Gweithio mewn partneriaeth
Comisiynwyd Cadwch Gymru’n Daclus gan Gymdeithas Bêl‑droed Cymru (FAW) i greu tair gardd natur hygyrch ar eu safleoedd yn Hensol, Casnewydd a Wrecsam, mewn partneriaeth ag ysgolion lleol.
Yn dilyn trafodaethau gyda staff FAW, cafodd pob gardd ei chynllunio i gynnwys gwely uchel mawr, planhigion deniadol sy’n gyfeillgar i beillwyr, perlysiau synhwyraidd a phlanhigion dringo, ynghyd â blychau cynefinoedd a bwydwyr i gefnogi bywyd gwyllt lleol. Yn ogystal, gosodwyd tywarchen blodau gwyllt a physt cynefinoedd a ddyluniwyd yn arbennig i atal ceir rhag parcio ar y glaswellt ar safle Wrecsam, a gosodwyd tri phlanwyr patio ar gyfer bwyd a pherlysiau yn Hensol, fel y gallai’r cogyddion dyfu eu cynnyrch ffres eu hunain.
Darparodd Cadwch Gymru’n Daclus weithdai addysgol i ysgolion lleol ar fioamrywiaeth, cynaliadwyedd, natur a phwysigrwydd gofalu am gynefinoedd lleol a’u gwella. Yna, cymerodd yr ysgolion ran mewn sesiynau plannu ac addysgol yn eu safleoedd Gerddi FAW lleol.
Roedd y contract yn cynnwys cost staff Cadwch Gymru’n Daclus i reoli’r prosiect; cael afael ar holl eitemau’r ardd; cydlynu gweithgarwch gwirfoddolwyr; a chefnogi a goruchwylio’r ysgolion lleol; a goruchwilio staff a chwaraewyr FAW wrth iddynt osod y gerddi a chyflwyno gweithdai ymgysylltu ag ysgolion. Mae’r ymagwedd hwn yn hanfodol wrth feithrin ymdeimlad o falchder a pherchnogaeth yn y gerddi ar gyfer y dyfodol. Roedd Cadwch Gymru’n Daclus yn gyfrifol am sicrhau bod pob gweithgaredd yn cael ei gynnal yn ddiogel, gan gynnwys asesiadau risg a briffiau iechyd a diogelwch.
Lleolwyd y gerddi mewn mannau amlwg fel eu bod yn weladwy i gymaint o bobl â phosibl.
Mae’r prosiect yma wedi bod yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau pêl‑droed ac amgylcheddol yn dod ynghyd gyda phwrpas cyffredin. Mae gweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus ac ysgolion lleol wedi ein helpu i wireddu ein nodau cynaliadwyedd, gan greu gwelyau uchel a phlanwyr sy’n cefnogi bioamrywiaeth ac yn ychwanegu bywiogrwydd gwirioneddol i’n swyddfeydd.
Jason Webber Uwch Reolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chynaliadwyedd, Cymdeithas Bêl‑droed Cymru
A oedd y prosiect werth ei wneud?
Roedd y prosiect yn llwyddiant mawr. Mwynhaodd pawb a oedd yn rhan ohono’r profiad ac ennill gwybodaeth, sgiliau newydd a brwdfrydedd dros natur a’r amgylchedd.
Mae’r tair gardd natur yn bwynt trafod gwirioneddol. Maent yn edrych yn wych ac yn derbyn sylwadau cadarnhaol a chanmoliaeth yn rheolaidd gan staff ac ymwelwyr fel ei gilydd. Profodd y gerddi’n llwyddiant ar unwaith gyda bywyd gwyllt hefyd, gyda gwenyn, pryfed ac adar yn defnyddio’r mannau o fewn munudau i’w cwblhau.
Mae cyfranogiad y staff a’r ysgolion wedi meithrin ymdeimlad cryf o falchder a pherchnogaeth, gan greu cysylltiad dyfnach â’r mannau newydd. Mwynhaodd y disgyblion eu sesiynau addysgol i gyd, gan gael hwyl a dysgu ar yr un pryd.
Mae staff FAW eisoes wedi sylwi ar gynnydd mewn bywyd gwyllt o amgylch y safleoedd, ac mae eu timau wedi mwynhau casglu’r llysiau a’r perlysiau a dyfwyd. Dywedodd un aelod o staff, “Mae’n atgof gwych y gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr – i natur, i bobl ac i’n planed.”
Roedd Cadwch Gymru’n Daclus yn hynod gefnogol o’n grŵp o ddysgwyr ac wedi rhoi ymdeimlad gwirioneddol o berchnogaeth iddynt yn ystod eu hymweliad. Roedd y cyfle oddi ar y safle yn brofiad cyffrous ac ysbrydoledig i’n dysgwyr.
Danielle (Dan) Lee Dirprwy Brif Athro, Ysgol Gynradd Romilly
Cawsant gyfle i arddangos eu sgiliau a rhannu eu mewnwelediadau wrth archwilio’r tiroedd o’u cwmpas a chymryd rhan mewn plannu. Rhoddodd natur ymarferol y prosiect ymdeimlad o feddwl cydgysylltiedig i’r plant ynghylch gwelliannau amgylcheddol yn eu cymuned eu hunain.
Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill
Gosod safonau: Coed Cwm Penllergaer
Darllen rhagor
Siop ‘dros dro’ i ail-garu hen wisg ysgol
Darllen rhagor
Ysgol Dŵr y Felin Castell-nedd Port Talbot
Darllen rhagor












