Ein rhaglenni gwobrwyo
Pan fyddwch yn ymweld ag un o’n safleoedd blaenllaw, gallwch fod yn siŵr eich bod yn ymweld â chyrchfan o safon fyd-eang sydd â’r safonau amgylcheddol uchaf posibl.
Wrth gwrs, y staff a’r gwirfoddolwyr sydd yn gweithio’n ddiflino i ddiogelu a gwella eu hamgylchedd sydd i’w diolch am y baneri sydd yn hedfan ar draws Cymru. Rydym yn falch o weithio gyda nhw ac yn dathlu’r hyn y maent yn ei wneud.
Y Faner Werdd ar gyfer Parciau
Pwrpas Gwobr y Faner Werdd yw cysylltu pobl i’r parciau a’r mannau gwyrdd orau. Mae’n feincnod ar gyfer parciau a mannau gwyrdd yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Dysgu mwy
Gwobrau Arfordir Cymru
Mae Gwobrau Arfordir Cymru yn chwarae rôl hanfodol yn diogelu ein hamgylchedd morol gwerthfawr a chânt eu cydnabod ar draws y byd fel symbol o ansawdd.
Dysgu mwy
Codi’r safon
Yn Cymru Hardd: Strategaeth Cadwch Gymru’n Daclus 2022-2030, rydym wedi addo cynyddu cyfranogiad mewn rhaglenni gwobrwyo sydd yn ysgogi rhagoriaeth amgylcheddol.







