English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Gweithdy Tocio Perllannau’r Haf

Afalau ar goeden o flaen awyr las.

Ymunwch â ni am weithdy Tocio Perllannau’r Haf dan arweiniad y Tom the Apple Man profiadol yn Stori Brymbo.

Bydd y sesiwn ymarferol hon yn eich dysgu sut a pham i docio coed perllan yn ystod misoedd yr haf. Byddwch yn dysgu technegau i helpu i wella ansawdd ffrwythau, cynyddu llif aer trwy’r canopi, lleihau’r risg o glefyd, ac annog coed perllan iach a chynhyrchiol.

P’un a ydych chi’n gofalu am un goeden ffrwythau yn eich gardd neu’n rheoli perllan gymunedol, bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder i chi i gadw’ch coed yn ffynnu.

Yr hyn y byddwch chi’n ei ddysgu:

  • Pam mae tocio yn yr haf yn bwysig
  • Technegau tocio ymarferol yn yr haf
  • Sut y gall tocio wella ansawdd ffrwythau
  • Lleihau clefydau a gwella iechyd coed
  • Awgrymiadau ar gyfer cynnal coed perllan iach a chynhyrchiol

Cyflwynir y gweithdy hwn fel rhan o brosiect y Goedwig Hir Drefol. Dros y tair blynedd nesaf, byddwn yn plannu gwrychoedd newydd ledled Wrecsam, gan gynnwys coed perllan safonol traddodiadol o fewn llawer o’r gwrychoedd hyn. Drwy fynychu’r hyfforddiant hwn, byddwch yn ennill sgiliau gwerthfawr ac yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gofalu am y coed hyn wrth iddynt aeddfedu, gan helpu i greu etifeddiaeth barhaol i bobl, bywyd gwyllt a chenedlaethau’r dyfodol.

Os oes gennych eich secateurs eich hun, dewch â nhw gyda chi. Os nad oes, bydd nifer cyfyngedig ar gael i’w benthyg yn ystod y gweithdy.

Darperir lluniaeth drwy gydol y dydd. Dewch â’ch cinio eich hun, neu, os yw’n well gennych, gellir prynu cinio o’r caffi yng Nghanolfan Fenter Brymbo.

Mae’r gweithdy hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr ac unrhyw un sy’n edrych i feithrin eu sgiliau rheoli perllannau. Gwisgwch ddillad awyr agored addas ac esgidiau cadarn, gan y bydd yr elfen ymarferol yn digwydd yn yr awyr agored.

Wedi’i wneud yn bosibl gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae prosiect y Goedwig Hir Drefol yn helpu i adfer gwrychoedd, ailgysylltu cymunedau â natur a chadw sgiliau traddodiadol ledled Cymru.

Cyflwynir prosiect y Goedwig Hir Drefol mewn partneriaeth gan Cadwch Gymru’n Daclus, Llais y Goedwig, Coed Cadw (Ymddiriedolaeth Coedlannau Cymru) ac Addysg Oedolion Cymru, gan gydweithio i greu lleoedd iachach a gwyrddach i bobl a bywyd gwyllt.

Manylion y digwyddiad

DateDyddiad
LocationLleoliad
Stori Brymbo, New High Street, Brymbo, Wrecsam, LL11 5AX
Archebwch eich lle
Rhannu
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13