Mae Cymru unwaith eto yn arwain y ffordd o ran mannau gwyrdd awyr agored gyda blwyddyn arall o Wobrau y Faner Werdd yn torri pob record.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Cymru wedi curo ei record ei hun o Faneri Gwrydd gyda 330 o safleoedd ledled Cymru yn derbyn yr anrhydedd, i fyny o 315 yn 2025 a 291 yn 2024.
Ac, am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae gan Gymru y record am fwy o Wobrau Cymunedol y Faner Werdd nag unrhyw wlad arall sy’n darparu cynllun y Faner Werdd yn y byd.
Mae’r gwobrau, a sefydlwyd 30 mlynedd yn ôl ym 1996 ac sydd bellach yn cael eu cydnabod mewn dros 20 o wledydd, yn gwobrwyo’r parciau a’r mannau gwyrdd gorau, fel bod ymwelwyr yn gwybod ble bynnag mae Baner Werdd, eu bod yn ymweld â lle rhagorol gyda’r safonau uchaf.
Blwyddyn arall o dorri pob record
Mae’r 330 o safleoedd ledled Cymru yn cynnwys parciau, campysau prifysgolion, coetir cymunedol, mynwentydd ac ystadau tai, sydd i gyd yn cael eu gwobrwyo am fod yn ddiogel, am gael eu cynnal a’u cadw’n dda ac yn lan, â rheolaeth amgylcheddol ragorol, ac am fod yn lle croesawgar.
Mae 93 o safleoedd wedi cyflawni statws llawn Gwobr y Faner Werdd, un yn fwy nag yn 2025/6, gyda Mynwent yr Wyddgrug, a Place for You Coetir Cymunedol Parc Dyfrdwy yn Sir y Fflint, a Gerddi Linda Vista yn Sir Fynwy yn derbyn y wobr am y tro cyntaf.
Mwy o wobrau cymunedol nag unrhyw wlad arall
Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mae Cymru yn cadw’r anrhydedd o fod â mwy o Wobrau Cymunedol y Faner Werdd nag unrhyw wlad sy’n darparu cynllun y Faner Werdd, gyda 237 o safleoedd yn ennill Gwobr Gymunedol, i fyny 14 o 223 y llynedd. Mae Gwobrau Cymunedol y Faner Werdd yn dathlu mannau o ansawdd uchel sy’n cael eu rhedeg gan wirfodolwyr, fel gerddi cymunedol, mynwentydd a gwarchodfeydd natur lleol.
Derbyniodd 29 o safleoedd yng Nghymru Wobr Gymunedol y Faner Werdd am y tro cyntaf, gan gynnwys Coetiroedd Bryn Sirhywi ym Mlaenau Gwent, Glas Meadows yn Sir Ddinbych, Gardd Gymunedol Fairyland yng Nghastell-nedd Port Talbot a chwe safle newydd yn Sir Gaerfyrddin yn cynnwys Cegin Hedyn, Gardd Gymunedol Alltwalis a Pharc a Choetir Tycroes.
14 o safleoedd treftadaeth
Mae’r rhestr o enillwyr hefyd yn cynnwys 14 o safleoedd sydd wedi cyflawni Achrediad Safle Treftadaeth Werdd. Mae hwn yn anrhydedd ategol aruchel, wedi ei gefnogi gan Cadw, sy’n cael ei roi i barciau a mannau gwyrdd sy’n cyflawni safon Gwobr y Faner Werdd ac sydd hefyd yn rheoli, gwarchod a hyrwyddo eu nodweddion hanesyddol unigryw yn llwyddiannus. Mae tri safle newydd wedi cyflawni’r statws hwn ar gyfer 2026 – Castell a Pharc Gwledig Cil-y-coed yn Sir Fynwy, Parc Gwledig y Gnoll yng Nghastell-nedd Port Talbot a Pharc y Rhath yng Nghaerdydd.
Mae’r flwyddyn hon sy’n torri pob record i Wobrau y Faner Werdd yn dangos ymrwymiad Cymru i’n parciau, ein gerddi cymunedol a’n coetiroedd, a’r gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud i fywydau pobl. Mae ein mannau gwyrdd yn ein helpu ni i gadw’n heini, gwella ein hiechyd meddwl, agosáu at natur ac yn fannau i ni dreulio amser gyda’n hanwyliaid. Rwy’n arbennig o falch bod Cymru’n parhau i arwain y byd o ran safleoedd Baner Werdd sy’n cael eu rheoli’n gymunedol. Mae hynny oherwydd gwaith caled gwirfoddolwyr ar draws y wlad. Llongyfarchiadau i bawb wnaeth helpu hyn i ddigwydd.
Llyr Gruffydd, yr Aelod Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Rydym yn rhedeg y cynllun yng Nghymru gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.
Mae Cymru yn gosod y safon o ran mannau gwyrdd rhagorol, gyda 330 o leoedd yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau y Faner Werdd eleni. O barciau blaenllaw a choetiroedd bywiog i safleoedd hanesyddol a mannau cymunedol, mae Cymru wedi dangos o un flwyddyn i’r llall bod ganddi ymrwymiad diwyro i feithrin mannau gwyrdd cynhwysol y gall pawb eu mwynhau. Mae mannau gwyrdd yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi iechyd a lles cymunedau ledled Cymru felly mae’n arbennig o gyffrous gweld bod Cymru wedi torri’r record ar gyfer nifer yr enillwyr am y drydedd flwyddyn yn olynol, gyda 237 o safleoedd. Ni fyddai’r gwobrau hyn yn bosibl heb waith caled ac ymroddiad y rheiny sy’n gofalu am y mannau arbennig hyn a hoffem ddiolch i’r holl staff a’r gwirfoddolwyr ledled Cymru sydd yn chwarae rhan yn hynny.
Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Dod o hyd i’ch safle Baner Werdd lleol
Ewch i adran y Faner Werdd i gael yr holl fanylion ac edrychwch ar y map i ddod o hyd i’ch safle Baner Werdd agosaf.
Lawrlwythiau
Parhewch i ddarllen...

Gweinidog Cabinet a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn uno i alw am haf o godi sbwriel
Darllen rhagor
Mae mwy na thri chwarter o ysgolion ledled Cymru yn cymryd camau dros yr amgylchedd
Darllen rhagor
Sêr ifanc yr hinsawdd yn cipio’r gwobrau uchaf
Darllen rhagor








