Gwasanaeth Bwyd Y Pantri
Sut y creodd Ysgol Heronsbridge wasanaeth bwyd fforddiadwy sy’n cefnogi teuluoedd, yn lleihau gwastraff bwyd ac yn rhoi sgiliau cyflogaeth gwerthfawr o’r byd go iawn i ddisgyblion.
Gan adeiladu ar lwyddiant Ty Cwtch, siop dillad ail-law yr ysgol, mae Ysgol Heronsbridge wedi trawsnewid rhan arall o’r gofod yn Bantri cymunedol. Mae’r gwasanaeth yn darparu nwyddau bwyd fforddiadwy i staff a teuluoedd, tra’n helpu’r ysgol i fynd i’r afael â gwastraff bwyd a hyrwyddo dewisiadau iachach a mwy cynaliadwy.
Mae’r Pantri yn cael ei redeg gan ddisgyblion a staff, ac mae’n fwy na dim ond siop. Mae’n cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddysgwyr ddatblygu sgiliau ymarferol, cymryd cyfrifoldeb a chyfrannu at gymuned yr ysgol, tra’n cefnogi teuluoedd gyda chost eu siopa bwyd wythnosol.
Beth wnaethoch chi a sut y gwnaethoch chi gynnwys yr ysgol gyfan?
Ar ôl sefydlu ein siop dillad ail-law Ty Cwtch yn llwyddiannus mewn tŷ ar dir yr ysgol, roedd ein disgyblion a’n staff eisiau gwneud mwy o ddefnydd o’r gofod i gefnogi cymuned yr ysgol.
Tynnodd ein Hadolygiad Amgylcheddol sylw at leihau gwastraff bwyd a hyrwyddo bwyta’n iach fel blaenoriaethau i ni fel ysgol. Felly, gwnaethom bartneru â’r elusen Baobab Bach i sefydlu gwasanaeth Pantri, a alwyd gennym yn Pantri Ty Cwtch.
Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan ddisgyblion a staff o’n hadrannau ‘Leavers’ a’r Ganolfan Awtistiaeth. Mae’n galluogi staff a teuluoedd o bob rhan o’r ysgol i ymweld â’r Pantri a phrynu 12 eitem oddi ar y silffoedd am gost isel o £5.
Mae’r prosiect yn dod â gwahanol rannau o gymuned yr ysgol at ei gilydd, gan roi cyfle i ddisgyblion chwarae rhan weithredol wrth redeg y gwasanaeth tra’n darparu cymorth ymarferol i staff a theuluoedd.
Sut a pham y gwnaethoch chi benderfynu ar y targed yma?
Yn dilyn trafodaethau gyda’n Cyngor Ysgol a’n Eco-Bwyllgor, y targed a oedd yn canolbwyntio ar ddisgyblion – ac a gafodd ei gynnwys yn ein Cynllun Gwella Ysgol – oedd:
“Sut gallwn ni gefnogi disgyblion i gael effaith ar Nod Byd-eang 12 — lleihau cynhyrchu gwastraff trwy atal, lleihau, ailgylchu ac ailddefnyddio?”
Rydym yn gweithio’n galed i leihau gwastraff bwyd ac, fel rhan o’r ffocws hwn, roeddem eisiau archwilio ffyrdd o wneud gwahaniaeth cadarnhaol o ran bwyd a fforddiadwyedd.
Penderfynom weithio gyda Baobab Bach a’r Clwb Rotari i’n helpu i sefydlu siop fwyd fforddiadwy. Fe wnaeth hyn ein galluogi i gysylltu ein nodau amgylcheddol ag anghenion cymuned yr ysgol, gan greu cyfleoedd ystyrlon i ddisgyblion ddatblygu sgiliau ymarferol ar yr un pryd.
Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?
Gall staff a theuluoedd dalu £1 am aelodaeth o gynllun y Pantri. Ar hyn o bryd, mae 88 o aelodau ar draws yr ysgol a’r gymuned leol yn defnyddio’r gwasanaeth yn rheolaidd i ategu eu siopa bwyd, gyda thua 10 bag yn cael eu gwerthu bob wythnos.
Mae’r Pantri hefyd wedi creu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddatblygu sgiliau cyflogaeth a sgiliau bywyd. Mae disgyblion yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o dasgau, gan gynnwys rhedeg y siop, prynu stoc, cwblhau gwaith papur a helpu i dyfu cynnyrch yng ngardd yr ysgol.
Mae hyn yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu hyder, annibyniaeth a sgiliau gwaith ymarferol mewn lleoliad byd go iawn, tra’n gwneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned.
Sut gwnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?
Rydym wedi rhannu diweddariadau am y cynllun yn rheolaidd trwy wasanaeth Dojo yr ysgol i godi ymwybyddiaeth a dathlu ei lwyddiant.
Yn ystod ffair yr ysgol a’n diwrnodau agored, mae Ty Cwtch a’r Pantri yn gwahodd ymwelwyr i ddod i weld y siopau a dysgu mwy am y gwasanaethau rydym yn eu cynnig.
Ein cam nesaf yw cryfhau’r cysylltiad rhwng y Pantri ac ardal garddio’r ysgol, gyda’r nod o dyfu cynnyrch ffres i’w werthu fel rhan o gynigion y Pantri.
Mae gwelyau llysiau eisoes y tu allan i’r siop, lle mae disgyblion yn gweithio’n galed i dyfu bwyd yn barod ar gyfer tymor yr haf. Bydd hyn yn rhoi cyfle arall i ddysgwyr ddatblygu sgiliau garddio ymarferol tra’n cyfrannu’n uniongyrchol at y Pantri a chymuned ehangach yr ysgol.
Dw i'n hoffi siopa, dw i'n hoffi defnyddio'r sganiwr.
Ollie Disgybl Canolfan Awtistiaeth
Rwyf wrth fy modd yn cefnogi'r Pantri — prosiect cymunedol cynaliadwy sy'n rhoi cymorth i'r rhai sydd ei angen yn ein cymunedau. Ein nod yw hyrwyddo iechyd meddwl da, cefnogi'r amgylchedd a dileu tlodi bwyd, tra hefyd yn rhoi cyfleoedd y tu allan i'r ystafell ddosbarth i bob disgybl.
Jeremy Evans Pennaeth
Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill
Cadwch y Fenni’n Daclus
Darllen rhagor
Grŵp Afonydd Caerdydd
Darllen rhagor
Pwyllgor Hinsawdd Ysgol Bro Banw
Darllen rhagor








