naill ai drwy fynychu cyfarfodydd neu drwy helpu gyda thasgau penodol.
  • Rhaid cadw cofnodion o’r cyfarfodydd
  • Bydd yr Eco-Bwyllgor yn gwneud yn siŵr bod gweddill yr ysgol yn cael gwybod beth y maent wedi bod yn ei wneud neu’n ei drafod.

Cam 2:

Cynnal Adolygiad Amgylcheddol

Pwrpas yr adolygiad yw helpu’r Eco-Bwyllgor i feddwl am ffyrdd o geisio sicrhau bod yr ysgol yn lleihau ei heffaith ar yr amgylchedd. Trwy gynnal adolygiad cynhwysfawr bydd modd sicrhau na fydd unrhyw feysydd sylweddol o ran effaith yn cael eu hanwybyddu. Yna, ar sail canlyniadau’r adolygiad, bydd Cynllun Gweithredu’n cael ei lunio.

 
Meini prawf allweddol
  • Dylid adolygu'r naw maes bob blwyddyn.
  • Rhaid i’r disgyblion fod yn rhan o’r gwaith adolygu.
  • Dylid trafod y canlyniadau ar ddiwedd yr adolygiad

Cam 3:

Datblygu Cynllun Gweithredu

Pam fod angen Cynllun Gweithredu? Mae’n bwysig iawn eich bod yn trefnu eich syniadau gan ffurfio cynllun gweithredu. Wrth greu’r cynllun byddwch yn medru sicrhau eich bod yn cynnwys nifer realistig o weithgareddau a gweithio allan sut i fonitro a mesur cynnydd eich gweithredoedd. Mae cynllun gweithredu CAMPUS yn helpu pawb i ganolbwyntio.

 
Meini prawf allweddol
  • Mae angen i’r Cynllun Gweithredu ddangos y gweithredoedd arfaethedig yn glir a sut y byddant yn cael eu cyflawni.
  • Mae angen iddo fod yn addas ar gyfer oed a gallu’r disgyblion (neu dylid cael fersiwn arall sydd yn addas).
  • Mae angen iddo fod mewn fformat sydd yn ddealladwy i bob aelod arall o’r staff.
  • Rhaid sicrhau cefnogaeth y Pennaeth i’r Cynllun Gweithredu.

Cam 4:

Monitro a Gwerthuso

Pam Monitro a Gwerthuso? Er mwyn canfod a ydych yn llwyddo i gyflawni’r targedau sydd yn eich cynllun gweithredu rhaid monitro a mesur eich cynnydd. Bydd hynny’n caniatáu i chi werthuso llwyddiant eich gweithgareddau a chynllunio i wneud newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn dal i weithio tuag at gyflawni eich targedau.

 
Meini prawf allweddol
  • Dylai’r monitro fod yn ystyrlon i’r disgyblion sydd yn ei weithredu ac yn briodol ar eu cyfer.
  • Rhaid i’r Eco-Bwyllgor drafod y cynnydd a wneir mewn perthynas â’r Cynllun Gweithredu ac, yn ddelfrydol, dylai’r ysgol gyfan ei drafod.
  • Dylai peth o’r gwaith monitro gael ei gyflawni fel rhan o’r gwaith dosbarth.
Dolenni a lawrlwythiadau defnyddiol

Cam 5:

Hysbysu a Chynnwys

Pam Hysbysu a Chynnwys? Mae’n bwysig bod cymaint o bobl ag y bo modd yn gwybod am eich gweithgareddau ac yn cymryd rhan ynddynt. Wrth gael mwy o bobl yn cymryd rhan yn eich Eco-Weithredoedd bydd yr effaith a’r hwyl yn fwy!

 
Meini prawf allweddol
  • Mae angen i’r ysgol gyfan wybod am y rôl mae’r Eco-Bwyllgor yn ei chwarae.
  • Dylai’r disgyblion i gyd gael cyfle i gyflwyno syniadau ac awgrymiadau os ydynt yn dymuno.
  • Dylai’r ysgol gyfan gael gwybod beth sydd yn y Cynllun Gweithredu Eco-Sgolion ac am y cynnydd.
  • Dylai’r gymuned ehangach gael gwybod am amcanion yr ysgol ac am bob cynnydd.

Cam 6:

Creu Eco-Gôd

Pam bod angen Eco-Gôd? Mae Eco-Gôd yn ffordd hwyliog o grynhoi prif amcanion Eco-Bwyllgor yr Ysgol. Dylid ei gyflwyno mewn ffurf sydd yn ystyrlon i’r disgyblion a’r ysgol gyfan. Gellir ei ddefnyddio i godi proffil yr Eco-Bwyllgor a thargedau’r cynllun gweithredu a dylid ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau ei fod yn dal yn berthnasol ac yn gyfarwydd.

 
Meini prawf allweddol
  • Dylai’r disgyblion ddatblygu’r Eco-Gôd.
  • Dylid ei ddiwygio neu o leiaf ei adolygu bob blwyddyn.
  • Rhaid sicrhau bod yr ysgol gyfan yn ymwybodol o’r Eco-Gôd a’r hyn mae’n sefyll drosto.
Dolenni a lawrlwythiadau defnyddiol

Cam 7:

Cysylltu â’r Cwricwlwm

Pam cysylltu â’r cwricwlwm? Drwy sicrhau bod y broses Eco-Sgolion yn cael ei gysylltu â chwricwlwm yr ysgol yn hytrach na’i gadw’n weithgaredd ar wahân ar gyfer y grŵp bach sydd ar yr Eco-Bwyllgor fe gyflwynir ADCDF. Mae hefyd yn sicrhau bod aelodau eraill o’r staff yn cefnogi’r gwaith. Bydd disgyblion yr ysgol gyfan yn deall sut yr ymdrinnir â phroblemau amgylcheddol real mewn sefyllfaoedd real.

 
Meini prawf allweddol
  • Dylid ymdrin ag elfennau o Eco-Sgolion fel rhan o’r gwaith cwricwlwm.
  • Dylai mwy nag un dosbarth gymryd rhan

Canllaw fideo i saith cam Eco-Sgolion

Ydych chi’n chwilio am esiamplau, mwy o gyd-destun neu ysbrydoliaeth ar eich taith Eco-Sgolion? Edrychwch ar ein fideos rhagarweiniol sy’n dangos yn union beth sydd ei angen ar bob cam y broses. Mae’r fideos hyn yn dangos enghreifftiau go iawn o sut mae ysgolion dros Gymru wedi cwblhau ac elwa o bob un o’r saith cam.

Ffurfio Eco-Bwyllgor

Cam Un
2. Cynnal Adolygiad Amgylcheddol

Cam Dau
Datblygu Cynllun Gweithredu

Cam Tri
Monitro a Gwerthuso

Cam Pedwar
Hysbysu a Chynnwys

Cam Pump
Creu Eco-Gôd

Cam Chwech
Cysylltu â’r Cwricwlwm

Cam Saith

Sut gallwn ni helpu?