Mae’r digwyddiad hwn yn croesawu dysgwyr i’w rôl newydd a hanfodol o fod yn rhan o Eco-Bwyllgor.
Mae’r Eco-Bwyllgor yn grŵp pwysig o ddisgyblion. Maen nhw’n gwrando ar bawb yn yr ysgol ac yn gweithio gyda’i gilydd i ddechrau syniadau newydd, cymryd camau gweithredu a chydweithio i gyflawni eu nodau.
Bydd y sesiwn hwn helpu i sbarduno creadigrwydd ac ateb unrhyw gwestiynau y bydd gan ddysgwyr newydd am y cynllun.
Yn ystod y gweithdy bydd aelodau’r pwyllgor yn dysgu sut i greu effaith fawr yn eu hysgolion. Byddan nhw hefyd yn dysgu o gyflawniadau ysgolion eraill yng Nghymru. Bydd y disgyblion yn cael llwyfan i rannu eu syniadau eu hunain yn ystod y sesiwn.
Mae’r pynciau wedi’u rhannu’n dri sesiwn hamddenol a byddan nhw’n cael eu cynnal drwy’r flwyddyn.
- Sesiwn Un, 09 Hydref 2025: Sut ydych chi’n gallu cynllunio i wneud gwahaniaeth mawr a phwy yw’r bobl sy’n gallu eich helpu ar hyd y daith? Mae’r sesiwn hwn yn cyflwyno disgyblion i’r rhaglen Eco-Sgolion a rôl yr eco-bwyllgor yn yr ysgol ac yn y gymuned.
- Sesiwn Dau, 05 Chwefror 2026: Monitro a gwerthuso eich camau gweithredu. Yn ystod y sesiwn mae disgyblion yn gallu dysgu am ddiwrnodau gweithredu rhyngwladol a chael ysbrydoliaeth gan Eco-Sgolion eraill. Mae’r wers yn anelu at annog disgyblion i gynllunio ar gyfer tymor y Gwanwyn a thymor yr Haf.
- Sesiwn tri, 18 Mehefin 2026: Mae’r sesiwn hwn yn annog eco-bwyllgorau i fyfyrio ar y gwaith gwych maen nhw wedi’i wneud dros y flwyddyn a dod at ei gilydd i ddysgu am yr hyn mae eco-bwyllgorau dros y byd wedi’u cyflawni hefyd.
Bydd pob sesiwn yn cael ei gynnal rhwng 2:00 – 2:30pm.
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Lleoliad
- Ar-lein

Gallwch ganfod sut mae ysgolion yn eich ardal chi’n ei wneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.
Darganfod mwy
Mae'r her arloesi ysgol hon yn gwahodd dysgwyr 5–18 oed i arddangos syniadau ar gyfer planed well.
Darganfod mwy







