DATHLU 330 O BARCIAU A MANNAU GWYRDD SYDD WEDI ENNILL GWOBRAU

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Mynegai Sbwriel Cymru

Mae’r Mynegai Sbwriel Cymru yn offeryn rhyngweithiol i weld canlyniadau sydd bron yn fyw o’n harolygon sbwriel. Dros amser, bydd y canlyniadau hyn yn datblygu darlun gwirioneddol o sbwriel ledled Cymru.

Nodwch fod yr Mynegai Sbwriel Cymru yn waith ar y gweill, ac rydym yn gofyn am eich amynedd wrth i ni wneud gwelliannau dros y misoedd i ddod.

Ar hyn o bryd, mae’r data’n cael ei weld orau ar sgrin cyfrifiadur lawn.

Rydym hefyd yn ymwybodol nad yw’n bodloni ein Hymrwymiad i’r Gymraeg ar hyn o bryd, ac felly rydym yn gweithio gyda darparwr y platfform wrth i ni archwilio ffyrdd o wella hyn.

Potel blastig ar y palmant

Ymwadiadau

Datblygwyd y fethodoleg a’r deunyddiau cysylltiedig gan Cadwch Gymru’n Daclus, ac mae’r data wedi’i wneud ar gael yn gyhoeddus yn unol â’n hegwyddorion allweddol ar gyfer datblygu. Ariannwyd hyn gan Lywodraeth Cymru.

Cesglir data GLÂN gan arolygwyr hyfforddedig sy’n dilyn methodoleg GLÂN Mae hyn yn cynnwys arolygu tir sy’n hygyrch i’r cyhoedd, gan gynnwys safleoedd sy’n eiddo i sefydliadau heblaw’r awdurdod lleol. Nid yw’n cynnwys safleoedd sy’n peri risgiau diogelwch sylweddol neu sy’n cael eu hystyried yn anymarferol i’w harolygu, er enghraifft traffyrdd a llwybrau anghysbell.

Noder, er bod pob ymdrech wedi’i gwneud drwy’r broses hidlo safleoedd i eithrio tir nad yw’n hygyrch i’r cyhoedd, gall fod amgylchiadau lle mae’r tir hwn wedi’i arolygu.

Nid yw’r data yn disodli unrhyw gynlluniau monitro neu adrodd presennol sydd gan dirfeddianwyr ar waith i sicrhau cydymffurfiaeth â’r amseroedd ymateb statudol.

Gan fod pob ardal arolygu yn cynnwys y tir o’i chwmpas, nid yw’r data hwn yn briodol fel tystiolaeth ar gyfer Hysbysiadau Atal Sbwriel.

Dim ond ar ddiwedd pob blwyddyn arolygu (erbyn 31 Rhagfyr) y mae’r data yn gynrychioliadol ar gyfer pob awdurdod lleol, ar ôl cwblhau’r holl arolygon. Dylai data arolygon unigol fod ar gael o fewn 24 i 48 awr i gwblhau’r arolwg.

Gwneir pob ymdrech i ddileu gwybodaeth sy’n gallu adnabod unigolion mewn ffotograffau drwy bicseleiddio, er mwyn cydymffurfio â GDPR, gan gynnwys wynebau a phlatiau cofrestru cerbydau.

Mae’r holl ddata yn parhau i fod yn ©hawlfraint Cadwch Gymru’n Daclus.

Os hoffech ddefnyddio’r data hwn, cyfeiriwch atom fel a ganlyn:

Cadwch Gymru’n Daclus. 2026. Mynegai Sbwriel Cymru. Ar gael yn: Mynegai Sbwriel Cymru – Keep Wales Tidy

Nid yw Cadwch Gymru’n Daclus yn gyfrifol am ddadansoddi neu gyflwyno’r data hwn gan bartïon allanol nad yw wedi’i gymeradwyo gennym ni.

Caiff yr holl ddata crai ei ddarparu’n flynyddol i DataMap Cymru fel rhan o’n cytundeb partneriaeth ag Ordnans Arolwg.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at leq@keepwalestidy.cymru.

Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13