English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Addysg

Rydym yn gwybod, drwy flaenoriaethu ymgysylltiad pobl ifanc, y gallwn sicrhau dealltwriaeth gynnar o effaith hirdymor eu hymddygiad a helpu i adeiladu gwaddol gwell i’r wlad ac i’r blaned.

Yn 2024, daeth Cymru yn wlad gyntaf y byd i gyrraedd targed Partneriaeth Addysg Werdd UNESCO, gyda hanner ein hysgolion bellach ag achrediad amgylcheddol. Mae hynny’n gyflawniad i bob disgybl, athro a chefnogwr ymfalchïo ynddo.

Rydym eisiau datblygu’r momentwm hwn, mynd i’r afael â heriau sbwriel a gwastraff, a diogelu’r lleoedd sydd yn bwysig i ni am genedlaethau i ddod.

Rhaglenni, gweithgareddau ac ymgyrchoedd nodwedd

Eco-Sgolion

Gwneud ffrindiau newydd. Newid ymddygiad. Magu hyder. Ni allwch fychanu’r manteision o fod yn rhan o’r teulu Eco-Sgolion.

Darganfod mwy

Eco-Tots Cymru

Rhaglen gyffrous newydd a grëwyd yn arbennig ar gyfer lleoliadau sy’n gweithio gyda phlant dan bum mlwydd oed.

Darganfod mwy

Gwnewch gais nawr am becyn gardd am ddim!

A oes angen rhywfaint o sylw ar eich maes chwarae? Gwnewch gais nawr am becyn Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Darganfod mwy
Mae gwenynen yn casglu neithdar o glwstwr o flodau porffor bach.
Adnoddau Eco-Sgolion

Mae ein hadnoddau am ddim wedi cael eu dylunio gan ein Tîm Addysg arbenigol ar gyfer pob Cam Dilyniant.

Gweld y cyfan
Edrychwch ar y Cylchlythyr Eco-Sgolion diweddaraf Hydref ‘26 | Rhifyn 01

Newyddion diweddaraf

Gweld y cyfan

Cael eich ysbrydoli

Dewch i ddarllen ein straeon ysgogwyr newid diweddaraf – mae’n arddangos yr ymgyrchoedd a'r prosiectau ysbrydoledig sy'n cael eu harwain gan ddysgwyr mewn Eco-Sgolion ledled Cymru.

Gwasanaeth Bwyd Y Pantri

Darllen rhagor

Dôl a Grewyd gan Ddysgwyr

Darllen rhagor

Teithio Llesol yn Nhy’n y Wern

Darllen rhagor

Digwyddiad Codi Sbwriel Diwrnod y Ddaear yn Ysgol Maes Owen

Darllen rhagor
Dau berson ifanc yn gwisgo festiau oren hi-vis, mae un ohonyn nhw â'i gefn at y camera a'r llall yn dal cipian sbwriel.

Grymuso pobl ifanc: Ysgol Gynradd Cwmfelinfach

Darllen rhagor

Vinty@Coety – Ailgylchu Dillad

Darllen rhagor
Mae dyn a nifer o blant yn pwyntio at sgrin fawr sy'n arddangos "VINTY@COETY".

Gwneudcyfraniad

Os hoffech wneud cyfraniad ariannol i Cadwch Gymru’n Daclus, gallwch wneud hynny yma.

Mae pob cyfraniad, boed yn fawr neu’n fach, yn ein helpu i gyflawni prosiectau amgylcheddol ymarferol a chreu mannau awyr agored iachach a hapusach ar eich stepen drws.

Rhowch yma
paying for goods. easyfundraising

easyfundraising

Gall ysgolion gofrestru eu tudalen easyfundraising eu hunain gan ddefnyddio ein dolen gyfeirio arbennig Cadwch Gymru’n Daclus.

Bydd eich ysgol yn ennill rhoddion am ddim, a bydd Cadwch Gymru’n Daclus hefyd yn derbyn bonws, felly mae pawb ar eu hennill.

Cofrestru
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13