Sut mae'n gweithio
Mae adnoddau Eco-Tots Cymru yn rhad ac am ddim ac ar gael i bawb.
Er mwyn manteisio’n llawn ar y rhaglen a gweithio tuag at Wobr Flynyddol Eco-Tots Cymru, mae angen i leoliadau gofrestru ac ymgysylltu â dysgu ar draws chwe thema: Tîm Taclus, Bywyd Gwyllt Bendigedig, Ceidwad Ynni, Coed Campus, Arbed ac Ailddefnyddio, a Dechrau o Hedyn.
Dyma drosolwg o daith Eco-Tots, ond am fanylion llawn, ewch i’r dudalen sut mae’n gweithio.
Cofrestru
Cofrestrwch eich diddordeb gan ddefnyddio’r ffurflen isod. Unwaith y byddwch chi wedi cael eich cymeradwyo, byddwn yn anfon pecyn o adnoddau atoch ac yn eich gwahodd i ymuno â’n hyfforddiant cyflwyniadol.
Dewis thema
Dewiswch y thema gyntaf yr hoffech chi ganolbwyntio arni. Cwblhewch yr archwiliad syml, nodwch y camau y byddwch chi’n eu cymryd, ac archwiliwch y gweithgareddau a’r adnoddau sy’n gysylltiedig â’r thema.
Manteisio i’r eithaf ar eich sachau gweithgareddau
Byddwn yn darparu ‘sach gweithgareddau’ ar gyfer pob thema, wedi’i chynllunio i’w hanfon adref gyda phlentyn gwahanol bob penwythnos, gan roi cyfle i deuluoedd barhau i archwilio gweithgareddau gyda’i gilydd.
Dweud wrthym ni sut rydych chi’n dod yn eich blaen
Llwythwch dystiolaeth o’ch cynnydd i’n porth ar-lein wrth i chi weithio drwy’r themâu.
Gwneud cais am wobr!
Unwaith y byddwch chi wedi cwmpasu o leiaf bedair o’r chwe thema, gallwch wneud cais am eich Gwobr Eco-Tots Cymru!
Archwilio ein themâu a’n hadnoddau
Barod i ddechrau? Edrychwch ar ein hadnoddau a’n gweithgareddau rhad ac am ddim, wedi’u dylunio gan arbenigwyr ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar.
Cofrestru eich diddordeb
Os ydych chi’n ymarferydd blynyddoedd cynnar, cwblhewch y ffurflen isod i gofrestru eich lleoliad.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â ni. Anfonwch e-bost i eco-tots@keepwalestidy.cymru
Cysylltwch â ni - rydyn ni yma i helpu
Os oes gennych chi gwestiynau am Eco-Tots neu os oes angen unrhyw gymorth arnoch chi, mae croeso i chi gysylltu â ni.







