JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Eco-SgolionPobl ifanc

Y Prosiect TAITH

Rhannu
Bowlen ffrwythau gyda bananas, afalau, orennau a lemwn.

Mae’r plant yn Ysgol Feithrin Rhydaman yn archwilio bwyd, iaith a thraddodiadau o gwmpas y byd i ddatblygu amrywiaeth ddiwylliannol a datblygu parch at eraill.

Beth wnaethoch chi a sut wnaethoch chi gynnwys yr ysgol gyfan?

Rydyn ni yng nghanol ein Prosiect Taith ar hyn o bryd sydd wedi caniatáu i ni ymweld â Sweden, Canada a Singapore. Ffocws y prosiect hwn oedd archwilio a datblygu ein gallu i gyflwyno a gwella ein darpariaeth yn yr awyr agored a sut rydym yn gweithredu a gwella ein darpariaethau llesiant yn yr ysgol. Pan oedden ni mas yng Nghanada, gwelwyd bod ffocws enfawr ar wneud yn siŵr bod pawb yn yr ysgol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys yn yr ysgol ac yn y gymuned. Gwnaethon nhw hyn drwy ddathlu cefndir pob plentyn ac o ble roedden nhw neu eu teuluoedd wedi dod yn wreiddiol ar draws y byd.

O weld hyn yn uniongyrchol a’r effaith gadarnhaol yr oedd wedi’i chael ar eu disgyblion, penderfynom ni weithredu hyn yn ein hysgol. Rydyn ni wedi gosod map mawr o’r byd yng nghaffi ein hysgol lle mae’r plant yn cael llaeth a chinio, fel bod y plant yn gallu ei weld bob dydd. Rydyn ni wedi dechrau drwy ganolbwyntio ar y gwledydd sy’n berthnasol i fywydau’r rhan fwyaf o’r disgyblion a rhywbeth y gallan nhw eu gweld ar y penwythnos. Ar gyfer hyn, gwnaethom ni ganolbwyntio ar y gweledydd sy’n chwarae yn nhwrnamaint rygbi’r chwe gwlad. Felly, rydyn ni wedi cynnwys baneri’r gwledydd gyda chordyn yn mynd o Rydaman i’r gwledydd er mwyn dangos y pellter rhwng y gwahanol lefydd hyn.

Gwnaethom ni gynnwys yr ysgol gyfan drwy ofyn i bob dosbarth gymryd rhan mewn diwrnod thema ar y gwledydd hyn, lle blason ni fwyd y maen nhw’n enwog amdano, dysgon ni rai geiriau yn eu hieithoedd a choginion ni rai bwydydd o’r gwledydd.

 

Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?

Mae’r prosiect wedi cael effaith gadarnhaol ar ddealltwriaeth y disgyblion o ddinasyddiaeth fyd-eang. Mae’r plant yn datblygu parch a goddefgarwch drwy ddysgu am ddiwylliannau, traddodiadau gwahanol a ffyrdd o fyw gwahanol. Mae llawer wedi gwneud cysylltiadau rhwng yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu yn yr ysgol a’r hyn maen nhw’n ei weld adref – er enghraifft, adnabod baneri ar y teledu a chofio’r bwydydd maen nhw wedi eu blasu. Mae hyn wedi tanio trafodaethau gyda rhieni, sydd wedi dweud pa mor gyffrous yw eu plant am y prosiect.

Mae’r staff wedi elwa hefyd, gyda’r athrawon yn mwynhau’r cyfle i drefnu dyddiadau thema a dod â phrofiadau diwylliannol newydd i’w dosbarthiadau.

 

Sut a pham wnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn?

Daeth y targed yn uniongyrchol o’r Prosiect TAITH a’r arferion cadarnhaol a welwyd dramor. Mae gweld yr effaith o ddathlu amrywiaeth ddiwylliannol mewn ysgolion yng Nghanada wedi ein hargyhoeddi y gallai’r dull hwn gyfoethogi ein cymuned. Rydyn ni’n credu ei bod yn hanfodol cyflwyno plant i ddiwylliannau gwahanol o oedran ifanc, gan eu hannog i gofleidio amrywiaeth a thyfu i fod yn ddinasyddion byd-eang sydd â meddwl agored a pharch tuag at eraill.

 

Sut wnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw’r camau nesaf?

Rydyn ni wedi dathlu llwyddiant ein dyddiadau thema, drwy rannu lluniau a gweithgareddau gyda’n rhieni gan ddefnyddio’r system class Dojo, rydyn ni wedi creu arddangosfeydd gyda lluniau y mae’r plant yn gallu gweld bob dydd. Mae hyn yn rhywbeth mae’r plant wir wedi mwynhau cymryd rhan ynddo ac mae llawer o rieni wedi dweud wrthym faint mae eu plant wedi bod yn siarad am yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu am wledydd eraill.

Y cam cynnydd nesaf yn y prosiect hwn, yw ein bod ni fel ysgol yn mynd i ddarganfod wrth rieni o ble mae eu teuluoedd wedi dod yn wreiddiol. Gyda hyn, byddwn ni’n rhoi pin ar y map yn dangos o ble yn y byd maen nhw wedi dod. Y gobaith am hyn yw y gallem ni ddysgu am y gwledydd hyn, a chymryd rhan mewn dyddiadau thema, fel y gallwn ni ddysgu ychydig am eu diwylliannau a blasu rhai o’u bwydydd. Bydd hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod pob plentyn yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yng nghymuned yr ysgol a rhannu ychydig o’u bywydau gydag eraill.

Roedd yn hyfryd gweld pa mor gyffrous oedd y plant wrth ddysgu am y gwledydd eraill a chael y cyfle i flasu bwyd o’r wlad honno a’i goginio. Sbardunodd hyn drafodaethau gyda rhai o’r plant a oedd wedi mynd i’r wlad honno ar eu gwyliau.

Mr Phillips Cydlynydd Eco

Roeddwn i wrth fy modd yn blasu’r bwyd o’r Eidal, roedd yn neis, roeddwn i’n hoffi’r pitsa.

Ella Eco-Gyngor Ysgol
Oes stori gennych yr hoffech ei rhannu?

Llenwch ein ffurflen ac ysbrydolwch eraill.

Cyflwyno stori ysgogwyr newid
Saith cam i lwyddiant
Mae grŵp o ddysgwyr mewn festiau gwelededd uchel yn cerdded i fyny set o risiau, yn cario bagiau coch mawr yn casglu sbwriel.

Dysgwch fwy o wybodaeth am y saith cam i lwyddiant.

Sut mae’n gweithio
Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Grŵp Cymunedol Cyfarthfa

Darllen rhagor
A group of volunteers on a grass banking in front of houses, smiling with red and blue litter bags in the foreground.

Grymuso pobl ifanc: Ysgol Gynradd Cwmfelinfach

Darllen rhagor

Cadwch y Fenni’n Daclus

Darllen rhagor
A group of six volunteers, outside a red building, all smiling carrying red litter bags
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13