Mae blwyddyn ysgol newydd yma, gan ddod ag egni newydd, a chyfleoedd newydd i ysgolion ledled Cymru weithredu dros ein hamgylchedd.
P’un a yw eich ysgol yn cymryd ei chamau cyntaf ar ei thaith Eco-Sgolion neu’n parhau â’r gwaith gwych rydych chi eisoes wedi’i ddechrau, rydym yn gyffrous i weld beth fydd y flwyddyn nesaf yn ei gynnig.
Mae’n wych gweld ysgolion ledled Cymru yn dychwelyd am flwyddyn gyffrous arall o weithredu Eco-Sgolion. Mae ysgolion yn parhau i arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â heriau amgylcheddol, gan rymuso pobl ifanc i wneud newid gwirioneddol, parhaol yn eu cymunedau.
Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus
Gyda chymaint o gyfleoedd i gymryd rhan eleni, rydym yn gyffrous i gefnogi ysgolion wrth iddynt droi uchelgais yn weithredu. P’un a ydych chi newydd ddechrau neu’n gweithio tuag at eich carreg filltir Faner Werdd nesaf, mae pob cam yn gwneud gwahaniaeth, ac allwn ni ddim aros i weld beth mae ysgolion yn ei gyflawni yn y flwyddyn i ddod.
Dechreuwch y flwyddyn gyda’n cylchlythyr diweddaraf
Rydym yn cychwyn y flwyddyn ysgol newydd gyda’n cylchlythyr diweddaraf, Y Flwyddyn i Ddod: Croeso ‘Nôl i Ysgolion!
Yn y rhifyn hwn, rydym yn ailymweld â’r Saith Cam, yn rhannu cipluniau o waith amgylcheddol ysbrydoledig sy’n digwydd mewn ysgolion ledled Cymru, yn dathlu ein cystadleuwyr terfynol Gwobrau Cymru Daclus, ac yn tynnu sylw at gyfleoedd, digwyddiadau ac adnoddau i’ch helpu i gynnwys eich dysgwyr.
Darllenwch Y Flwyddyn i Ddod: Croeso ‘Nôl i Ysgolion!
A allai hon fod eich blwyddyn i dderbyn Gwobr Eco-Sgolion?
Y llynedd, enillwyd 361 o Wobrau Eco-Sgolion gan ysgolion ledled Cymru, gan gydnabod y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud i roi gweithredu amgylcheddol wrth wraidd bywyd ysgol.
Mae’r gwobrau hyn yn dathlu ysgolion sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac yn paratoi’r ffordd ar gyfer rhagoriaeth amgylcheddol.
Cliciwch i gael gwybod mwy am Wobrau Eco-Sgolion a sut y gall eich ysgol gymryd rhan
Cael eich dysgwyr i gymryd rhan
Mae’r flwyddyn ysgol newydd hefyd yn amser gwych i archwilio ein tudalen adnoddau lawn, gyda gweithgareddau a syniadau i’ch helpu i ddod â dysgu amgylcheddol yn fyw.
Mae gennym ni hefyd weithdai dysgwyr newydd am ddim ar y gweill, yn ymdrin â phynciau gan gynnwys gwastraff, teithio cynaliadwy a bioamrywiaeth. O Leihau. Ailddefnyddio. Ailfeddwl., gan archwilio sut y gallwn fynd i’r afael â gwastraff, i Deithio’r Dyfodol, lle gall dysgwyr archwilio ffyrdd cynaliadwy o gyrraedd yr ysgol gydag arbenigwyr o’r Walk Wheel Cycle Trust, mae digon o gyfleoedd i gymryd rhan. Byddwn ni hefyd yn dod â chynefinoedd yn fyw gydag Arwyr Cynefin, gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o selogion natur.
Dysgwch fwy am ein gweithdai dysgwyr sydd ar ddod
Dyma ni am flwyddyn arall o weithredu
O newidiadau bach yn yr ystafell ddosbarth i brosiectau mwy ar draws tiroedd yr ysgol a’r gymuned, mae pob gweithred yn cyfrif.
Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn arall o weithio ochr yn ochr ag ysgolion ledled Cymru wrth iddynt ddysgu, cymryd camau gweithredu a gwneud gwahaniaeth i’n hamgylchedd.
Parhewch i ddarllen...

Rhoi ffocws: diweddariad gan ein Tîm Polisi ac Ymchwil
Darllen rhagor
Datgelu ymgeiswyr terfynol Gwobrau Cymru Daclus 2026
Darllen rhagor
Ffigurau newydd yn datgelu graddfa sbwriel yr haf ledled Cymru
Darllen rhagor








