JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Gwobrau Arfordir Cymru

Mae gan Gymru’r arfordir mwyaf trawiadol ac amrywiol yn y DU.

Mae Gwobrau Arfordir Cymru yn chwarae rôl hanfodol yn diogelu ein hamgylchedd morol gwerthfawr a chânt eu cydnabod ar draws y byd fel symbol o ansawdd.  Rydym wedi rheoli’r Faner Las, Gwobr Arfordir Glas a’r Wobr Glan Môr ers dros 20 mlynedd.

I gael un o’r gwobrau blaenllaw hyn, mae’n rhaid i draeth, marina neu gwmni teithiau cychod fodloni a chynnal y safonau amgylcheddol uchaf a chyrraedd targedau ansawdd dŵr llym.

The iconic Blue Flag flying over a Ceredigion beach

Y Gwobr

Gallwch ddarganfod traethau, marinas a chwmnïau teithiau cychod gorau Cymru

Pan fyddwch yn ymweld ag un o’n traethau, marinas, neu gwmnïau teithiau cychod sydd wedi ennill gwobrau, gallwch fod yn siŵr eich bod yn mwynhau cyrchfan lân, ddiogel, o safon fyd-eang. Mae gan ein harfordir rywbeth i bawb. O draethau gwyliau traddodiadol i berlau bach tawel.

Beth mae’r Faner Las yn ei olygu?

Mae’r Faner Las yn wobr amgylcheddol eiconig y mae miliynau o bobl ar draws y byd yn ymddiried ynddi.

Ers ei lansio ym 1987, mae’r Faner Las wedi trawsnewid ansawdd, glanweithdra, diogelwch a gwasanaethau dŵr. Mae bellach yn nodi’r traethau, y marinas a’r cwmnïau teithiau cychod gorau mewn bron 50 o wledydd.

Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith fod gan Gymru fwy o draethau’r Faner Las fesul milltir nag unrhyw le arall yn y DU.

Beth yw Gwobr Glan Môr?

Y Wobr Glan Môr yw’r safon cenedlaethol ar gyfer y traethau gorau ar draws y DU. Ble bynnag y byddwch yn gweld y faner melyn a glas eiconig yn hedfan, gwarentir darn arfordirol glân, deniadol, wedi ei reoli’n dda.

Sut mae traethau tawelach, llai yn cael eu cydnabod?

Mae Gwobrau Arfordir Gwyrdd yn cydnabod y traethau garw, hardd, heb eu cyffwrdd sydd yn rhan fawr o’n harfordir.

Efallai nad oes ganddynt gyfleusterau canolfannau glan môr mwy traddodiadol, ond mae gan draethau Gwobr Arfordir Gwyrdd ansawdd dŵr rhagorol a maent yn cydymffurfio â safonau amgylcheddol uchel.

Sut i wneud cais

Cyn i chi ddechrau ar eich cais, mae’n bwysig penderfynu pa wobr sy’n addas ar gyfer eich safle. I farinas a gweithredwyr teithiau cychod, mae’n syml – Y Faner Las yw’r un i chi. Ar gyfer traethau, gall y rhestr wirio isod eich helpu i wneud y penderfyniad cywir.

Ar gyfer pob gwobr, sicrhewch eich bod yn darllen y meini prawf llawn isod.

Mae ein cydlynydd wrth law os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch gyda’ch cais. Anfonwch e-bost i walescoastawards@keepwalestidy.cymru

Y Faner Las

Dosbarthiad Ansawdd Dŵr: Rhagorol

Traeth glân: Oes

Asesiad risg: Oes

Diogelwch: Cymorth cyntaf neu mesurau eraill fel y nodwyd yn asesiad risg y safle

Cyfyngiadau cŵn: Oes

Gweithgareddau addysg amgylcheddol: Oes

Parcio: Oes

Bwrdd gwybodaeth fanwl: Oes

Cyfleusterau toiled: Oes

Biniau sbwriel ac ailgylchu: Oes

Gwarchodaeth gymunedol: Anogir

Gwobr Glan Môr

Dosbarthiad Ansawdd Dŵr: Digonol

Traeth glân: Oes

Asesiad risg: Oes

Diogelwch: Cymorth cyntaf neu mesurau eraill fel y nodwyd yn asesiad risg y safle

Cyfyngiadau cŵn: Mae’n rhaid i gŵn fod ar dennyn

Gweithgareddau addysg amgylcheddol: Nac oes

Parcio: Oes

Bwrdd gwybodaeth fanwl: Oes

Cyfleusterau toiled: Oes

Biniau sbwriel ac ailgylchu: Oes

Gwarchodaeth gymunedol: Nac oes

Gwobr Arfordir Glas

Dosbarthiad Ansawdd Dŵr: Rhagorol neu gyfwerth os nad yw’r safle yn un dŵr ymdrochi dynodedig

Traeth glân: Oes

Asesiad risg: Oes

Diogelwch: Yn unol ag asesiad risg y safle

Cyfyngiadau cŵn: Nac oes, oni bai bod cyfyngiadau yn eu lle

Gweithgareddau addysg amgylcheddol: Na, fodd bynnag, dylid hyrwyddo gweithgareddau lleol

Parcio: Oes

Bwrdd gwybodaeth fanwl: Gwybodaeth sylfaenol yn ofynnol

Cyfleusterau toiled: Nac oes

Biniau sbwriel ac ailgylchu: Oes, oni bai bod cynllun amgen yn ei le a bod gwybodaeth amdano ar gael i ymwelwyr

Gwarchodaeth gymunedol: Oes

Cwestiynau cyffredin

Mae’r Faner Las yn wobr symbol rhyngwladol cydnabyddedig, sydd yn gysylltiedig â moroedd glân, gwasanaethau a chyfleusterau, ac mae’n offeryn pwysig i’r diwydiant twristiaeth yn arddangos ein traethau a’n marinas rhagorol.

Datgelodd canlyniadau arolwg cyhoeddus a gynhaliwyd gan Cadwch Gymru’n Daclus fod dwy ran o dair o ymwelwyr yn dweud y byddai o bosibl neu yn sicr yn effeithio ar eu penderfyniad i fynd i’r traeth hwnnw yn benodol.  Yn arwyddocaol, dywedodd dros 82% o fusnesau eu bod yn credu bod Gwobr y Faner Las yn helpu i ddenu ymwelwyr i’w lleoliad gan hybu’r economi leol.

Gellir cyflwyno ceisiadau o fis Tachwedd i fis Rhagfyr.

Gwneir ceisiadau ar-lein. Mae’n hanfodol bod y cydlynydd wedi ymweld â’r safle cyn y cais i sicrhau bod y safle’n addas ar gyfer y wobr.

Cofrestrwch eich manylion a mewngofnodwch.

Cam un: Asesiad Penbwrdd

Yn y cam cyntaf hwn, mae ein cydlynydd yn sicrhau bod y ffurflenni wedi’u cwblhau’n gywir a bod yr holl ddogfennau ategol gofynnol wedi’u darparu. Efallai y gofynnir i chi ddarparu mwy o wybodaeth i gefnogi eich cais, yn enwedig os yw problemau wedi’u nodi yn ystod y tymor blaenorol. Os na allwch fodloni’r meini prawf am unrhyw reswm, rhaid cyflwyno goddefiad, ynghyd ag esboniad clir o ba fesurau sy’n cael eu cymryd i ddatrys y mater.

Cam dau: Rheithgor Cenedlaethol

Mae hwn yn gorff annibynnol sy’n cynnwys rhanddeiliaid arfordirol sy’n asesu’r ceisiadau ac yn penderfynu a ydynt yn bodloni’r meini prawf gofynnol. Cynhelir y cyfarfod fel arfer ym mis Ionawr.

Y Rheithgor Cenedlaethol sydd â’r cyfrifoldeb llwyr am ddyfarnu Gwobrau Glan Môr ac Arfordir Gwyrdd. Yna rhaid i geisiadau Baner Las fynd at y Rheithgor Rhyngwladol.

Cam tri: Rheithgor Rhyngwladol (ar gyfer ceisiadau Y Faner Las yn unig)

Dyma’r cam olaf ar gyfer ceisiadau Baner Las. Trefnir y Rheithgor Rhyngwladol gan FEE (y Sefydliad ar gyfer Addysg Amgylcheddol), sy’n berchen ar raglen y Faner Las, ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau rhyngwladol allweddol.

Mae’r Rheithgor Rhyngwladol yn adolygu pob cais i sicrhau bod safleoedd ledled y byd yn dangos yr un lefel o ragoriaeth.

Cam pedwar: Ymweliadau Rheoli

Er mwyn sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal, cynhelir archwiliad blynyddol o’r safle a’i gyfleusterau yn ystod y tymor ymdrochi (Mai i Fedi).

  • Y Faner Las ar gyfer traethau £620 + TAW
  • Y Faner Las ar gyfer marinas £620 + TAW
  • Gwobr Glan Môr £260 + TAW
  • Gwobr Arfordir Glas £100 + TAW

Pan fydd perchnogion / gweithredwyr traethau, marinas a chychod yn cael yr hawl i arddangos y Faner Las, mae hynny am eu bod wedi bodloni FEE, a’r Gweithredwr Cenedlaethol, Cadwch Gymru’n Daclus, eu bod wedi cydymffurfio, ar adeg y wobr, â nifer o feini prawf amgylcheddol, addysgol, diogelwch a hygyrchedd llym.

Yn dilyn y wobr, mae’r perchnogion / gweithredwyr yn derbyn cyfrifoldeb llawn dros sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â’r holl feini prawf hyn.  Er y gall FEE a Cadwch Gymru’n Daclus gynnal gwiriadau o safleoedd o bryd i’w gilydd, nid yw’r FEE na Cadwch Gymru’n Daclus, nac unrhyw un o’u swyddogion, aelodau, gwirfoddolwyr, nac aelodau o’u rheithgor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw berson os na fydd cydymffurfio.

Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13