Achub ein cefnforoedd: ymagwedd ysgol gyfan
Codi ymwybyddiaeth o statws llygredd y Cefnfor a gweithredu i leihau plastig untro.
Beth wnaethoch chi a sut gwnaethoch chi gynnwys yr ysgol gyfan?
Crëodd arweinwyr pwnc adnoddau a chynlluniau gwersi yn ymwneud â thema Achub ein cefnforoedd.
Trefnwyd taith i Rhosili, Gŵyr ar gyfer Blwyddyn 7 ac 8 i gyd mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Cadwraeth Forol i arsylwi llygredd plastig a glanhau’r traeth. Crëodd y myfyrwyr waith fel erthyglau, mapiau a phosteri ar lygredd plastig a chafodd y rhain eu dangos mewn arddangosfa i’r gymuned leol. Adolygodd yr Eco-Bwyllgor y lle gorau i osod tair ffynnon ddŵr newydd i annog pobl i ail-lenwi, yn hytrach na phrynu poteli newydd. Cynhaliwyd diwrnod gwisg eich hun gyda’r myfyrwyr yn gwisgo glas i godi ymwybyddiaeth o lygredd plastig gyda’r arian yn mynd tuag at y ffynhonnau dŵr.
Sut a pham y gwnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn?
Cafodd angen ei amlygu yn yr adolygiad amgylcheddol a daeth y syniad yn rhannol o gyfarfodydd yr Eco-Bwyllgor, lle’r oedd myfyrwyr wedi gweld y mater yn y cyfryngau ac eisiau mynd i’r afael â hyn.
Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?
Cafodd tair ffynnon arall eu gosod o amgylch adeilad yr ysgol ac mae’r myfyrwyr bellach yn dod â chynwysyddion y gellir eu hail-lenwi, yn hytrach na phrynu dŵr potel. Codwyd yr arian ar gyfer y ffynhonnau dŵr yn ystod y diwrnod gwisg eich hun, gyda chyfanswm o £592 yn cael ei gasglu. Wrth lanhau’r traeth, casglwyd tri bag bin du o sbwriel a malurion plastig yn Rhosili. Cynhaliwyd arddangosfa ‘Arddangos Cefnforoedd’ ar ôl ysgol ym mis Gorffennaf, gyda’r gymuned leol yn mynychu a dysgu am y materion trwy weld y gwaith a wnaed ar y thema gan y myfyrwyr. Cawsom gryn dipyn o adborth cadarnhaol gan bobl a busnesau lleol oedd yn dweud y byddent yn lleihau eu defnydd o blastig ac yn chwilio am ddewisiadau amgen.
Sut gwnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?
Mae thema ‘Achub ein Cefnforoedd’ a lleihau gwastraff bellach yn cael ei chynnwys yn benodol ym mhob pwnc gyda gwersi newydd a hyd yn oed cynlluniau gwaith yn cael eu dylunio o’i hamgylch, fel Daearyddiaeth cyfnod allweddol 3.
Hyd yn hyn yn ystod y flwyddyn academaidd hon, rydym eisoes wedi dechrau lobïo Powys Catering, sydd yn cynnal y ffreutur, i gael gwared ar y ffyrc plastig a ddefnyddir ac i leihau’r cwpanau plastig y maent yn eu defnyddio ar hyn o bryd, sydd yn dod i gyfanswm o gant y dydd.
Rwy'n falch o'n holl fyfyrwyr a staff am gydlynu ymateb mor wych gan yr ysgol gyfan i thema Achub ein Cefnforoedd. Tynnodd yr arddangosfa sylw at y gwaith anhygoel a wnaed a phwysleisiodd ein hethos o gynaliadwyedd i'r gymuned gyfan.
Jackie Parker Pennaeth
Nid yn unig y gwnaeth y diwrnod heb wisg ysgol gyda phobl yn gwisgo glas i bobl feddwl am yr effaith sydd gennym ar y cefnforoedd gyda'n gwastraff plastig, ond fe helpodd hefyd i godi arian i brynu ffynhonnau dŵr a fydd yn lleihau'r angen i brynu dŵr potel.
Iris Knapman Blwyddyn 13
Llenwch ein ffurflen ac ysbrydolwch eraill.
Cyflwyno stori ysgogwyr newid
Dysgwch fwy o wybodaeth am y saith cam i lwyddiant.
Sut mae’n gweithioCael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill
Y Prosiect TAITH
Darllen rhagor
Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur
Darllen rhagor
Clwt Pwmpen Abermorddu
Darllen rhagor








