A A A

Arloeswyr ifanc yn mynd i’r afael â llygredd plastig ar gopa Yr Wyddfa

Mewn menter arloesol, daeth pobl ifanc angerddol o ysgolion uwchradd ledled Cymru ynghyd ar Yr Wyddfa ar gyfer yr uwchgynhadledd hinsawdd ieuenctid, COPA1 (24 Medi).

Y digwyddiad hanesyddol ar 24 Medi oedd y gynhadledd ieuenctid gyntaf erioed i gael eu chynnal ar y copa eiconig.

Gweithiodd disgyblion o flynyddoedd 7-12 gydag arbenigwyr diwydiant i feddwl am syniadau i lunio dyfodol prosiect ‘Yr Wyddfa Ddi-blastig’. Cawsant wedyn y cyfle i gyflwyno eu syniadau, gyda’r grwpiau buddugol yn cael eu dewis o dri chategori – Arloesedd, Creadigrwydd a Syniadau Newydd.

Arloesedd

Clipiau Belt Plastig wedi eu hailgylchu: dyluniodd Mei, Owen, a Ryan o Ysgol Uwchradd Brynrefail glipiau belt ag argraffiadau 3D wedi eu gwneud o blastig wedi ei ailgylchu. Cafodd y clipiau hyn eu gwerthu gyda bagiau y gellir eu compostio i annog ymwelwyr i “godi darn” a chyfrannu at fynydd glanach.

Creadigrwydd

Gosodwaith Celf Effaith Uchel: creodd Harri a Jack o Ysgol Dyffryn Ogwen osodwaith celf trawiadol o’r Wyddfa gan ddefnyddio deunyddiau cymysg, yn cynnwys sbwriel ac elfennau naturiol. Roedd y gosodwaith hwn yn pwysleisio’r gwrthgyferbyniad llym rhwng mynydd wedi ei esgeuluso ac un y mae ei ddyfodol wedi ei ddiogelu.

Syniadau Newydd

Ymgyrch Caru Copa: lansiodd Martha, Deri, a Sylvie o Ysgol Uwchradd Tywyn ymgyrch hwyliog ac ymgysylltiol o’r enw “Caru Copa.” Roedd y fenter hon yn annog defnyddwyr y mynydd i gyfnewid sbwriel am dalebau mewn busnesau lleol a’r goreuon yn cael eu nodi ar fwrdd enillwyr.

Derbyniodd y grwpiau buddugol grant o £1,500 i wireddu eu syniad.

"Roedd y bobl ifanc a gymerodd ran yn COPA1 yn ennyn gobaith, gydag angerdd am ddiogelu Yr Wyddfa oedd yn ysbrydoli. Fe wnaethant ddangos creadigrwydd a dealltwriaeth, gan feddwl am gynigion oedd yn arloesol ac yn ymarferol. Rydym yn llawn cyffro i fod yn cefnogi’r bobl ifanc hyn ac edrychwn ymlaen at weld eu syniadau’n cael eu rhoi ar waith."

Tim Wort
Rheolwr Addysg, Cadwch Gymru’n Daclus

“Mae COPA1 wedi profi bod awydd gwirioneddol gan y bobl ifanc i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac eirioli dros stiwardiaeth amgylcheddol well. Edrychwn ymlaen at gynllunio COPA2 gyda’n partneriaid ac arddangos y genhedlaeth nesaf o syniadau.''

Alec Young
Swyddog Yr Wyddfa Ddi-blastig, Parc Cenedlaethol Eryri

Ewch i adran Eco-Sgolion Cymru o’r wefan i ganfod mwy am y ffordd yr ydym yn grymuso’r genhedlaeth nesaf.

Erthyglau cysylltiedig

Mae Her Hinsawdd Cymru 2025 yma

05/02/2025

Darllen mwy
Disgyblion a’r Senedd: Uwchgynhadledd Eco’r Senedd yn tanio trafodaethau amgylcheddol difyr

11/07/2023

Darllen mwy
Taith allyriadau isel Eco-Sgolion Cymru i Foroco

06/03/2023

Darllen mwy
Rydyn ni’n galw ar bob ysgol i gael siop gyfnewid gwisg ysgol

24/11/2022

Darllen mwy