Beth yw Hybiau Casglu Sbwriel?
Mae Hybiau Casglu Sbwriel yng nghanol gweithgaredd casglu sbwriel cymunedol lleol, gan gefnogi gwirfoddolwyr a meithrin balchder yn eu hardal leol.
Mae pob hyb yn cynnig mynediad am ddim i offer casglu sbwriel ac yswiriant, fel y gall unrhyw un, unrhyw bryd, dorchi llewys a chymryd rhan.
Mae arian nawdd yn mynd yn uniongyrchol tuag at ariannu’r hybiau hollbwysig hyn.
Beth fydd eich arian yn talu amdano?
Defnyddir arian nawdd i sefydlu a rhedeg Hybiau Casglu Sbwriel yn uniongyrchol.
Cymorth Cadwch Gymru’n Daclus adeg lansio:
- Nodi lleoliad ar gyfer hybiau newydd
- Dod o hyd i sefydliad rheoli
- Recriwtio a hyfforddi rheolwr yr hyb
- Sefydlu prosesau monitro a rheoli data
- Lansio gyda digwyddiad casglu sbwriel mewn partneriaeth â’ch sefydliad
Offer a chymorth, gan gynnwys:
- Offer casglu sbwriel a’r bagiau coch eiconig
- Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer yr hyb a’r gwirfoddolwyr
Cymorth parhaus, gan gynnwys:
- Cyngor, cymorth ac anogaeth i reolwr yr hyb
- Hyrwyddo’r hyb drwy fap rhyngweithiol Cadwch Gymru’n Daclus ac ar gyfryngau cymdeithasol
Pam ddylech chi noddi ein hybiau?
Dyma gyfle unigryw i wneud gwahaniaeth mesuradwy i weithgarwch gwirfoddol lleol yng nghanol y gymuned.
Bydd logo eich brand i’w weld ar lenyddiaeth ar draws yr hyb.
Mae rhoi nawdd i’r hyb hefyd yn:
- Rhoi cyfle i’ch staff feithrin perthnasoedd cymunedol positif drwy fenthyg offer ac ymuno yn y gweithgarwch
- Fuddiol i lesiant staff drwy fentro i fyd natur
- Sicrhau ardal leol sy’n lanach ac yn fwy deniadol
- Cefnogi eich gwaith gwerth cymdeithasol
- Creu cyhoeddusrwydd positif yn yr ardal leol ac ar lwyfan ehangach
Buddsoddiad
Noddi canolfannau newydd (lleiafswm o 6 chanolfan)
Cost fesul canolfan: £3,000 + TAW
Noddi canolfannau presennol
Dylai’r canolfannau fod mewn ardal sy’n gysylltiedig mewn rhyw ffordd â’ch cynnyrch neu’ch gwasanaeth.
Cost fesul canolfan: £2,000 + TAW
Cysylltwch â ni
Os ydych chi’n credu bod gennych gynnyrch neu wasanaeth sy’n cyd-fynd â’n gwaith a bod diddordeb gennych i weithio gyda ni, cysylltwch â ni: partnerships@keepwalestidy.cymru
Cysylltwch â ni







