Cefnogaeth amgylcheddol wedi’i chymell gan eich busnes
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau wedi eu cynllunio i helpu sefydliadau gyflwyno gwelliant amgylcheddol ymarferol, mesuradwy. O gymorth seilwaith amgylcheddol a chyflwyno prosiectau ar lawr gwlad i gyngor ar gynaliadwyedd a hyfforddiant wedi ei deilwra, gallwn roi arweiniad arbenigol ac atebion ymarferol sy’n eich helpu chi i fodloni eich nodau amgylcheddol yn hyderus.
Archwiliwch y gwasanaethau sydd gennym ar gael i’w contractio
Creu seilwaith gwyrdd
P’un a ydych yn edrych i wella ardal gyda mannau cyfoethog o fioamrywiaeth, creu gerddi croesawgar ar gyfer tyfu bwyd neu erddi sydd â systemau dŵr wyneb cynaliadwy , plannu perllannau, neu gynnal gwrychoedd a nodweddion naturiol eraill, rydym yn cynnig datrysiadau cwbl bwrpasol wedi’u cynllunio o amgylch anghenion eich sefydliad.
Gall ein tîm arbenigol gyflawni prosiectau ymarferol, darparu hyfforddiant wedi’i deilwra ar gyfer eich staff, a helpu i ymgorffori arferion cynaliadwy sy’n dod â budd i’ch gweithle, eich cymuned a’r amgylchedd.
Cysylltwch â ni
Ymgyrchoedd amgylcheddol
Drwy weithio mewn partneriaeth â Cadwch Gymru’n Daclus, gall eich sefydliad elwa ar gryfder ein brand cenedlaethol dibynadwy a’n llais eang. O’r cyfryngau cymdeithasol a chysylltiadau â’r wasg i’n cysylltiadau â grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr a sefydliadau anllywodraethol o’r un anian. P’un a ydych chi am hyrwyddo newid ymddygiad, tynnu sylw at faterion amgylcheddol lleol, neu gefnogi ymgyrchoedd cenedlaethol, byddwn yn gweithio gyda chi i greu gweithgareddau ystyrlon a deniadol sy’n adlewyrchu eich gwerthoedd ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ledled Cymru.
Cysylltwch â ni
Addysg
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cefnogi addysgwyr ledled Cymru, gan helpu plant a phobl ifanc i ddysgu am y byd o’u cwmpas a gwneud dewisiadau sy’n well i’r blaned. Drwy weithio mewn partneriaeth â ni ar un o’n prosiectau addysg, gall eich sefydliad gefnogi’r gwaith hwn. O weithgareddau hwyliog ac ymarferol i brosiectau sy’n meithrin hyder a sgiliau newydd, rydym ni’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Cysylltwch â ni
Hyfforddiant Llythrennedd Carbon
Rhowch y wybodaeth a’r hyder i’ch tîm weithredu’n ymarferol ar newid hinsawdd drwy ein hyfforddiant Llythrennedd Carbon. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gwbl barod i ddarparu’r hyfforddiant dibynadwy ac achrededig hwn, gan helpu staff i ddeall hanfodion newid hinsawdd, sut mae’n effeithio ar eu gwaith bob dydd, a pha gamau ymarferol y gallant eu cymryd i leihau eu hôl troed carbon.
Mae ein sesiynau wedi’u cynllunio i fod yn glir, yn ddeniadol ac yn berthnasol i’ch sefydliad, gyda enghreifftiau go iawn a chamau gweithredu sy’n gwneud synnwyr yn y gweithle.
Gweithgaredd glanhau
Mae Cadwch Gymru’n Daclus mewn sefyllfa berffaith i helpu eich sefydliad i wneud gwahaniaeth gweladwy i’r lleoedd rydym ni i gyd yn byw ac yn gweithio ynddynt. Rydym ni’n gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr, cynghorau, grwpiau cymunedol a Hyrwyddwyr Sbwriel lleol i wella ein hamgylchedd cyffredin – a byddem wrth ein bodd pe byddech yn ymuno â ni.
P’un a ydych chi am gymryd rhan mewn sesiwn lanhau unwaith-ac-am-byth, trefnu diwrnod gwirfoddoli i’ch tîm, creu Ardal Ddi-Sbwriel, neu gymryd rhan drwy ein rhwydwaith o Hybiau Codi Sbwriel, byddwn yn ei gwneud yn hawdd, yn ddiogel ac yn werth chweil i’ch staff gymryd rhan. Gallwn hefyd eich helpu i gynllunio a hyrwyddo ymgyrchoedd glanhau sy’n ysbrydoli eraill i weithredu.
Cysylltwch â ni
Os ydych chi’n credu bod gennych gynnyrch neu wasanaeth sy’n cyd-fynd â’n gwaith a bod diddordeb gennych i weithio gyda ni, cysylltwch â ni: partnerships@keepwalestidy.cymru
Cysylltwch â ni
Straeon llwyddiant
Mae pob contract gyda Cadwch Gymru’n Daclus wedi ei deilwra i’r sefydliad rydym yn gweithio gydag ef.
Mae ein straeon llwyddiant yn dangos sut mae cwmnïau wedi comisiynu ein gwasanaethau mewn ffyrdd ymarferol, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, gan gyflwyno gwelliannau amgylcheddol, ymgysylltu rhanddeiliaid, a chyflawni effaith fesuradwy barhaus.
Ymgyrch Sbwriel Smygu: Keep Britain Tidy
Darllen rhagor
Seilwaith gwyrdd: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Darllen rhagor






