JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
I fusnesauSbwriel a gwastraff

Ymgyrch Sbwriel Smygu: Keep Britain Tidy

Rhannu

Stympiau sigaréts yw’r math mwyaf cyffredin o sbwriel yn y DU, sef 66% o’r holl eitemau sy’n cael eu gollwng, gyda dim ond un o bob wyth yn cael eu gwaredu’n iawn. Gallant gymryd hyd at 14 mlynedd i ddadelfennu, gan ollwng tocsinau sy’n niweidio bywyd gwyllt ac yn llygru ein hamgylchedd.

Mewn gwyliau, mae sbwriel sigaréts yn broblem benodol a’r unig fath na ellir ei glirio’n effeithiol o laswellt, gan adael miloedd o stympiau bach, niweidiol ar ôl sy’n difetha’r amgylchedd a’r profiad cyffredinol mewn gwyliau.

Roedd ‘Stamping Out Cigarette Litter’ yn ymgyrch amlflwyddyn a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Cadwch Gymru’n Daclus. Roedd yr ymgyrch yn cynnwys sawl elfen, gan gynnwys ymgyrch deledu genedlaethol, cyfryngau digidol ac ymgyrch bosteri (yn cynnwys negeseuon ‘hwyaden’ i atgoffa mynychwyr yr ŵyl am bwysigrwydd gwaredu sigaréts yn iawn). Yn ogystal, gosodwyd biniau smygu trawiadol mewn lleoliadau strategol o amgylch safleoedd gwyliau a miloedd o Flychau Stympiau ecogyfeillgar, y gellir eu hailddefnyddio, yn cael eu dosbarthu am ddim i smygwyr.

Cynhaliwyd ymgyrch 2025 yng Nghymru mewn 3 gŵyl yng Nghymru:

  • Pride Caerdydd
  • Gŵyl y Dyn Gwyrdd
  • Gŵyl Elvis ym Mhorthcawl

Gwisgodd staff a gwirfoddolwyr Cadwch Gymru’n Daclus grysau-t ‘Hwyaden’ yr ymgyrch ac roedden nhw’n bresennol yn y gwyliau i sgwrsio â mynychwyr yr ŵyl am waredu sigaréts mewn ffordd gyfrifol, yn dosbarthu bocsys stympiau am ddim ac yn cynnal arsylwadau o ymddygiad smygwyr.

 

 

Stympiau sigaréts yw un o'r mathau mwyaf parhaus a niweidiol o sbwriel, a gall gwyliau adael effaith barhaol ar ein mannau gwyrdd. Drwy ein hymgyrch ‘Stamping Out Cigarette Litter’ rydyn ni wedi dangos, gyda’r negeseuon cywir, offer ymarferol fel Blychau Stympiau, a sgyrsiau positif ar lawr gwlad, y gallwn helpu pobl i newid eu hymddygiad ac i ddiogelu amgylchedd Cymru i bawb ei fwynhau.

Louise Tambini Dirprwy Brif Weithredwr, Cadwch Gymru’n Daclus

A oedd y prosiect werth ei wneud?

Ystyriwyd bod yr ymgyrch yn hynod o effeithiol. Roedd y prif lwyddiannau’n cynnwys:

  • Cododd ymwybyddiaeth o broblem sbwriel smygu a’r niwed y mae stympiau yn ei gael ar fywyd gwyllt.
  • Helpodd i newid ymddygiad smygwyr, gyda nifer o smygwyr yn dal i ddefnyddio’r bocsys stympiau a roddwyd yn 2024, a dywedodd dros 80% o’r bobl a holwyd yn 2025 y byddent yn parhau i ddefnyddio eu bocs stympiau yn y dyfodol.
  • Roedd yn galonogol y gwelwyd 67% o smygwyr yn Pride a 75% yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd yn gwaredu eu stympiau yn y ffordd iawn mewn bin smygu, bin arferol neu flwch llwch poced.
  • Cafodd yr ymgyrch groeso mawr gan fynychwyr a threfnwyr ym mhob un o’r tair gŵyl, gan helpu i godi proffil Cadwch Gymru’n Daclus ymhlith cynulleidfaoedd newydd ac i roi cyfle i drafod sbwriel smygu, yn ogystal â’n mentrau eraill gyda mynychwyr.
  • Fe wnaeth yr ymgyrch hon ein galluogi hefyd i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli newydd, fel cynnig tocynnau am ddim i’r ŵyl yn gyfnewid am ychydig oriau o ddosbarthu blychau llwch, a oedd yn ffordd wych o gwrdd â gwirfoddolwyr newydd ac i ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth.
Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Lleihau Gwastraff Bwyd yn Ysgol Gynradd Waun Wen

Darllen rhagor
Grŵp bach o ddysgwyr, mae dau ohonyn nhw'n eistedd i lawr gyda hambwrdd bwyd, ac mae dysgwr arall yn sefyll y tu ôl iddyn nhw.

Cerdded ar ddydd Mercher

Darllen rhagor
Pedwar person ifanc mewn gwisg ysgol yn cerdded ar ffordd.

Cadwch y Fenni’n Daclus

Darllen rhagor
A group of six volunteers, outside a red building, all smiling carrying red litter bags
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13