JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Gweithdy Eco-Bwyllgor: Ein Llais, Ein Hysgol, Ein Byd

Tri pherson ifanc yn eistedd wrth fainc bicnic, mae dau ohonyn nhw'n edrych i lawr a'r llall yn pwyntio at lyfr.

Mae’r digwyddiad hwn yn croesawu dysgwyr i’w rôl newydd a hanfodol o fod yn rhan o Eco-Bwyllgor.

Mae’r Eco-Bwyllgor yn grŵp pwysig o ddisgyblion. Maen nhw’n gwrando ar bawb yn yr ysgol ac yn gweithio gyda’i gilydd i ddechrau syniadau newydd, cymryd camau gweithredu a chydweithio i gyflawni eu nodau.

Bydd y sesiwn hwn helpu i sbarduno creadigrwydd ac ateb unrhyw gwestiynau y bydd gan ddysgwyr newydd am y cynllun.

Yn ystod y gweithdy bydd aelodau’r pwyllgor yn dysgu sut i greu effaith fawr yn eu hysgolion. Byddan nhw hefyd yn dysgu o gyflawniadau ysgolion eraill yng Nghymru. Bydd y disgyblion yn cael llwyfan i rannu eu syniadau eu hunain yn ystod y sesiwn.

Mae’r pynciau wedi’u rhannu’n dri sesiwn hamddenol a byddan nhw’n cael eu cynnal drwy’r flwyddyn.

  • Sesiwn Un, 09 Hydref 2025: Sut ydych chi’n gallu cynllunio i wneud gwahaniaeth mawr a phwy yw’r bobl sy’n gallu eich helpu ar hyd y daith? Mae’r sesiwn hwn yn cyflwyno disgyblion i’r rhaglen Eco-Sgolion a rôl yr eco-bwyllgor yn yr ysgol ac yn y gymuned.
  • Sesiwn Dau, 05 Chwefror 2026: Monitro a gwerthuso eich camau gweithredu. Yn ystod y sesiwn mae disgyblion yn gallu dysgu am ddiwrnodau gweithredu rhyngwladol a chael ysbrydoliaeth gan Eco-Sgolion eraill. Mae’r wers yn anelu at annog disgyblion i gynllunio ar gyfer tymor y Gwanwyn a thymor yr Haf.
  • Sesiwn tri, 18 Mehefin 2026: Mae’r sesiwn hwn yn annog eco-bwyllgorau i fyfyrio ar y gwaith gwych maen nhw wedi’i wneud dros y flwyddyn a dod at ei gilydd i ddysgu am yr hyn mae eco-bwyllgorau dros y byd wedi’u cyflawni hefyd.

Bydd pob sesiwn yn cael ei gynnal rhwng 2:00 – 2:30pm.

Manylion y digwyddiad

DateDyddiad
LocationLleoliad
Ar-lein
Cofrestrwch eich diddordeb
Rhannu
Ein hysgolion

Gallwch ganfod sut mae ysgolion yn eich ardal chi’n ei wneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.

Darganfod mwy
Her Hinsawdd Cymru
Golygfa o'r Ddaear o'r gofod yn y nos, gyda goleuadau dinas i'w gweld ar ochr dywyll y blaned.

Mae'r her arloesi ysgol hon yn gwahodd dysgwyr 5–18 oed i arddangos syniadau ar gyfer planed well.

Darganfod mwy
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13