Pam cefnogi Cadwch Gymru’n Daclus?
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn un o’r elusennau amgylcheddol mwyaf sy’n gweithio yng Nghymru.
Mae gennym rwydwaith o dros 200,000 o wirfoddolwyr, ac rydym yn cefnogi ysgolion, grwpiau cymunedol a byddin o sefydliadau o’r un anian bob dydd i wella ansawdd amgylchedd Cymru.
Pam noddi Her Hinsawdd Cymru?
Cyfle i gefnogi pobl ifanc Cymru i chwarae rhan actif mewn:
- Addusg amgylcheddol
- Arloesedd
- Atebion sy’n seiliedig ar natur
- Gweithredu ar newid hinsawdd
Profiad hollol fythgofiadwy. Roedd y gwaith caled (a’r hwyl) yn arwain at y gystadleuaeth yn anhygoel. Roedd y digwyddiad yn gwbl ysbrydoledig. Roedd yn ddiddorol gweld syniadau newydd a chwrdd â phobl o’r un anian sy’n gofalu am ein hamgylchedd.
Fleur Jones Blwyddyn 9, Ysgol Uwchradd Gwernyfed
Cafodd ein prosiect ei ysbrydoli gan y materion a godwyd yn ein Cynhadledd Hinsawdd COP flynyddol (Cynhadledd Pennar), felly mae’r gwaith wedi’i arwain yn wirioneddol gan y dysgwyr. Mae pob disgybl ac aelod o staff wedi bod yn rhan o’r gwaith hwn, ac mae’n parhau yn yr ysgol. Rydym wrth ein bodd bod eu gwaith caled a’u hymroddiad wedi cael eu cydnabod yng ngwobrau Her Hinsawdd Cymru.
Mae wedi bod yn hynod ysbrydoledig gweld yr holl waith gwych sy’n digwydd mewn ysgolion ledled Cymru, ac mae wedi rhoi llawer o syniadau i ni ar gyfer yr hyn yr hoffem ganolbwyntio arno y flwyddyn nesaf.
S. Taylor Athro, Ysgol Gynradd Gymunedol Pennar
Yr Earthshots
Rhaid i’r cystadleuwyr ddewis un o bum thema Earthshot ar gyfer eu fideo Her Hinsawdd Cymru:
- Adeiladu Byd Diwastraff
- Glanhau Ein Haer
- Trwsio Ein Hinsawdd
- Adfywio ac Adfer Natur
- Adfywio Ein Cefnforoedd
Nawdd Teitl
Her Hinsawdd Cymru 2027 – Noddir gan (enw eich cwmni)
Mae nawdd teitl yn gyfle unigryw i sefyll o flaen ysgolion ledled Cymru a dangos cefnogaeth eich sefydliad i’r gwaith sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â’n heriau hinsawdd pwysig.
Mae hefyd yn blatfform cadarnhaol i dynnu sylw at y gwaith rydych yn ei wneud i gefnogi cynaliadwyedd, effaith gymunedol ac arloesedd amgylcheddol.
Gweithgarwch cyn y digwyddiad
- Enw eich cwmni yn cael ei gynnwys yn nheitl y digwyddiad: Her Hinsawdd Cymru 2027 wedi’i noddi gan [enw eich cwmni]
- Eich logo i ymddangos ar bob deunydd digidol ac argraffedig
- Adran bwrpasol ar dudalennau’r Her ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus
- Datganiad i’r wasg yn cael ei rannu gyda’r wasg a’r cyfryngau cenedlaethol yn cyhoeddi eich cefnogaeth
- Tudalen noddwr yn rhaglen ddigidol y seremoni
- Enw a logo eich sefydliad ar bob deunydd print, digidol a chyfryngau cymdeithasol sy’n gysylltiedig â’r Her
- Gwahoddiad i fod yn rhan o’r panel(au) beirniadu i gytuno ar yr enillwyr
Gweithgarwch yn ystod y gwobrau
- Stondin hyrwyddo yn y lleoliad
- Gwahoddiadau i’r digwyddiad
- Gwahoddiad i gyflwyno araith brif anerchiad
- Gwahoddiad i gyflwyno’r gwobrau
Buddsoddiad
Ar gais. Cysylltwch â ni am ragor o fanylion.
Contact us
Dewch yn noddwr
Mae nawdd ar gyfer Her Hinsawdd Cymru 2026 bellach wedi dod i ben, ond rydym wedi agor ein pecyn ar gyfer 2027 fel y gweler uchod.
I drafod hyn gyda’r tîm, neu i ofyn am ein pecyn nawdd llawn gyda phrisiau wedi’u diweddaru, cysylltwch â partnerships@keepwalestidy.cymru
Contact us







