JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Eco-SgolionPobl ifanc

Grymuso pobl ifanc: Ysgol Gynradd Cwmfelinfach

Rhannu

Mae Ysgol Gynradd Cwmfelinfach, a leolir yng nghanol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wedi cymryd camau breision i hyrwyddo addysg amgylcheddol a gweithredu cymunedol. Trwy ei phwnc ysgol gyfan, arloesol, ‘Fi, Cymru a’r Byd Ehangach’, mae’r ysgol wedi meithrin diwylliant o gynaliadwyedd, archwilio ac eiriolaeth, gan wneud cyfraniadau sylweddol i ymwybyddiaeth amgylcheddol lleol a byd-eang.

Mae’r ysgol gynradd, sydd hefyd yn rhan o raglen Eco-Sgolion Cymru, yn grymuso’r genhedlaeth newydd o eco-ddinasyddion

Ymgysylltodd cymuned gyfan Ysgol Gynradd Cwmfelinfach yn y gwaith o archwilio’r effaith y mae bodau dynol wedi ei chael ar yr amgylchedd. Cafodd y gweithgareddau eu hysbrydoli gan fodelau rôl fel Syr David Attenborough a Greta Thunberg, ynghyd ag “Eco-Arwr” yr ysgol ei hun, Miss Hawkins. Arweiniodd hyn at ddefnyddio Diwrnod y Ddaear 2024 i ddathlu eu cyflawniadau ar y cyd.

Cynhaliodd y disgyblion amrywiaeth o weithgareddau:

  • Archwilio Lleol: Archwiliodd “Eco-daith” yr ysgol heriau a chyfleoedd amgylcheddol yn eu cymuned, yn cynnwys astudiaeth o Afon Sirhywi. Cofnododd y dysgwyr lygredd yn ystod taith gerdded ffotograffiaeth ac estyn allan i Gyfoeth Naturiol Cymru i eirioli dros gadwraeth afonydd.
  • Effaith Ymarferol: Cynhaliodd y myfyrwyr ddigwyddiadau codi sbwriel a chyfrannu at welliant amlwg ar dir yr ysgol ac yn yr ardal leol. Cynyddwyd yr ymdrechion hyn gan yr ‘Heddlu Bach’, menter arloesol sydd yn cael ei arwain gan y myfyrwyr yn mynd i’r afael â baw cŵn a hyrwyddo perchnogaeth cŵn cyfrifol trwy brosiect LEAD Cyngor Caerffili.
  • Ymchwil Ymgysylltu: Ar draws y grwpiau blwyddyn, archwiliodd y plant faterion amgylcheddol tyngedfennol fel tranc anifeiliaid a dysgu am ffyrdd o ofalu am fywyd gwyllt. Adeiladodd y disgyblion fwydwyr, tai trychfilod, a chynefinoedd i ddenu peillwyr a rhywogaethau eraill.

Fe wnaeth sesiynau ymgysylltu rhieni ehangu cyrhaeddiad y fenter ymhellach, gan alluogi teuluoedd i wneud addewid i weithredu’n gynaliadwy.

Mae gweithredoedd yr ysgol hefyd wedi ysgogi newidiadau cadarnhaol yn y gymuned ehangach lle, er enghraifft, mae cymryd rhan mewn digwyddiadau codi sbwriel a phrosiect LEAD wedi cynyddu ymwybyddiaeth cymunedol ac wedi meithrin teimlad gwirioneddol o rannu cyfrifoldeb.

Mae rhandir llewyrchus yr ysgol wedi dod yn ganolbwynt ar gyfer dysgu amgylcheddol, gan greu cynnyrch ffres a rhoi cyfleoedd garddio ymarferol. Trwy rannu’r diweddariadau hyn trwy Class Dojo a Facebook, mae’r ysgol wedi annog cyfranogiad ehangach gan deuluoedd a’r gymuned, gan ennyn adborth brwydfrydig gan rieni a gofalwyr.

Mae angen i ni ailgylchu heddiw, fel petai dim yfory i'w gael.

Mali 6 oed

Fe wnaethom gymryd rhan ym mhrosiect LEAD Cyngor Caerffily i addysgu ein cymuned am wella diogelwch a lles cŵn. Fe wnaeth y plan greu posteri gwych.

Mrs Hawkins athrawes

Trwy ei hymdrechion parhaus, mae Ysgol Gynradd Cwmfelinfach yn esiampl o rym addysg a chydweithredu cymunedol i ysgogi newid amgylcheddol, gan sicrhau bod ei dysgwyr yn tyfu’n eiriolwyr dros ddyfodol gwyrddach.

Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Forward 4 Fairyland

Darllen rhagor

Ysgol Bryngwyn, Gum Drop Project

Darllen rhagor

Ymladdwyr gwastraff bwyd

Darllen rhagor
Mae llaw yn ychwanegu croen moron at fin compost sy'n llawn sbarion llysiau fel croen nionyn, croen banana, tomatos a ffa gwyrdd.
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13