Mae’r Gweinidog Cabinet Llyr Gruffydd a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn annog pobl ar draws y wlad i gymryd rhan yn codi sbwriel yr haf hwn, wrth i hyb codi sbwriel newydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru gael ei gyflwyno yn STōK Cae Ras yn Wrecsam cyn gêm derfynol Pencampwriaeth Dan 19 Ewrop UEFA ddydd Sadwrn diwethaf.
Ymunodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus â’r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd, a gwirfoddolwyr fel rhan o ddigwyddiad glanhau cymunedol, gan amlygu’r rôl bwysig y gall pawb ei chwarae yn cael ein strydoedd, ein parciau a’n mannau gwyrdd yn rhydd rhag sbwriel.
Bydd Hyb Wrecsam, sydd yn llawn offer codi sbwriel, yn parhau yn y lleoliad ar ôl y twrnamaint, gan ddarparu adnodd parhaol i glybiau lleol, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol i gefnogi digwyddiadau glanhau yn y dyfodol. Mae hybiau tebyg eisoes ar waith ar gaeau ym Mangor, Caernarfon a Dinbych.
Rydym eisiau’r lleoedd y mae pobl yn byw ynddynt i fod yn lanach ac yn wyrddach – dyna ran greiddiol yr hyn y mae’r llywodraeth hon yma i’w wneud. Dyma pam rwy’n falch o gyhoeddi bod bedwar hyb codi sbwriel parhaol newydd yn agor ar draws Gogledd Cymru. Maen nhw’n ymuno â thros 200 o hybiau wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, lle gall gwirfoddolwyr ddod i fenthyg offer gan Cadwch Gymru’n Daclus am ddim er mwyn cynnal eu sesiynau codi sbwriel eu hunain. Mae’n wych gweld Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cymryd cynaliadwyedd o ddifrif wrth roi’r twrnamaint hwn gyda’i gilydd. Bydd y buddsoddiad y maen nhw wedi ei wneud mewn cymunedau lleol yn gwneud gwahaniaeth parhaol, ymhell ar ôl i’r gemau ddod i ben.”
Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Gweithio mewn partneriaeth
Gan weithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ein gobaith yw cyrraedd miloedd o gefnogwyr, gan eu hannog i droi eu hangerdd am eu clwb a’u tîm cenedlaethol yn weithredu cadarnhaol i’w cymuned. Rydym hefyd eisiau hyrwyddo rhwydwaith ehangach o Hybiau Codi Sbwriel ledled Cymru.
Wedi eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae bron 250 o Hybiau Codi Sbwriel yn genedlaethol, wedi eu lleoli mewn lleoliadau cyfleus, gan gynnwys canolfannau hamdden, llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol. Mae’r Hybiau, sydd ar agor i unigolion, teuluoedd, grwpiau cymunedol a busnesau, yn cynnig mynediad am ddim i’r offer sydd ei angen i drefnu digwyddiad glanhau diogel, o godwyr sbwriel a chylchynau i siacedi llachar a bagiau bin.
Mae gan bêl-droed allu anhygoel i ddod â phobl ynghyd ac ysbrydoli gweithredu cadarnhaol, ar y cae ac oddi arno. Yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru, rydym yn cydnabod bod gennym gyfrifoldeb nid yn unig i leihau effaith amgylcheddol ein gêm, ond hefyd defnyddio pŵer pêl-droed i annog pobl i ofalu am y mannau lle maent yn byw, yn chwarae ac yn cefnogi eu timau. Mae Pencampwriaeth Dan 19 Ewrop UEFA wedi rhoi cyfle i ni ddangos sut gall digwyddiadau chwaraeon mawr adael etifeddiaeth barhaol i gymunedau lleol. Gan weithio ar y cyd â Cadwch Gymru’n Daclus, Llywodraeth Cymru, clybiau a’n partneriaid lleol, bydd Hybiau Codi Sbwriel newydd yn parhau i gefnogi gweithredu cymunedol yng Ngogledd Cymru ymhell ar ôl y chwiban olaf. Ein huchelgais yw creu dyfodol glanach, gwyrddach i bêl-droed Cymru. P’un ai trwy leihau sbwriel, diogelu natur, neu ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i weithredu yn eu cymunedau eu hunain, mae pob cam bach yn gwneud gwahaniaeth. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod pêl-droed yn parhau i fod yn rym ar gyfer newid amgylcheddol cadarnhaol ledled Cymru.
Noel Mooney Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Rydym yn gwybod bod pobl yn poeni am y man lle maent yn byw ac eisiau gwneud gwahaniaeth. Trwy ddarparu offer am ddim, mae ein Hybiau Codi Sbwriel yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i gymryd rhan i helpu i gadw ardaloedd lleol yn lân ac yn groesawgar. Gyda chymorth Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llywodraeth Cymru, ein gobaith yw ysbrydoli miloedd o bobl i ddod yn arwyr sbwriel a gwneud hwn yn haf o weithredu cymunedol.
Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Dewch o hyd i’ch Hyb Codi Sbwriel
Ydych chi’n awyddus i lanhau eich ardal leol ond heb yr offer cywir? Ewch i un o Hybiau Codi Sbwriel Caru Cymru a gallwch fenthyg yr offer am ddim!
Ewch i’n map i ddod o hyd i’ch Hyb Casglu Sbwriel agosaf.












