Cefnogi dull integredig o ddysgu ac addysgu
Mae’r naw pwnc Eco-Sgolion cydgysylltiedig yn rhoi cyfle i ddatblygu dull thematig ar draws pob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh).
Mae hyn, nid yn unig yn caniatáu i fyfyrwyr ddod yn fwy soffistigedig yn eu dealltwriaeth amgylcheddol, ond mae hefyd yn eu galluogi i wneud cysylltiadau a throsglwyddo sgiliau a ddysgwyd. Mae gennym ystod o anodau sydd wedi’u dylunio i hybu’r cysylltiadau trawsgwricwlaidd hyn.
Gweld ein hadnoddauO fudd i gymunedau lleol, Cymru a’r byd
Mae rhaglen Eco-Sgolion yn cysylltu cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Yn fwy na hynny, mae’r naw pwnc Eco-Sgolion yn cyd-fynd â llawer o 17 Nod Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Lleol
Mae Eco-Sgolion yn cael eu hannog i edrych y tu hwnt i diroedd yr ysgol, estyn allan i’r gymuned ehangach a mynd i’r afael â materion lleol.
Cenedlaethol
Mae’r rhaglen wedi’i gwreiddio yn niwylliant Cymru ac mae wedi’i chydnabod ar lefel cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi cefnogi’r rhaglen am fwy na 20 o flynyddoedd.
Rhyngwladol
Mae Eco-Sgolion yn ffenomen fyd-eang sy’n gweithredu mewn 70 o wledydd. Mae cymryd rhan yn y rhaglen yng Nghymru yn gwneud eich ysgol yn rhan o deulu byd-eang o fwy na 56,000 o ysgolion ledled y byd sy’n cymryd camau cadarnhaol i greu dyfodol cynaliadwy.
Mae Eco-Sgolion wedi sicrhau bod eco-addysg nid yn unig yn‘ychwanegiad’ ar gyfer ticio bocs ESDGC. Mae wedi sicrhau ein bod wedi sefydlu eco-addysg trwy’r cwricwlwm cyfan. Mae ein disgyblion yn fwy ymwybodol o’u hamgylchedd a’r ffordd y gall y penderfyniadau y maent yn eu gwneud gael effaith waeth neu well arno.
Ysgol Uwchradd Bassaleg
Mae ysbryd yr E-dîm yn anhygoel ac mae’r disgyblion wrth eu bodd yn cymryd rhan weithredol bob wythnos. Maent yn ymfalchïo yn eu hysgol… Eleni, rydym yn disgwyl gweld 40 a mwy o aelodau yn mynychu’r E-dîm am eu bod wedi gweld drostynt eu hunain pa mor werthfawr yw’r clwb. Mae’n anrhydedd gweld y balchder hwn yn y plant a’r awydd i ddiogelu’r amgylchedd.
Ysgol Gynradd Eastern
Cofrestrwch eich ysgol gydag Eco-Sgolion Cymru a dechreuwch eich taith gynaliadwyedd.
Darganfod mwyMae ein holl Eco-Sgolion yn gweithio drwy saith cam. Ar ôl i ysgol roi hyn ar waith a chasglu tystiolaeth o’i chynnydd, mae’n gallu gwneud cais am wobr Eco-Sgolion.
Sut mae'n gweithio







