A A A

Barod i weld eich effaith?

Mae ein Map Effaith Gymunedol yn gadael i chi weld y gwaith anhygoel y mae unigolion, grwpiau a sefydliadau angerddol yn ei wneud i ofalu am amgylchedd Cymru.

Mae’r gweithgareddau wedi cael eu cofnodi gan Arwyr Sbwriel, grwpiau cymunedol, Hybiau Codi Sbwriel, Ardaloedd Di-sbwriel a phartneriaid ar ein system adrodd eCyfrif Cymru.

Mae’n ffordd o weld y darlun cyflawn a dathlu grym gwirfoddoli!

Archwilio’r Map Effaith Gymunedol

Mae’r map a’r ffigurau isod yn cynnwys gweithgareddau a gofnodwyd gan bawb ers 2019.

I ddechrau, bydd yn rhoi cipolwg o’r gweithgareddau sydd wedi digwydd ledled Cymru dros y mis diwethaf, ond mae’n hawdd addasu’r hyn yr ydych yn ei weld.

Dyma eich canllaw i archwilio’r map:

  • Chwyddwch a gwnewch y testun yn llai gan ddefnyddio’r symbolau + a - neu eich bysedd.
  • Defnyddiwch yr eicon hidlo i fireinio’r hyn yr ydych yn ei weld. Gallwch ddewis hidlo yn ôl y math o weithgaredd, chwilio yn ôl grŵp neu sefydliad, awdurdod lleol a ward hyd yn oed.
  • Cliciwch ar yr eicon llyfr i weld y data mewn tabl. Os ydych yn defnyddio hidlwyr, bydd y rhain yn cael eu defnyddio yma hefyd. Gallwch ddefnyddio’r botwm gweithredoedd (eicon pedwar cylch) i allforio’r data. Mae fformatiau gwahanol ond os byddwch yn dewis ‘Allforio i CSV’ byddwch yn lawrlwytho taenlen Excel.
  • Cliciwch ar yr eicon clipfwrdd i weld ein hystadegau pennawd ar gyfer Cymru.
  • Cliciwch ar yr eicon marc cwestiwn ar gyfer allwedd ein map.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth pellach arnoch, cysylltwch â’n Tîm Data yn data@keepwalestidy.cymru 

Rhywfaint o brint mân pwysig!

Noder, nid yw’r Map Effaith Gymunedol yn dangos gwybodaeth ‘fyw’ am ei bod yn cymryd amser i’w choladu, ei gwirio ac i ddadansoddi’r data. Byddwn yn gwneud ein gorau i’w diweddaru yn wythnosol ond byddwch yn amyneddgar.

Os hoffech ddileu eich data o’r map, anfonwch e-bost at y tîm yn data@keepwalestidy.cymru. Chi sy’n rheoli’r sefyllfa bob amser.

Yn Cadwch Gymru’n Daclus rydym yn falch o weithredu’n ddwyieithog ac wedi ymrwymo i ddatblygu ein defnydd o’r Gymraeg. Mae data ar y Map Effaith Gymunedol yn ymddangos yn yr iaith y cafodd ei gyflwyno.

Yn anffodus, gan ein bod yn defnyddio llwyfan allanol i arddangos y data hwn, nid oes gennym y gallu i ddarparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog. Byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd o wella hyn.

Cofnodi gweithgaredd

Bob tro byddwch yn llenwi’r ffurflen hon, byddwch yn helpu i ddatblygu darlun gwell o weithgaredd gwirfoddoli ledled Cymru.

Mynd i eCyfrif Cymru

Wedi eich ysbrydoli i weithredu?

Mae grwpiau cymunedol ar hyd a lled y wlad yn chwilio am wirfoddolwyr.

Dod o hyd i’ch grŵp lleol