JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Data sbwriel

Mae Cymru’n wynebu argyfwng sbwriel!

Mae sbwriel yn niweidio ein hamgylchedd ac yn bygwth ein bywyd gwyllt. Mae hefyd yn effeithio ar ein lles, ein hiechyd a’n hamgyffrediad o ddiogelwch.

Mae data cadarn a chyson yn darparu tystiolaeth sy’n hanfodol ar gyfer gweithredu ar y cyd ar lefel genedlaethol a chymunedol.

Archwilio ein tystiolaeth

Mae ein data’n dangos materion sbwriel cyffredin ledled Cymru. Rydym yn casglu’r data hwn yn flynyddol trwy arolygon sbwriel cadarn, gan ddefnyddio ein methodoleg GLÂN (Dadansoddiad Sbwriel Geo-ofodol.

I ddechrau, byddwch yn gweld y canlyniadau ar gyfer y flwyddyn gyfredol, yn diweddaru rhwng Ebrill a Thachwedd, wrth i’r data gael ei gasglu. Gellir gweld blynyddoedd blaenorol trwy fynd trwy’r ddewislen ar y brig. Mae’r rhain yn cael eu cyhoeddi unwaith bydd y flwyddyn arolygu’n dod i ben.

Mae’r data’n dangos amcangyfrif o’r nifer o eitemau ar draws pob man cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar nifer yr eitemau o sbwriel a gyfrifwyd yn ystod ein harolygon a’r amcangyfrif o ardal yr holl safleoedd arolygu posibl ar draws y wlad.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein data sbwriel, e-bostiwch leq@keepwalestidy.cymru neu edrychwch ar y cwestiynau cyffredin isod.

Cwestiynau Cyffredin

Darganfyddwch fwy am ein data a’n tystiolaeth.

Mae’r Dadansoddiad Sbwriel Geo-ofodol (GLÂN) yn fethodoleg monitro sbwriel o safon fyd-eang. Cafodd GLÂN ei chreu gan Cadwch Gymru’n Daclus ac mae wedi’i chynllunio i: 

  • Ddarparu tystiolaeth ar gyfer polisi amgylcheddol 
  • Mesur glendid mewn cymunedau ledled Cymru.  

Gyda chynllun peilot wedi ei gynnal yn 2025, mae arolygon GLÂN yn digwydd mewn mannau sydd yn hygyrch i’r cyhoedd gan gynnwys strydoedd, meysydd parcio, mannau gwyrdd a thraethau dŵr ymdrochi.

Mae arolygon GLÂN yn cael eu cynnal gan staff sydd wedi eu hyfforddi i gofnodi sbwriel a materion ansawdd amgylcheddol lleol ehangach ac maen nhw wedi disodli’r fethodoleg hanesyddol o’r enw LEAMS wnaeth redeg o 2007 i 2024.

 

Mae’r holl waith casglu data yn gadarnhaol oherwydd mae’n darparu tystiolaeth i alluogi newid.

2025 oedd blwyddyn gyntaf casglu data sbwriel gan ddefnyddio methodoleg GLÂN, felly ni allwn gymharu â data blaenorol er mwyn gallu dweud a yw’r argyfwng sbwriel yn gwella neu’n gwaethygu.

Bob blwyddyn, rydym yn lledaenu arolygon dros 20% o Gymru. Erbyn 2030, byddwn wedi arolygu safleoedd ym mhob rhan o’r wlad.

Wrth i fwy o ddata gael ei gasglu, gellir gwneud cymariaethau o un flwyddyn i’r llall. Gall hyn helpu i fonitro tueddiadau ac effaith y polisi dros amser.

Byddai’n amhosibl i ni ymweld â phob man cyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn.

Rydym yn defnyddio system gadarn i gyfrifo sawl man y mae angen i ni ei harolygu bob blwyddyn, sydd yn sicrhau bod ein data’n cynrychioli pob awdurdod lleol (a Chymru gyfan) i lefel hyder o 90%.

Bydd data byw yn ymddangos uchod rhwng Ebrill a Thachwedd wrth i safleoedd gael eu harolygu. Mae’r ffigurau diweddaraf sydd wedi eu hallosod yn cael eu diweddaru unwaith y flwyddyn unwaith y bydd blwyddyn arolwg wedi dod i ben – fel arfer cyn diwedd y flwyddyn galendr.  

Gellir gweld blynyddoedd blaenorol trwy fynd i’r ddewislen ar y brig. 

Cofnodi gweithgaredd

Bob tro byddwch yn llenwi’r ffurflen hon, byddwch yn helpu i ddatblygu darlun gwell o weithgaredd gwirfoddoli ledled Cymru.

Mynd i eCyfrif Cymru
Polisi ac ymchwil

Mae gennym dîm ymroddedig o arbenigwyr sy’n parhau i ymchwilio, monitro a dadansoddi materion ansawdd amgylcheddol lleol fel sbwriel a baw cŵn.

Polisi ac Ymchwil
Wedi eich ysbrydoli i weithredu?

Mae grwpiau cymunedol ar hyd a lled y wlad yn chwilio am wirfoddolwyr.

Dod o hyd i’ch grŵp lleol
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13