CYMERWCH GIP AR EIN RHAGLEN NEWYDD, ECO-TOTS CYMRU

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Eco-Tots Cymru

Mae Eco-Tots Cymru yn rhaglen gyffrous newydd a grëwyd yn arbennig ar gyfer lleoliadau sy’n gweithio gyda phlant dan bum mlwydd oed.

Wedi’i ariannu gan Moondance Foundation ac wedi’i lunio o amgylch chwe thema ddychmygus, mae Eco-Tots Cymru yn helpu ymarferwyr i ymgorffori dysgu sy’n seiliedig ar natur a chynaliadwyedd ym mlynyddoedd cynharaf bywyd plentyn.

Trwy ddysgu ac archwilio trwy chwarae, mae plant yn cael eu hannog i gysylltu â’r byd naturiol a darganfod sut y gall eu gweithredoedd helpu ein hamgylchedd i ffynnu.

Dysgu am y manteision Cofrestru eich diddordeb
Plentyn ifanc yn gwenu ar y camera ac yn dal pen hedyn dant y llew yn ei law.

Sut mae'n gweithio

Mae adnoddau Eco-Tots Cymru yn rhad ac am ddim ac ar gael i bawb.

Er mwyn manteisio’n llawn ar y rhaglen a gweithio tuag at Wobr Flynyddol Eco-Tots Cymru, mae angen i leoliadau gofrestru ac ymgysylltu â dysgu ar draws chwe thema: Tîm Taclus, Bywyd Gwyllt Bendigedig, Ceidwad Ynni, Coed Campus, Arbed ac Ailddefnyddio, a Dechrau o Hedyn.

Dyma drosolwg o daith Eco-Tots, ond am fanylion llawn, ewch i’r dudalen sut mae’n gweithio.

Cam 1

Cofrestru

Cofrestrwch eich diddordeb gan ddefnyddio’r ffurflen isod. Unwaith y byddwch chi wedi cael eich cymeradwyo, byddwn yn anfon pecyn o adnoddau atoch ac yn eich gwahodd i ymuno â’n hyfforddiant cyflwyniadol.

Cam 2

Dewis thema

Dewiswch y thema gyntaf yr hoffech chi ganolbwyntio arni. Cwblhewch yr archwiliad syml, nodwch y camau y byddwch chi’n eu cymryd, ac archwiliwch y gweithgareddau a’r adnoddau sy’n gysylltiedig â’r thema.

Cam 3

Manteisio i’r eithaf ar eich sachau gweithgareddau

Byddwn yn darparu ‘sach gweithgareddau’ ar gyfer pob thema, wedi’i chynllunio i’w hanfon adref gyda phlentyn gwahanol bob penwythnos, gan roi cyfle i deuluoedd barhau i archwilio gweithgareddau gyda’i gilydd.

Cam 4

Dweud wrthym ni sut rydych chi’n dod yn eich blaen

Llwythwch dystiolaeth o’ch cynnydd i’n porth ar-lein wrth i chi weithio drwy’r themâu.

Cam 5

Gwneud cais am wobr!

Unwaith y byddwch chi wedi cwmpasu o leiaf bedair o’r chwe thema, gallwch wneud cais am eich Gwobr Eco-Tots Cymru!

Plentyn ifanc wedi’i wisgo mewn siwt un darn gwrth-ddŵr a het wlanog, yn dal chwyddwydr melyn mawr o flaen ei hwyneb.

Archwilio ein themâu a’n hadnoddau

Barod i ddechrau? Edrychwch ar ein hadnoddau a’n gweithgareddau rhad ac am ddim, wedi’u dylunio gan arbenigwyr ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar.

Dysgu mwy

Cofrestru eich diddordeb

Os ydych chi’n ymarferydd blynyddoedd cynnar, cwblhewch y ffurflen isod i gofrestru eich lleoliad.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â ni. Anfonwch e-bost i eco-tots@keepwalestidy.cymru

Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13