Ffurfio Eco-Bwyllgor
Bydd y grŵp hwn yn cynrychioli safbwyntiau’r ysgol gyfan ac yn gweithredu fel y canolbwynt a fydd yn gyrru’r gwaith ymlaen ac yn trafod y cynnydd. Bydd yr Eco-Bwyllgor yn gweithio hefyd i gadw proffil y rhaglen Eco-Sgolion yn uchel.
Meini prawf allweddol
- Mae angen i’r Eco-Bwyllgor gyfarfod yn rheolaidd.
- Gall oedolion a rhai nad ydynt yn ddisgyblion gymryd rhan, naill ai drwy fynychu cyfarfodydd neu drwy helpu gyda thasgau penodol.
- Rhaid cadw cofnodion o’r cyfarfodydd
- Bydd yr Eco-Bwyllgor yn gwneud yn siŵr bod gweddill yr ysgol yn cael gwybod beth y maent wedi bod yn ei wneud neu’n ei drafod.
Cynnal Adolygiad Amgylcheddol
Meini prawf allweddol
- Dylid adolygu’r naw maes bob blwyddyn.
- Rhaid i’r disgyblion fod yn rhan o’r gwaith adolygu.
- Dylid trafod y canlyniadau ar ddiwedd yr adolygiad
Datblygu Cynllun Gweithredu
Pam fod angen Cynllun Gweithredu? Mae’n bwysig iawn eich bod yn trefnu eich syniadau gan ffurfio cynllun gweithredu. Wrth greu’r cynllun byddwch yn medru sicrhau eich bod yn cynnwys nifer realistig o weithgareddau a gweithio allan sut i fonitro a mesur cynnydd eich gweithredoedd. Mae cynllun gweithredu CAMPUS yn helpu pawb i ganolbwyntio.
Meini prawf allweddol
- Mae angen i’r Cynllun Gweithredu ddangos y gweithredoedd arfaethedig yn glir a sut y byddant yn cael eu cyflawni.
- Mae angen iddo fod yn addas ar gyfer oed a gallu’r disgyblion (neu dylid cael fersiwn arall sydd yn addas).
- Mae angen iddo fod mewn fformat sydd yn ddealladwy i bob aelod arall o’r staff.
- Rhaid sicrhau cefnogaeth y Pennaeth i’r Cynllun Gweithredu.
Monitro a Gwerthuso
Pam Monitro a Gwerthuso? Er mwyn canfod a ydych yn llwyddo i gyflawni’r targedau sydd yn eich cynllun gweithredu rhaid monitro a mesur eich cynnydd. Bydd hynny’n caniatáu i chi werthuso llwyddiant eich gweithgareddau a chynllunio i wneud newidiadau er mwyn sicrhau eich bod yn dal i weithio tuag at gyflawni eich targedau.
Meini prawf allweddol
- Dylai’r monitro fod yn ystyrlon i’r disgyblion sydd yn ei weithredu ac yn briodol ar eu cyfer.
- Rhaid i’r Eco-Bwyllgor drafod y cynnydd a wneir mewn perthynas â’r Cynllun Gweithredu ac, yn ddelfrydol, dylai’r ysgol gyfan ei drafod.
- Dylai peth o’r gwaith monitro gael ei gyflawni fel rhan o’r gwaith dosbarth.
Hysbysu a Chynnwys
Pam Hysbysu a Chynnwys? Mae’n bwysig bod cymaint o bobl ag y bo modd yn gwybod am eich gweithgareddau ac yn cymryd rhan ynddynt. Wrth gael mwy o bobl yn cymryd rhan yn eich Eco-Weithredoedd bydd yr effaith a’r hwyl yn fwy!
Meini prawf allweddol
- Mae angen i’r ysgol gyfan wybod am y rôl mae’r Eco-Bwyllgor yn ei chwarae.
- Dylai’r disgyblion i gyd gael cyfle i gyflwyno syniadau ac awgrymiadau os ydynt yn dymuno.
- Dylai’r ysgol gyfan gael gwybod beth sydd yn y Cynllun Gweithredu Eco-Sgolion ac am y cynnydd.
- Dylai’r gymuned ehangach gael gwybod am amcanion yr ysgol ac am bob cynnydd.
Creu Eco-Gôd
Pam bod angen Eco-Gôd? Mae Eco-Gôd yn ffordd hwyliog o grynhoi prif amcanion Eco-Bwyllgor yr Ysgol. Dylid ei gyflwyno mewn ffurf sydd yn ystyrlon i’r disgyblion a’r ysgol gyfan. Gellir ei ddefnyddio i godi proffil yr Eco-Bwyllgor a thargedau’r cynllun gweithredu a dylid ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau ei fod yn dal yn berthnasol ac yn gyfarwydd.
Meini prawf allweddol
- Dylai’r disgyblion ddatblygu’r Eco-Gôd.
- Dylid ei ddiwygio neu o leiaf ei adolygu bob blwyddyn.
- Rhaid sicrhau bod yr ysgol gyfan yn ymwybodol o’r Eco-Gôd a’r hyn mae’n sefyll drosto.
Cysylltu â’r Cwricwlwm
Pam cysylltu â’r cwricwlwm? Drwy sicrhau bod y broses Eco-Sgolion yn cael ei gysylltu â chwricwlwm yr ysgol yn hytrach na’i gadw’n weithgaredd ar wahân ar gyfer y grŵp bach sydd ar yr Eco-Bwyllgor fe gyflwynir ADCDF. Mae hefyd yn sicrhau bod aelodau eraill o’r staff yn cefnogi’r gwaith. Bydd disgyblion yr ysgol gyfan yn deall sut yr ymdrinnir â phroblemau amgylcheddol real mewn sefyllfaoedd real.
Meini prawf allweddol
- Dylid ymdrin ag elfennau o Eco-Sgolion fel rhan o’r gwaith cwricwlwm.
- Dylai mwy nag un dosbarth gymryd rhan

Gallwch ganfod sut mae ysgolion yn eich ardal chi’n ei wneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.
Darganfod mwy
Mae'r her arloesi ysgol hon yn gwahodd dysgwyr 5–18 oed i arddangos syniadau ar gyfer planed well.
Darganfod mwy







