Y Gwobr
Beth mae’r Faner Las yn ei olygu?
Mae’r Faner Las yn wobr amgylcheddol eiconig y mae miliynau o bobl ar draws y byd yn ymddiried ynddi.
Ers ei lansio ym 1987, mae’r Faner Las wedi trawsnewid ansawdd, glanweithdra, diogelwch a gwasanaethau dŵr. Mae bellach yn nodi’r traethau, y marinas a’r cwmnïau teithiau cychod gorau mewn bron 50 o wledydd.
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith fod gan Gymru fwy o draethau’r Faner Las fesul milltir nag unrhyw le arall yn y DU.
Beth yw Gwobr Glan Môr?
Y Wobr Glan Môr yw’r safon cenedlaethol ar gyfer y traethau gorau ar draws y DU. Ble bynnag y byddwch yn gweld y faner melyn a glas eiconig yn hedfan, gwarentir darn arfordirol glân, deniadol, wedi ei reoli’n dda.
Sut mae traethau tawelach, llai yn cael eu cydnabod?
Mae Gwobrau Arfordir Gwyrdd yn cydnabod y traethau garw, hardd, heb eu cyffwrdd sydd yn rhan fawr o’n harfordir.
Efallai nad oes ganddynt gyfleusterau canolfannau glan môr mwy traddodiadol, ond mae gan draethau Gwobr Arfordir Gwyrdd ansawdd dŵr rhagorol a maent yn cydymffurfio â safonau amgylcheddol uchel.
Sut i wneud cais
Cyn i chi ddechrau ar eich cais, mae’n bwysig penderfynu pa wobr sy’n addas ar gyfer eich safle. I farinas a gweithredwyr teithiau cychod, mae’n syml – Y Faner Las yw’r un i chi. Ar gyfer traethau, gall y rhestr wirio isod eich helpu i wneud y penderfyniad cywir.
Ar gyfer pob gwobr, sicrhewch eich bod yn darllen y meini prawf llawn isod.
Mae ein cydlynydd wrth law os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch gyda’ch cais. Anfonwch e-bost i walescoastawards@keepwalestidy.cymru
Y Faner Las
Dosbarthiad Ansawdd Dŵr: Rhagorol
Traeth glân: Oes
Asesiad risg: Oes
Diogelwch: Cymorth cyntaf neu mesurau eraill fel y nodwyd yn asesiad risg y safle
Cyfyngiadau cŵn: Oes
Gweithgareddau addysg amgylcheddol: Oes
Parcio: Oes
Bwrdd gwybodaeth fanwl: Oes
Cyfleusterau toiled: Oes
Biniau sbwriel ac ailgylchu: Oes
Gwarchodaeth gymunedol: Anogir


Gwobr Glan Môr
Dosbarthiad Ansawdd Dŵr: Digonol
Traeth glân: Oes
Asesiad risg: Oes
Diogelwch: Cymorth cyntaf neu mesurau eraill fel y nodwyd yn asesiad risg y safle
Cyfyngiadau cŵn: Mae’n rhaid i gŵn fod ar dennyn
Gweithgareddau addysg amgylcheddol: Nac oes
Parcio: Oes
Bwrdd gwybodaeth fanwl: Oes
Cyfleusterau toiled: Oes
Biniau sbwriel ac ailgylchu: Oes
Gwarchodaeth gymunedol: Nac oes


Gwobr Arfordir Glas
Dosbarthiad Ansawdd Dŵr: Rhagorol neu gyfwerth os nad yw’r safle yn un dŵr ymdrochi dynodedig
Traeth glân: Oes
Asesiad risg: Oes
Diogelwch: Yn unol ag asesiad risg y safle
Cyfyngiadau cŵn: Nac oes, oni bai bod cyfyngiadau yn eu lle
Gweithgareddau addysg amgylcheddol: Na, fodd bynnag, dylid hyrwyddo gweithgareddau lleol
Parcio: Oes
Bwrdd gwybodaeth fanwl: Gwybodaeth sylfaenol yn ofynnol
Cyfleusterau toiled: Nac oes
Biniau sbwriel ac ailgylchu: Oes, oni bai bod cynllun amgen yn ei le a bod gwybodaeth amdano ar gael i ymwelwyr
Gwarchodaeth gymunedol: Oes


Cwestiynau cyffredin
Mae’r Faner Las yn wobr symbol rhyngwladol cydnabyddedig, sydd yn gysylltiedig â moroedd glân, gwasanaethau a chyfleusterau, ac mae’n offeryn pwysig i’r diwydiant twristiaeth yn arddangos ein traethau a’n marinas rhagorol.
Datgelodd canlyniadau arolwg cyhoeddus a gynhaliwyd gan Cadwch Gymru’n Daclus fod dwy ran o dair o ymwelwyr yn dweud y byddai o bosibl neu yn sicr yn effeithio ar eu penderfyniad i fynd i’r traeth hwnnw yn benodol. Yn arwyddocaol, dywedodd dros 82% o fusnesau eu bod yn credu bod Gwobr y Faner Las yn helpu i ddenu ymwelwyr i’w lleoliad gan hybu’r economi leol.
Gellir cyflwyno ceisiadau o fis Tachwedd i fis Rhagfyr.
Gwneir ceisiadau ar-lein. Mae’n hanfodol bod y cydlynydd wedi ymweld â’r safle cyn y cais i sicrhau bod y safle’n addas ar gyfer y wobr.
Cofrestrwch eich manylion a mewngofnodwch.
Cam un: Asesiad Penbwrdd
Yn y cam cyntaf hwn, mae ein cydlynydd yn sicrhau bod y ffurflenni wedi’u cwblhau’n gywir a bod yr holl ddogfennau ategol gofynnol wedi’u darparu. Efallai y gofynnir i chi ddarparu mwy o wybodaeth i gefnogi eich cais, yn enwedig os yw problemau wedi’u nodi yn ystod y tymor blaenorol. Os na allwch fodloni’r meini prawf am unrhyw reswm, rhaid cyflwyno goddefiad, ynghyd ag esboniad clir o ba fesurau sy’n cael eu cymryd i ddatrys y mater.
Cam dau: Rheithgor Cenedlaethol
Mae hwn yn gorff annibynnol sy’n cynnwys rhanddeiliaid arfordirol sy’n asesu’r ceisiadau ac yn penderfynu a ydynt yn bodloni’r meini prawf gofynnol. Cynhelir y cyfarfod fel arfer ym mis Ionawr.
Y Rheithgor Cenedlaethol sydd â’r cyfrifoldeb llwyr am ddyfarnu Gwobrau Glan Môr ac Arfordir Gwyrdd. Yna rhaid i geisiadau Baner Las fynd at y Rheithgor Rhyngwladol.
Cam tri: Rheithgor Rhyngwladol (ar gyfer ceisiadau Y Faner Las yn unig)
Dyma’r cam olaf ar gyfer ceisiadau Baner Las. Trefnir y Rheithgor Rhyngwladol gan FEE (y Sefydliad ar gyfer Addysg Amgylcheddol), sy’n berchen ar raglen y Faner Las, ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau rhyngwladol allweddol.
Mae’r Rheithgor Rhyngwladol yn adolygu pob cais i sicrhau bod safleoedd ledled y byd yn dangos yr un lefel o ragoriaeth.
Cam pedwar: Ymweliadau Rheoli
Er mwyn sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal, cynhelir archwiliad blynyddol o’r safle a’i gyfleusterau yn ystod y tymor ymdrochi (Mai i Fedi).
- Y Faner Las ar gyfer traethau £620 + TAW
- Y Faner Las ar gyfer marinas £620 + TAW
- Gwobr Glan Môr £260 + TAW
- Gwobr Arfordir Glas £100 + TAW
Pan fydd perchnogion / gweithredwyr traethau, marinas a chychod yn cael yr hawl i arddangos y Faner Las, mae hynny am eu bod wedi bodloni FEE, a’r Gweithredwr Cenedlaethol, Cadwch Gymru’n Daclus, eu bod wedi cydymffurfio, ar adeg y wobr, â nifer o feini prawf amgylcheddol, addysgol, diogelwch a hygyrchedd llym.
Yn dilyn y wobr, mae’r perchnogion / gweithredwyr yn derbyn cyfrifoldeb llawn dros sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â’r holl feini prawf hyn. Er y gall FEE a Cadwch Gymru’n Daclus gynnal gwiriadau o safleoedd o bryd i’w gilydd, nid yw’r FEE na Cadwch Gymru’n Daclus, nac unrhyw un o’u swyddogion, aelodau, gwirfoddolwyr, nac aelodau o’u rheithgor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw berson os na fydd cydymffurfio.







