Helo Eco-Gydlynwyr!
Croeso i Hyfforddiant Cydlynwyr Eco – gweithdy arbenigol sydd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer Athrawon Eco-Sgolion mewn Ysgolion Cynradd.
P’un a ydych chi’n camu i’r rôl hon am y tro cyntaf neu eisiau rhaglen loywi, bydd yr hyfforddiant rhithiol hwn yn rhoi’r wybodaeth i’ch helpu i feistroli llwyddiant Eco-Sgolion yn eich ysgol. Byddwn yn edrych yn fanwl ar y rhaglen Eco-Sgolion Rhyngwladol yn ystod y sesiwn gan eich arwain drwy strategaethau i’w llywio’n effeithiol yn eich ysgol. Dewch i gael eich ysbrydoli wrth i ni ddangos sut mae cyfleoedd dysgu’r rhaglen yn alinio’n ddi-drafferth â Chwricwlwm i Gymru, gyda llawer o esiamplau go iawn o Eco-Sgolion blaengar ar draws y wlad.
Mae’r sesiwn rhithiol hon yn para dwy awr ac mae ar gael yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd y sesiwn yn cael ei gynnal yn rhithiol drwy Microsoft Teams.
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Lleoliad
- Ar-lein
Cofrestrwch eich ysgol gydag Eco-Sgolion Cymru a dechreuwch eich taith gynaliadwyedd.
Darganfod mwyMae ein holl Eco-Sgolion yn gweithio drwy saith cam. Ar ôl i ysgol roi hyn ar waith a chasglu tystiolaeth o’i chynnydd, mae’n gallu gwneud cais am wobr Eco-Sgolion.
Sut mae'n gweithio







