Gwaredu’n gyfrifol ac yn ddiogel
Rydym ni’n helpu busnesau, ysgolion a sefydliadau eraill i gael gwared ar eu hoffer TG a thrydanol diangen yn gyfrifol.
Rydym ni’n gweithio gydag A&LH Environmental Services Ltd i sicrhau bod eitemau, lle bynnag y bo modd, yn cael eu hailgylchu ac nad ydynt yn mynd i safleoedd tirlenwi. Gyda’n gilydd, rydym ni’n darparu gwasanaeth ailgylchu trydanol diogel, sicr a fforddiadwy.
Mae cynllun ailgylchu trydanol Cadwch Gymru’n Daclus yn cael ei amlygu fel enghraifft o arfer da ar gyfer menter Gweithredu Hinsawdd Cymru Llywodraeth Cymru – gwyliwch y fideo yma:
Casgliadau ailgylchu WEEE
Gallwn drefnu casgliad Gwastraff Offer Trydanol ac Electronig (WEEE) gan sefydliadau ledled Cymru, a gyda’r gwaredu’n cael ei reoli gan ein partneriaid dibynadwy, gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Rydym ni’n derbyn:
- Llwybryddion; gweinyddion; cyfrifiaduron desg; tabledi; gliniaduron; monitorau
- Taflunyddion; setiau teledu; offer gwyn; bylbiau fflworoleuol; byrddau gwyn ysgol
- Rhywfaint o offer meddygol
Ni allwn dderbyn:
- Dodrefn; batris sydd yn eich cartref; cetris argraffydd
I drefnu casgliad, cysylltwch â: recycling@keepwalestidy.cymru gyda’r wybodaeth ganlynol:
- Disgrifiad o’r eitemau yr hoffech iddynt gael eu casglu (a’r pwysau os yn bosibl)
- Eich lleoliad (a nodi a oes grisiau neu lifft yn yr adeilad)
- Eich manylion cyswllt
Straeon llwyddiant
Mae pob partneriaeth gyda Cadwch Gymru’n Daclus yn unigryw.
Mae ein straeon llwyddiant yn dangos sut mae cwmnïau fel eich un chi wedi ffurfio partneriaeth gyda ni mewn ffordd ymarferol, ymgysylltiol, gyda ffocws ar greu gwahaniaeth parhaus gyda’n gilydd.
Ailgylchu Offer Trydanol: Prifysgol De Cymru
Darllen rhagor







