Am y wobr
Mae’r beirniaid yn awyddus i glywed am brosiectau arloesol sy’n mynd i’r afael â materion amgylcheddol tyngedfennol, yn arbennig y rheiny sy’n cynnwys cymuned yr ysgol gyfan – gan annog dysgwyr, staff a rhieni i newid eu hymddygiad.
Gallai’r enwebiadau gynnwys:
- Ysgol yn ymuno â busnesau lleol i leihau plastigau untro.
- Eco-bwyllgor yn cysylltu â dysgwyr mewn gwlad arall i ddatblygu ymgyrch.
- Sefydlu cynllun cyfnewid dillad a gwisg ysgol llwyddiannus sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd yn yr ardal leol.
Mae’r wobr hon yn deyrnged dwymgalon i’n cydweithiwr a’n cyfaill, Matt Bunt, fu farw yn annisgwyl y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd Matt yn rhan ganolog o’n tîm Eco-Sgolion Cymru am bron i 20 mlynedd. Roedd yn ymroddedig, yn garedig a bob amser yn gwenu, ac roedd ei angerdd am yr amgylchedd, yn ei waith a’i fywyd personol, yn heintus.
Ar ôl ei farwolaeth, fe wnaethom addewid i anrhydeddu ei waddol ac rydym yn credu bod y wobr hon, sy’n arddangos gweithgareddau rhagorol gan Eco-Sgolion, yn ffordd addas o’i anrhydeddu.
Gwybodaeth ofynnol
Mae’r categori hwn yn agored i’r holl Eco-Sgolion sydd wedi eu cofrestru yng Nghymru.
Ar gyfer Gwobr Rhagoriaeth Eco-Sgolion Matt Bunt, bydd y beirniaid yn chwilio am y wybodaeth ganlynol:
- Sut mae’r rhaglen Eco-Sgolion wedi cael ei sefydlu ar draws cymuned yr ysgol gyfan?
- Pa dargedau y mae’r ysgol wedi canolbwyntio arnynt?
- Sut mae’r ysgol wedi mesur ei heffaith?
- Sut gwnaeth yr ysgol hysbysu a chynnwys y gymuned ehangach?
- Pa newidiadau mewn ymddygiad sydd wedi cael eu gweld ymlith disgyblion, staff a rhieni?
- Beth yw’r camau nesaf? Sut mae’r ysgol yn datblygu’r prosiect hwn?
Dylai eich cais gynnwys tystiolaeth fideo a / neu ffotograffig.
Cyflwyno'ch enwebiad
Llenwch y ffurflen enwebu isod. Noder, nid oes gan y ffurflen hon swyddogaeth ‘arbed’. Byddwch yn gallu mynd yn ôl a diwygio gwybodaeth cyn cyflwyno eich ffurflen, ond dylech osgoi adfywio eich porwr.
Os yw’n haws, gallwn lawrlwytho fersiwn Microsoft Word o’r ffurflen a’i hanfon yn ôl atom drwy e-bost neu’r post. Darperir y manylion ar y ffurflen.
Os na allwch gyfleu yn ysgrifenedig pam yr hoffech enwebu rhywun am wobr, gallwch hefyd anfon nodyn llais neu enwebiad fideo atom. Ni ddylai’r nodyn llais neu’r fideo fod yn fwy na phum munud ac mae’n rhaid cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol.
Gellir anfon nodiadau llais ar WhatsApp i 07469 118914 neu eu hanfon ar ebost i twa@keepwalestidy.cymru. Rydym yn gofyn i chi ddilyn hyn gyda lluniau i ddangos effaith gadarnhaol yr unigolyn, grŵp, ysgol neu fusnes – unwaith eto, gellir anfon y rhain ar WhatsApp neu ar ebost.
Gellir ebostio enwebiadau fideo i twa@keepwalestidy.cymru.
Croesewir enwebiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae’n rhaid cyflwyno’r holl enwebiadau erbyn 18.00 ddydd Mawrth 30 Mehefin. Ni fydd enwebiadau a dderbynnir ar ôl hyn yn cael eu hystyried.
Gwobrau Cymru Daclus 2026 ffurflen enwebu
Cysylltwch â ni
Angen help gyda’ch enwebiad? Mae croeso i chi gysylltu â’r tîm.







