Ydych chi’n chwilfrydig am brosiect y Goedwig Hir Drefol a sut gallwch chi gymryd rhan?
Ymunwch â ni ar gyfer y weminar fyw hon i ddarganfod sut mae prosiect y Goedwig Hir Drefol yn diogelu, yn adfer ac yn dathlu coedwrych a choed hynafol a choed sydd wedi goroesi mewn cymunedau trefol ledled Cymru.
Nod y prosiect yw dod â natur yn agosach at y mannau lle mae pobl yn byw, cryfhau mannau gwyrdd lleol a chefnogi bioamrywiaeth, gwella lles ac ysbrydoli balchder cymunedol. Mae gweithgareddau yn digwydd leded Caerdydd, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam.
Wedi eu cynnal gan Morgan Nicholls, Cydlynydd y Goedwig Hir Drefol, bydd y sesiwn ddiddorol hon yn cyflwyno’r prosiect, yn archwilio ei uchelgais ac yn amlygu ffyrdd y gallwch gymryd rhan yn eich ardal leol. Bydd digon o gyfle hefyd i ofyn cwestiynau yn ystod sesiwn Holi ac Ateb fyw.
P’un ai eich bod yn breswylydd lleol, yn wirfoddolwr, grŵp cymunedol, neu â diddordeb mewn natur a thirweddau trefol Cymru, mae croeso i bawb ymuno.
Bydd y weminar yn cael ei ffrydio’n fyw ar dudalen Facebook y Goedwig Hir Drefol ac ar sianel YouTube Cadwch Gymru’n Daclus, felly does dim angen cadw lle, gallwch ymuno ar y diwrnod.
Dilynwch dudalen Facebook y Goedwig Hir Drefol a thanysgrifiwch i’n sianel YouTube i wneud yn siŵr nad ydych yn ei cholli. Trowch yr hysbysiadau ymlaen (cliciwch ar y gloch ar YouTube) i gael eich hysbysu pan fyddwn yn mynd yn fyw ar gyfer hon a gweminarau yn y dyfodol.
Gwnaed yn bosibl diolch i gymorth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Darperir y prosiect mewn partneriaeth â Choed Cadw, Addysg Oedolion Cymru, Llais y Goedwig ac awdurdodau lleol. Gyda’n gilydd, rydym yn cyd-ddylunio ac yn cyflwyno rhaglen o addysg, hyfforddiant a gweithredu cadwriaethol ymarferol.
Felly rhowch nodyn atgoffa yn eich calendr ac ymunwch â ni am noson o sgwrsio am goedwrych, coed hynafol a sut y gallwn, gyda’n gilydd, helpu i dyfu’r Goedwig Hir Drefol a diogelu’r cynefin hwn sydd yn flaenoriaeth am genedlaethau i ddod.
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Lleoliad
- Ar-lein







