GWOBRAU CYMRU DACLUS 2026: ENWEBIADAU NAWR AR AGOR

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Lleoedd Lleol ar gyfer NaturMannau gwyrdd

Gardd Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur yng Nghanolfan Blant Integredig Blaina

Rhannu
Mae Tyfu Together yn brosiect partneriaeth sy’n dod â staff awdurdod lleol, gwasanaethau gofal plant a grwpiau cymunedol ynghyd i greu gardd gymunedol fywiog yng Nghanolfan Blant Integredig Blaina. Gyda chefnogaeth rhaglen Lleoedd Lleol dros Natur, mae’r prosiect wedi trawsnewid gofod nas defnyddiwyd yn amgylchedd cyfoethog ar gyfer tyfu bwyd a bioamrywiaeth, er budd teuluoedd lleol.

Drwy becyn datblygu Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur, gweithiodd Tyfu Together gyda’r gymuned i ddylunio a chreu gardd gymunedol newydd ar gyfer tyfu bwyd a chreu cynefin i fywyd gwyllt.

Roedd y prosiect yn cynnwys:

  • Gwelyau uchel, coed ffrwythau ac ardaloedd plannu
  • Dolydd blodau gwyllt a phlanhigion brodorol
  • Polytwnnel, storfa offer ac adnoddau ar gyfer defnydd hirdymor
  • Nodweddion cynefin fel blychau nythu ac “gwestai” i bryfed
  • Hyfforddiant, cyngor a chefnogaeth barhaus i wirfoddolwyr

Bu plant, teuluoedd, darparwyr gofal plant a gwirfoddolwyr yn rhan o bob cam o’r gwaith, gan gyd-greu’r gofod gyda’i gilydd.

Mae’r trawsnewidiad wedi creu gofod aml-swyddogaethol gyda manteision amgylcheddol, cymdeithasol a llesiant:

  • Bydd dros 50 o bobl yn defnyddio’r ardd yn rheolaidd
  • Datblygodd gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol sgiliau newydd a hyder
  • Mae gofod a oedd yn segur bellach yn gyfoethog o ran bioamrywiaeth
  • Mae gan blant a theuluoedd well mynediad at natur a dysgu awyr agored

Mae’r ardd bellach yn fan lle gall pobl dyfu bwyd, dysgu a chysylltu â’i gilydd.

“Mae ein gardd newydd wedi trawsnewid gofod oedd heb bwrpas yn ofod gwyrdd cyfoethog i’n plant, ein teuluoedd a’n cymuned. Gobeithiwn y bydd yn lle lle mae chwilfrydedd yn tyfu, lle mae pobl yn cysylltu â natur, ac yn dod ynghyd i gefnogi bioamrywiaeth a chynaliadwyedd.”

Laura James Tyfu Together

Mae’r grŵp yn bwriadu datblygu’r safle ymhellach, gan gynnwys ychwanegu pod gardd a datblygu cyfleoedd dysgu awyr agored.

Bydd y gofod yn parhau i gefnogi addysg blynyddoedd cynnar, gweithgareddau cymunedol a llesiant, gan sicrhau bod manteision hirdymor i bobl leol wrth gefnogi natur i ffynnu.

Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Siop gyfnewid gwisg ysgol

Darllen rhagor
Mae crys polo glas golau a siaced ddu yn hongian ar grogfachau lliwgar ar rac dillad.

Grymuso pobl ifanc: Ysgol Gynradd Cwmfelinfach

Darllen rhagor

Plannu Gwreiddiau ar gyfer y Dyfodol: Ysgol Gynradd New Inn

Darllen rhagor
Clwstwr o fwyar duon a mafon aeddfed yn hongian o gangen gyda dail gwyrdd.
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13