Dewch i Barc Gwledig Gnoll a darganfod prosiect y Goedwig Hir Drefol yng Nghastell-nedd Port Talbot, tra’n bod yn greadigol gyda deunyddiau o goedwrych!
Bydd Wild Plant Paper yn ymuno â ni ac yn dangos i chi sut i wneud papur hardd wedi ei wneud â llaw gan ddefnyddio deunyddiau naturiol o’r coedwrych. Cyfuniad perffaith o gadwraeth a chreadigrwydd. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i greu eich bomiau hadau eich hun i fynd â nhw gartref gyda chi a helpu i greu mwy o fannau gwyllt.
Mae prosiect y Goedwig Hir Drefol yn diogelu, yn adfer ac yn dathlu coedwrych a choed hynafol ac aeddfed ledled Castell-nedd Port Talbot. Trwy ddigwyddiadau gwirfoddoli, hyfforddi a chymunedol, rydym yn gweithio gyda phobl leol i helpu i ddiogelu a gwella’r cynefinoedd pwysig hyn ar gyfer bywyd gwyllt a chenedlaethau’r dyfodol.
Gwnaed hyn yn bosibl diolch i gymorth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ac mae’r prosiect yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Choed Cadw, Addysg Oedolion Cymru, Llais y Goedwig ac awdurdodau lleol. Gyda’n gilydd, rydym yn cyd-ddylunio ac yn cyflwyno rhaglen o addysg, hyfforddiant a chadwraeth ymarferol.
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Lleoliad
- Gnoll Country Park, Neath, SA11 3EF







