Archwilio ynni, hinsawdd a dŵr trwy Ceidwad Ynni, sesiwn hyfforddi ddifyr awr o hyd a gynlluniwyd i feithrin gwybodaeth a hyder wrth gyflwyno’r pynciau pwysig hyn i blant ifanc.
Beth fydd yn cael ei drafod yn y sesiwn?
Mae’r sesiwn yn esbonio sut mae ynni’n cael ei gynhyrchu, yr effeithiau y gall gwahanol ffynonellau ynni ei gael ar ein planed, beth mae newid yn yr hinsawdd yn ei olygu a pham mae arbed dŵr yn bwysig.
Trwy weithgareddau hwyliog, gweledol a rhyngweithiol, bydd ymarferwyr yn darganfod ffyrdd syml, sy’n briodol i’w hoedran i wneud y syniadau mawr hyn yn hygyrch, gan helpu plant i ddeall sylfeini defnyddio ynni a dŵr yn ddoeth.
Bydd cyfranogwyr yn gadael gyda dulliau ymarferol ac adnoddau difyr a all ysbrydoli chwilfrydedd, annog dewisiadau cadarnhaol bob dydd a dechrau datblygu dealltwriaeth o sut y gallwn ni i gyd leihau ein hôl troed carbon.
Byddwn yn cynnal sesiynau yn Saesneg ac yn Gymraeg:
- Saesneg – 21 Hydref 2026, 1.00yp-2.00yp
- Cymraeg – 22 October 2026, 1.00yp-2.00yp
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Lleoliad
- Ar-lein











