JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Bwrdd Ieuenctid

Fel rhan o’n huchelgais i rymuso pobl ifanc, un o’n pedair thema allweddol yn strategaeth Ein Cymru Hardd ar gyfer 2022-2030, fe wnaethom sylweddoli bod angen llwyfan arnom ar gyfer pobl ifanc 16–25 oed i leisio eu barn am faterion amgylcheddol, herio ein tybiaethau a chyflwyno syniadau ffres.

Mae’r Bwrdd Ieuenctid yn gweithredu o dan ddatganiad cenhadaeth wedi ei diffinio gan ei haelodau: “Grymuso arweinwyr ifanc i greu Cymru harddach trwy weithredu cadarn a lleisiau amrywiol.”

Tri ffrind yn edrych ar ffôn clyfar wrth sefyll ar stryd gul rhwng adeiladau cerrig.

Sut mae’n gweithio?

Mae’r Bwrdd Ieuenctid yn cyfarfod bob tri mis (weithiau ar-lein, weithiau mewn person). Mae’r cyfarfodydd hyn yn fannau diogel lle mae cyfraniad pawb yn cael ei werthfawrogi yn gyfartal.

Gyda’i gilydd, mae aelodau’n nodi’r materion y maent eisiau mynd i’r afael â nhw, yn datblygu ac yn monitro eu cynllun gweithredu eu hunain.

Anogir aelodau i fod yn onest am y ffordd y maent yn credu y dylai Cadwch Gymru’n Daclus fod yn gofalu ar ôl yr amgylchedd.

Mae’r grŵp yn gweithio’n agos gyda’n Bwrdd Ymddiriedolwyr ac fe’i cefnogir gan aelod o staff Cadwch Gymru’n Daclus. Mae’r aelod o staff hwn wrth law i helpu gyda’r holl bethau arferol, yn cynnwys trefnu cyfarfodydd ac ysgrifennu nodiadau.

Os hoffech ganfod mwy am recriwtio i’r Bwrdd Ieuenctid, neu am unrhyw beth arall, cysylltwch ag info@keepwalestidy.cymru.

Cysylltwch
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13