Dewisiwch i weithio gyda ni
Ni fu gofalu am ein hamgylchedd erioed yn bwysicach. Mae ymwybyddiaeth y cyhoedd o sbwriel a difrod amgylcheddol yn tyfu, ac mae cymunedau ledled Cymru yn galw am weithredu. Drwy ddewis Cadwch Gymru’n Daclus fel eich Elusen y Flwyddyn, gall eich busnes chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu a gwella’r lleoedd lle’r ydym ni i gyd yn byw, yn gweithio ac yn ymweld â nhw.
Fel elusen gofrestredig, rydym ni’n dibynnu ar haelioni ac ymrwymiad partneriaid i gefnogi ein gwaith amgylcheddol ledled Cymru.
Dim ond trwy gweithio gyda’n gilydd, gallwn sicrhau newid gwirioneddol a pharhaol drwy greu cymunedau glanach a gwyrddach y gall pawb eu mwynhau.
Pam ein dewis ni?
Mae dewis Cadwch Gymru’n Daclus yn ffordd bwerus o ddangos i’ch staff, cwsmeriaid a phartneriaid fod eich sefydliad o ddifrif ynglŷn â chynaliadwyedd a chefnogi cymunedau lleol.
Bydd eich cefnogaeth yn ein helpu i gyflawni ein cenhadaeth: Cymru brydferth y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau.
Trwy bartneriaeth â Cadwch Gymru’n Daclus gallwch wneud y canlynol:
- Dangos eich ymrwymiad i gyfrifoldeb amgylcheddol a chymdeithasol corfforaethol
- Cefnogi cymunedau lleol a mannau gwyrdd
- Cynnwys staff mewn cyfleoedd gwirfoddoli ystyrlon
- Cryfhau cymwysterau cynaliadwyedd eich sefydliad
- Gwneud gwahaniaeth diriaethol i’r lleoedd lle mae eich busnes yn gweithredu
Sut gall eich staff gymryd rhan
Rydym ni’n gweithio gydag ysgolion, grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr a busnesau drwy gydol y flwyddyn ar ystod eang o brosiectau amgylcheddol.
Fel ein partner Elusen y Flwyddyn, byddai croeso i’ch staff gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau rydym ni’n eu trefnu, megis:
- Glanhau cymunedol
- Plannu coed a gwella cynefinoedd
- Prosiectau ymgysylltu gydag ysgolion ac ieuenctid
- Ymgyrchoedd amgylcheddol lleol
- Diwrnodau gwirfoddoli corfforaethol
Mae’r gweithgareddau hyn yn ffordd wych o feithrin ysbryd tîm, hybu lles staff a chysylltu gweithwyr â’r cymunedau o’u cwmpas.
Dod yn bartner Elusen y Flwyddyn
Os yw eich sefydliad yn chwilio am bartneriaeth elusennol ystyrlon sy’n sicrhau gwir effaith i bobl a’r amgylchedd, byddem wrth ein bodd yn gweithio gyda chi.
Cysylltwch â’r tîm ar partnerships@keepwalestidy.cymru
Cysylltwch â ni







