Sut mae'n gweithio?
Mae ein holl Eco-Sgolion yn gweithio trwy saith cam. Unwaith y mae ysgol wedi sefydlu’r broses hon ac wedi casglu tystiolaeth o’u cynnydd, gallant wneud cais am Wobr Eco-Sgolion – achrediad a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Dysgwch fwy am sut mae’n gweithio.
Ffurfio Eco-Bwyllgor
Bydd y grŵp hwn yn cynrychioli safbwyntiau’r ysgol gyfan ac yn gweithredu fel y canolbwynt a fydd yn gyrru’r gwaith ymlaen ac yn trafod y cynnydd.
Cynnal Adolygiad Amgylcheddol
Pwrpas yr adolygiad yw helpu’r Eco-Bwyllgor i feddwl am ffyrdd o geisio sicrhau bod yr ysgol yn lleihau ei heffaith ar yr amgylchedd.
Datblygu Cynllun Gweithredu
Wrth greu’r cynllun byddwch yn medru sicrhau eich bod yn cynnwys nifer realistig o weithgareddau a gweithio allan sut i fonitro a mesur cynnydd eich gweithredoedd.
Monitro a Gwerthuso
Er mwyn canfod a ydych yn llwyddo i gyflawni’r targedau sydd yn eich cynllun gweithredu rhaid monitro a mesur eich cynnydd.
Hysbysu a Chynnwys
Mae’n bwysig bod cymaint o bobl ag y bo modd yn gwybod am eich gweithgareddau ac yn cymryd rhan ynddynt.
Creu Eco-Gôd
Mae Eco-Gôd yn ffordd hwyliog o grynhoi prif amcanion Eco-Bwyllgor yr Ysgol. Dylid ei gyflwyno mewn ffurf sydd yn ystyrlon i’r disgyblion a’r ysgol gyfan.
Cysylltu â’r Cwricwlwm
Drwy sicrhau bod y broses Eco-Sgolion yn cael ei gysylltu â chwricwlwm yr ysgol yn hytrach na’i gadw’n weithgaredd ar wahân ar gyfer y grŵp bach sydd ar yr Eco-Bwyllgor fe gyflwynir ADCDF.
Saith cam i lwyddiant
Dysgwch fwy o wybodaeth am y saith cam i lwyddiant.
Sut mae’n gweithioCael eich ysbrydoli
Dewch i ddarllen ein straeon ysgogwyr newid diweddaraf – mae’n arddangos yr ymgyrchoedd a'r prosiectau ysbrydoledig sy'n cael eu harwain gan ddysgwyr mewn Eco-Sgolion ledled Cymru.
Grymuso pobl ifanc: Ysgol Gynradd Cwmfelinfach
Darllen rhagor
Vinty@Coety – Ailgylchu Dillad
Darllen rhagor
Ysgol Y Cymer, Rhondda Cynon Taf
Darllen rhagor
Adnoddau
Rydym am ysbrydoli a grymuso pobl ifanc i ysgogi newid amgylcheddol cadarnhaol.
Mae ein hadnoddau am ddim wedi’u cynllunio gan ein tîm addysg arbenigol ar gyfer ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a theuluoedd.
Gweld ein hadnoddauCymerwch ran
Cymerwch ran mewn ymgyrch, ymunwch â gwers fyw, a daliwch i fyny â hyfforddiant diweddar. Un o'r pethau gwych am Eco-Sgolion yw bod lle i ddatblygu bob amser. Rydym yn cynnig rhaglen o sesiynau hyfforddi am ddim a gwersi byw i'ch helpu i wneud hynny.

Gallwch ganfod sut mae ysgolion yn eich ardal chi’n ei wneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.
Darganfod mwy
Mae'r her arloesi ysgol hon yn gwahodd dysgwyr 5–18 oed i arddangos syniadau ar gyfer planed well.
Darganfod mwy











