Dewch i ddarganfod am brosiect y Goedwig Hir Drefol yn Wrecsam a dysgu sut y gallwch helpu i adfer a diogelu ein coedwrych lleol hanfodol.
Bydd James o’r Woodland Classroom yn ymuno â ni hefyd am sesiwn arbennig yn archwilio ein mannau gwyrdd lleol. Byddwch yn gallu rhoi cynnig ar de coedwrych adfywiol, creu eich crefftau coedwrych eich hun, a darganfod y straeon y tu ôl i goed aeddfed Parc Acton fel rhan o Stocrestr Coed Hynafol Coed Cadw.
Byddwn yn talu teyrnged arbennig i Goeden y Flwyddyn 2023, y Gastanwydden anhygoel 480 mlwydd oed!
Mae prosiect y Goedwig Hir Drefol yn diogelu, yn adfer ac yn dathlu coedwrych a choed hynafol ac aeddfed ledled Wrecsam. Trwy ddigwyddiadau gwirfoddoli, hyfforddi a chymunedol, rydym yn gweithio gyda phobl leol i helpu i ddiogelu a gwella’r cynefinoedd pwysig hyn ar gyfer bywyd gwyllt a chenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r prosiect, a wnaed yn bosibl trwy gymorth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, wedi ei gyflwyno mewn partneriaeth â Choed Cadw, Addysg Oedolion Cymru, Llais y Goedwig ac awdurdodau lleol. Gyda’n gilydd, rydym yn cyd-ddylunio a chyflwyno rhaglen o addysg, hyfforddiant a chadwraeth ymarferol.
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Lleoliad
- Acton Park, Wrexham, LL12 7YA







