Canllaw cam wrth gam i Eco-Tots Cymru
Cofrestru
I ddechrau ar eich taith Eco-Tots, cwblhewch ein ffurflen ar-lein syml – dywedwch wrthym ni am eich lleoliad a pham rydych chi eisiau cymryd rhan.
Unwaith y byddwn ni wedi cymeradwyo eich cofrestriad, byddwn yn darparu dyddiadau ar gyfer eich hyfforddiant cyflwyniadol yn ogystal â manylion hyfforddiant thematig i ymarferwyr.
Rydym ni’n gobeithio gallu cynnwys pob lleoliad sydd â diddordeb, ond mae gennym uchafswm capasiti y gallwn ni ddarparu adnoddau ar eu cyfer bob blwyddyn. Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin isod i ddysgu mwy.
Dewis thema
Dechreuwch drwy ddewis un o’n chwe thema: Tîm Taclus, Bywyd Gwyllt Bendigedig, Ceidwad Ynni, Coed Campus, Arbed ac Ailddefnyddio, a Dechrau o Hedyn.
Mae archwiliad byr ar gyfer pob thema sydd wedi’i gynllunio i’w gwblhau gyda dysgwyr i gefnogi eu harchwiliad o’r hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn y gellid ei wella yn eu lleoliad ac o’i gwmpas. Gellir defnyddio hyn i nodi un cam gweithredu y gallwch chi ei gymryd fel grŵp.
Gellir defnyddio’r adnoddau thematig ar y wefan i archwilio cysyniad craidd y thema ac maen nhw wedi’u cynllunio fel man cychwyn ar gyfer ymchwilio i’r gwahanol feysydd. Er y gellir archwilio pob thema’n annibynnol, gellir hefyd eu dilyn yn gyfannol, gan fod llawer o’r themâu yn cysylltu ac yn atgyfnerthu ei gilydd yn naturiol.
Nid oes angen amserlen benodol ar gyfer pob thema; efallai y byddwch chi’n treulio wythnos, mis neu fwy yn ymwneud â’r gweithgareddau. Gallwch hefyd ddewis pa themâu i ymgysylltu â nhw ar wahanol adegau o’r flwyddyn. Mae’r adnoddau a’r syniadau gweithgareddau wedi’u datblygu gyda gwahanol ystodau oedran mewn golwg, gan ganiatáu i chi addasu a dyfnhau’r dysgu i weddu i’ch dysgwyr.
Er mwyn ennill eich Gwobr Eco-Tots Cymru, bydd angen i chi fod wedi cwmpasu pedair o’r chwe thema.
Manteisio i’r eithaf ar eich sachau gweithgareddau
Mae sach gweithgareddau yn gysylltiedig â phob thema, a bydd yn cael ei hanfon atoch fel rhan o’ch adnoddau Eco-Tots Cymru.
Mae pob sach yn cynnwys gweithgaredd syml y gellir ei fwynhau gartref – gan helpu i gefnogi cyfranogiad teuluoedd ac archwiliad parhaus o’r thema.
Byddwn yn cynnwys cyfarwyddiadau syml a chod QR sy’n cysylltu â fideo byr i helpu teuluoedd i ddechrau. Boed yn chwilio am bryfed bach, yn archwilio coeden, neu’n plannu berwr gyda’i gilydd, mae’r gweithgareddau’n hwyl, yn hawdd eu dilyn, ac wedi’u cynllunio i’w cwblhau dros benwythnos, gyda theulu gwahanol yn cymryd rhan bob tro.
Bydd hefyd ffurflen adborth fer i’w chwblhau ar gyfer pob sach gweithgareddau, gan alluogi rhieni neu ofalwyr i rannu eu profiadau.
Dweud wrthym ni sut rydych chi’n dod yn eich blaen
Unwaith y byddwch chi wedi cael eich derbyn ar y rhaglen, byddwn yn rhoi mewngofnod i borth ar-lein Eco-Tots Cymru i chi.
Dyma lle byddwch chi’n uwchlwytho lluniau o weithgareddau dysgu, eich archwiliadau a’ch cynlluniau gweithredu wedi’u cwblhau, dyfyniadau gan blant a rhieni, ac unrhyw dystiolaeth o effaith ar ddysgwyr.
Gwneud cais am wobr!
Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau pedair thema neu fwy, bydd dau gyfle yn ystod y flwyddyn i wneud cais am Wobr Eco-Tots Cymru – ym mis Mawrth a mis Mehefin.
Er y bydd yr asesiad yn cael ei gwblhau’n rhithiol, os byddwch chi angen unrhyw gefnogaeth wyneb yn wyneb, rydym ni bob amser yn hapus i helpu. Gallwch gysylltu â’ch Swyddog Addysg lleol neu gysylltu â’n Swyddog Eco-Tots am gyngor ac arweiniad pellach.
Cwestiynau Cyffredin
Dim. Rydym ni’n falch iawn o ddweud bod Eco-Tots yn hollol rhad ac am ddim, diolch i gefnogaeth Moondance Foundation!
Mae’r rhaglen wedi’i bwriadu ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar sy’n gwasanaethu plant dan bum mlwydd oed ac nad ydynt yn cael eu hariannu na’u llywodraethu fel rhan o ysgol. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth a gynhelir a darpariaeth nas cynhelir, ar draws sesiynau gofal rhan-amser a diwrnod llawn.
Rydym ni’n gobeithio gallu cynnwys pob lleoliad sydd â diddordeb, ond mae gennym ni uchafswm capasiti bob blwyddyn. Dyna pam rydym ni’n annog lleoliadau cymwys i gofrestru cyn gynted â phosibl.
Mae adnoddau dysgu ar-lein a hyfforddiant thematig ar gael yn rhad ac am ddim i bob darparwr; fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oes gennym y capasiti i gyflenwi adnoddau ffisegol i warchodwyr plant. Rydym ni’n gwerthfawrogi eich dealltwriaeth ac yn gobeithio datrys hyn yn fuan.
Bydd hyfforddiant rhithiol yn cael ei ddarparu ar sut mae’r rhaglen yn gweithio a sut i symud ymlaen i ennill eich Gwobr Eco-Tots Cymru. Byddwn hefyd yn darparu hyfforddiant sy’n gysylltiedig â phob thema, gan helpu i adeiladu gwybodaeth a hyder ymarferwyr.
Bydd ein Swyddog Eco-Tots ymroddedig bob amser wrth law i helpu, ac mae gennym dîm o arbenigwyr addysg ledled Cymru sy’n gallu cynnig cyngor a chefnogaeth leol.
Mae cynnwys y rhaglen wedi’i gynllunio’n ofalus i gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir, yn ogystal â fframwaith Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (ECPLC). Er mwyn cefnogi hyn yn effeithiol, mae Eco-Tots Cymru yn darparu:
- Hyfforddiant i oedolion fel eu bod yn teimlo’n hyderus yn eu gwybodaeth ac yn cael eu grymuso fel hwyluswyr medrus – gan gefnogi chwilfrydedd naturiol plant a gwneud y mwyaf o eiliadau dysgu ystyrlon.
- Canllawiau ar gyfer creu amgylcheddau dilys, pwrpasol a difyr sy’n ysbrydoli archwilio, yn meithrin chwilfrydedd, ac yn cefnogi plant i ddarganfod cysyniadau allweddol drwy brofiadau ymarferol.
- Syniadau am brofiadau difyr sy’n meithrin chwilfrydedd naturiol, meddwl creadigol, sgiliau datrys problemau, ac ymdeimlad o ofal am ein cymuned a’n planed – gan helpu i ddatblygu ymdeimlad cryf o gynefin.
- Mae Eco-Tots yn cefnogi pob llwybr datblygiadol drwy annog babanod a phlant i dreulio amser yn yr awyr agored, archwilio eu hamgylchedd, defnyddio eu synhwyrau, a phrofi natur yn uniongyrchol. Yn ogystal â hyn, mae plant yn cael eu cyflwyno i ffeithiau hwyliog a diddorol sy’n sbarduno chwilfrydedd a rhyfeddod, gan feithrin ymdeimlad dwfn o berthyn ac awydd i ofalu am y byd o’u cwmpas a’i ddiogelu.
- Mae Eco-Tots hefyd yn cryfhau’r cysylltiad rhwng y cartref a’r lleoliad drwy ddarparu gweithgareddau difyr i blant eu mwynhau gyda’u rhieni neu ofalwyr. Mae’r profiadau hyn yn cyflwyno syniadau syml sy’n addas i’w hoedran am heriau amgylcheddol ac yn grymuso teuluoedd gyda ffyrdd ymarferol y gallant i gyd chwarae rhan wrth ofalu am ein planed.
Mae ein holl adnoddau ar-lein ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un eu defnyddio, ac mae ein hyfforddiant thematig ar agor i rieni yn ogystal ag ymarferwyr.
Os yw eich plentyn yn mynychu darpariaeth feithrin, gallwch eu hannog i gofrestru ac ymgysylltu â’r rhaglen!
Mae’r adnoddau wedi’u cynllunio fel canllaw i weithgareddau i ennyn diddordeb dysgwyr, ond nid ydynt yn rhagnodol. Gellir addasu pob un i weddu i wahanol anghenion ac maen nhw wedi’u cynllunio i fod yn aml-synhwyraidd.
Nid oes gofyniad i ymgysylltu â phob gweithgaredd – gall ymarferwyr ddewis pa weithgareddau sydd fwyaf addas i blant yn eu lleoliad.
Rydym ni hefyd yn croesawu adborth ynghylch lle mae angen datblygu ymhellach neu lle gellid gwneud addasiadau. Anfonwch e-bost i eco-tots@keepwalestidy.cymru
Ar hyn o bryd, dim ond yn Gymraeg a Saesneg mae ein hadnoddau ar gael.
Os hoffech gael mynediad atynt mewn iaith wahanol, cysylltwch â’r tîm i drafod eich anghenion. Anfonwch e-bost i eco-tots@keepwalestidy.cymru
Cofrestru eich diddordeb
Os ydych chi’n ymarferydd blynyddoedd cynnar, cwblhewch y ffurflen isod i gofrestru eich lleoliad.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â ni. Anfonwch e-bost i eco-tots@keepwalestidy.cymru







