JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Arwyr Sbwriel

Efallai bod ein Harwyr Sbwriel yn dod o gefndiroedd gwahanol, ond maen nhw’n rhannu un peth: ymrwymiad i ofalu am eu cymunedau.

Arwr Sbwriel y tu allan yn codi sbwriel ar y glaswellt ar ddiwrnod heulog

Arwyr Sbwriel ar waith

O un flwyddyn i’r llall, mae Arwyr Sbwriel yn camu i’r adwy, yn gweithredu ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Edrychwch ar yr effaith y cawson nhw yn 2025!

8031

o weithgareddau wedi eu cynnal ledled Cymru

13056

o oriau wedi eu neilltuo i lanhau eu hamgylchedd lleol

18151

o fagiau o sbwriel ac ailgylchu wedi eu casglu

Arwr Sbwriel yn gwenu ar y camera, yn dal codwr sbwriel a bag

Ymunwch â’n byddin o Arwyr

Dewch yn Arwr Sbwriel a helpwch i wneud eich cymuned yn lanach, yn wyrddach ac yn harddach i bawb.

Fel Arwr Sbwriel, chi sy’n dewis ble rydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth: eich stryd, eich hoff barc, y traeth lleol neu fan hardd cudd. Mae pob digwyddiad codi sbwriel, bach neu fawr, yn helpu i ddiogelu bywyd gwyllt, yn hybu balchder lleol ac yn ysbrydoli eraill i weithredu.

Byddwn yn sicrhau bod gennych yr yswiriant, yr arweiniad a’r gefnogaeth barhaus sydd ei hangen arnoch i godi sbwriel yn ddiogel. Mewn sawl ardal, gallwn hefyd ddarparu offer, ac rydym yn annog gwirfoddolwyr i ddefnyddio eu Hybiau Codi Sbwriel neu brynu eu hoffer eu hunain o’n siop.

Yr unig beth rydyn ni’n ei ofyn yw eich bod yn:

  • Cadw mewn cysylltiad â’ch swyddog prosiect lleol.
  • Cofnodi’r hyn rydych yn ei gasglu gan ddefnyddio ein system eCyfrif Cymru syml.
  • Dilyn ein canllawiau diogelwch.

Ymunwch â channoedd o bobl ledled Cymru sydd eisoes yn helpu i ddiogelu’r mannau y maen nhw’n eu caru.

 

Siaradwch â’ch swyddog prosiect lleol

Os hoffech chi ymuno â’n byddin o Arwyr Sbwriel, cysylltwch â’ch swyddog prosiect lleol.

Ydych chi eisiau cynnal digwyddiad sbwriel untro?

Ewch i’ch Hyb Codi Sbwriel agosaf i gael benthyg offer am ddim.

Dewch o hyd i Hyb Codi Sbwriel
Eisiau cwrdd â gwirfoddolwyr o’r un anian?

Defnyddiwch ein map i ddod o hyd i grŵp cymunedol lleol.

Ewch i’n map
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13